Eich Cartref
Cymorth gydag addurno
A yw’r Cyngor yn cynnig cymorth gyda chostau addurno?
Pan ydych yn arwyddo’r Cytundeb Tenantiaeth ar gyfer eich cartref, efallai y cewch chi lwfans – bydd hynny’n dibynnu ar gyflwr addurnol eich eiddo. Eich cyfrifoldeb chi yw addurno eich cartref.
Archeb am baent a defnyddiau eraill yw’r lwfans addurno; dylech fynd i mo’yn y defnyddiau hyn o storfeydd depo’r Cyngor yn y swyddfeydd cynnal a chadw Adeiladau, Ystad Ddiwydiannol Thornton, Steynton, Aberdaugleddau
Fel arall, gallwch chi fynd i mo’yn defnyddiau o’r swyddfeydd cynnal a chadw Adeiladau yn Abergwaun, Feidr Castell, Abergwaun.
Rhaid i chi ddechrau ar y gwaith addurno yn fuan ar ôl mynd i mo’yn y defnyddiau, a rhaid ichi ddefnyddio'r rhain ar yr eiddo yr ydych yn denant ynddo.
Os na allwch chi wneud eich gwaith addurno eich hun, ac os nad oes gyda chi ffrindiau na theulu sy’n gallu eich helpu, efallai y gallwch gael cymorth. Byddwch cystal â chysylltu â’ch Swyddog Tai er mwyn cael cyngor.
Ffôn: 0800 085 6622
E-bost: building.maintenance@pembrokeshire.gov.uk