Eich Cartref

Anifeiliaid Anwes - Cadw Anifeiliaid

Allaf i gadw anifail anwes? 

Rydym yn fodlon ichi gadw anifail anwes cyn belled â’i fod yn briodol ar gyfer y math o gartref yr ydych yn byw ynddo ac na fydd e’n tarfu ar bobl eraill na hala ofon arnynt chwaith. Ond mae’n rhaid inni ystyried pob un o’n tenantiaid a rhaid inni wybod i sicrwydd na fydd eich anifail anwes yn achosi unrhyw broblemau. 

Wyf i’n gorfod cael caniatâd i gadw anifail anwes? 

Gallwch chi gadw hyd at ddau anifail anwes yn yr eiddo heb ofyn am ganiatâd y Cyngor. Bydd rhaid ichi ofyn i’ch swyddog tai yn y Cyngor am ganiatâd ysgrifenedig os ydych chi am gadw mwy na dau anifail. 

Yn ôl eich cytundeb tenantiaeth, rhaid ichi beidio â chadw unrhyw anifail sy’n anaddas ar gyfer eich cartref neu’ch gardd, a rhaid i’ch anifail anwes beidio â tharfu ar bobl eraill na hala ofon arnynt chwaith.

Byddwch cystal â dilyn y canllawiau hyn ar gyfer perchnogion anifeiliaid anwes: 

  • Bydd yn rhaid ichi gael caniatâd ysgrifenedig gan y Cyngor os ydych chi’n dymuno adeiladu caetshis i’ch anifeiliaid, fel tŷ adar neu golomendy
  • Ni ddylai eich anifeiliaid achosi niwsans i gymdogion trwy wneud llawer o sŵn
  • Dylai anifeiliaid anwes gael eu cadw mewn cyflwr hylan
  • Dylai cŵn gael eu cadw o dan reolaeth a rhaid iddynt beidio â chrwydro’n rhydd mewn mannau cyhoeddus nac yng ngerddi pobl eraill
  • Ni ddylai cŵn faeddu ar unrhyw fan cyhoeddus. Dylech fod yn ystyriol o bobl, a glanhau ar ôl eich ci bob amser.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mater o synnwyr cyffredin ydyw. Rydym yn berffaith fodlon i bobl gael anifail anwes sy’n ymddwyn yn dda, sy’n dawel ac sydd wedi’i gadw’n ddiogel a sicr – cyn belled â nad yw ef wedi cael ei wahardd gan y gyfraith neu gan unrhyw reolau eraill. Ond os yw’r anifail yn tarfu ar bobl eraill neu’n hala ofon arnynt, yna byddwn ni’n gorfod cymryd camau gweithredu. Bydd y tenant yn gorfod cael gwared â’r anifail neu fentro cael ei ddwyn o flaen llys barn am ymddygiad gwrthgymdeithasol.  

Os oes gennych chi unrhyw amheuaeth ynghylch a yw’r anifail yr ydych yn ei gadw, neu’n dymuno ei gadw, yn addas, dylech gysylltu â ni ar unwaith. Fe roddwn y cyngor iawn ichi er mwyn ichi beidio â chael problemau yn ddiweddarach. Ffoniwch yr Adran Tai ar 01437 764551. 

ID: 1722, adolygwyd 13/09/2022