Eich Cartref
Cyngor ynghylch Diogelwch yn y Cartref
Deg darn o gyngor i wneud eich tŷ yn ddiogel:
- Cadwch y ffyrdd mas o’ch cartref yn glir er mwyn i bobl fedru dianc os bydd tân. Gwnewch yn siŵr ei bod yn hawdd i bawb yn eich cartref ddod o hyd i allweddi i’r drysau a’r ffenestri.
- Cymerwch ofal arbennig yn y gegin - mae damweiniau wrth goginio yn gyfrifol am fwy na hanner y tanau mewn cartrefi. Peidiwch byth â gadael plant ifanc ar eu pen eu hunain yn y gegin.
- Cymerwch ofal arbennig wrth goginio gydag olew poeth. Ystyriwch brynu sosban ffrio saim dwfn sy’n cael ei reoli gyda thermostat (os nad oes un gyda chi eisoes).
- Peidiwch byth â gadael canhwyllau’n llosgi mewn ystafelloedd gyda neb ynddynt neu mewn ystafelloedd lle mae plant ar eu pen eu hunain. Gwnewch yn siŵr bod canhwyllau wedi eu dal mewn rhywbeth diogel ar wyneb nad yw’n llosgi ac yn bell oddi wrth unrhyw ddefnyddiau a fyddai’n gallu llosgi.
- Ewch i’r arfer o gau drysau yn y nos. Os oes arnoch chi eisiau cadw drws ystafell wely plentyn ar agor, yna caewch y drysau i’r lolfa a’r gegin. Fe allai hyn helpu i achub eu bywydau os bydd tân.
- Peidiwch â gorlwytho socedi trydan. Cofiwch - un plwg i bob soced.
- Cadwch fatsis a thanwyr mewn man mas o olwg a chyrraedd y plant.
- Cymerwch ofal arbennig pan fyddwch chi wedi blino neu pan fyddwch chi wedi bod yn yfed.
- Byddwch yn siŵr bod gyda chi larymau tân sy’n gweithio wedi eu gosod yn eich cartref. Dylai o leiaf un larwm mwg fod lan y staer ac un i lawr y staer yn y cyntedd.
- Cofiwch roi prawf ar eich larymau mwg unwaith bob wythnos gan ddefnyddio’r botwm prawf coch. Dodwch fatris newydd pan fydd eu hangen. Mae gyda rhai larymau mwg fatri sy’n para 10 mlynedd ynddyn nhw. Does dim angen newid y batris hyn bob blwyddyn ond wedi 10 mlynedd fe ddylech chi osod larwm mwg hollol newydd.
Prawf diogelwch tân am ddim
Er mwyn i lai o bobl gael eu lladd a’u hanafu gan dân, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cychwyn gyda rhaglen o Archwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref (HFSA’s).
Nawr bydd ymladdwyr tân a gweithwyr diogelwch tân cymunedol o’r Gwasanaeth yn ymweld â chartrefi i roi cyngor yn rhad ac am ddim am ddiogelu eich cartref yn erbyn tân, a lle mae’n briodol, gosod larymau tân yn rhad ac am ddim.
Mae eisiau oddeutu awr ar gyfer archwiliad diogelwch tân yn y cartref a bydd dau gynrychiolydd o’r gwasanaeth tân yn ei wneud fel arfer.
Rydych chi’n gallu gofyn am archwiliad diogelwch tân yn y cartref i chi eich hun neu berthynas sy’n dibynnu arnoch chi drwy alw’r gwasanaeth ar 0870 6060699 a dyfynnu: Sir Benfro.
Bydd cynrychiolydd o’r gwasanaeth tân yn cysylltu gyda chi yn y man i drafod eich cais.
Larymau mwg
Os ydych chi’n denant gyda’r Cyngor ac mae eich larwm tân wedi torri neu ryw ddiffyg arno, rydych chi’n gallu galw’r uned cynnal a chadw adeiladau ar 0800 085 6622 i gael ei drwsio neu un newydd.
Diogelwch nwy
Os ydych chi’n gallu gwynto nwy yn eich cartref:
- Agorwch y drysau a’r ffenestri er mwyn i’r aer ddod i mewn
- Edrychwch i weld a yw’r nwy wedi ei adael ymlaen heb ei danio neu a oes fflam beilot wedi diffodd
- Caewch y tap nwy yn y mesurydd
- Peidiwch â thanio matsis na thanwyr
- Peidiwch â defnyddio cloch drws na swîts trydan
Ffoniwch TRANSCO ar 0800 111999
Profion diogelwch blynyddol
Mae’r Cyngor yn gwneud profion diogelwch blynyddol yn rhad ac am ddim ar offer nwy, olew a thanwydd solet. Pan gewch chi ddyddiad ar gyfer y gwasanaeth, mae’n bwysig eich bod yn cadw’r apwyntiad hwn.
Diogelwch tân yn y gegin – yr hanfodion
Pob dydd mae mwy nag 20 o bobl yn y DU yn cael eu lladd neu eu hanafu mewn tanau yn y gegin.
Atal tân cyn iddo ddechrau!
- Cadwch wifrau trydan, llieiniau sychu llestri a dillad oddi wrth y cwcer. .
- Cymerwch ofal os ydych yn gwisgo dillad llac. Mae tân yn gallu cydio ynddo’n hawdd.
- Cadwch y ffwrn, pen y cwcer a’r gril yn lân. Mae casgliad o fraster a saim yn gallu llosgi’n hawdd.
Diogelwch wrth goginio
- Peidiwch â gadael sosbenni ac ati heb neb i ofalu amdanyn nhw. Symudwch nhw oddi ar y tân os byddwch yn mynd mas o’r ystafell.
- Trowch drontolion sosbenni o amgylch fel bod nhw DDIM yn sefyll mas.
- Pan fyddwch chi wedi gorffen coginio, cofiwch sicrhau ddwywaith bod y cwcer neu’r ffwrn wedi ei DDIFFODD.
Ffrio mewn saim dwfn
- Sychwch y bwyd cyn ei ddodi mewn olew poeth.
- Os bydd mwg yn dechrau codi o’r olew – mae e’n RHY dwym. Diffoddwch y gwres a gadael iddo oeri.
- Defnyddiwch sosban drydan ar gyfer ffrio saim dwfn gyda thermostat yn ei rheoli. Dydyn nhw ddim yn gallu gordwymo.
Cymerwch ofal yn hwyr yn y nos
Mae’n hawdd bod yn ddiofal os ydych chi wedi blino neu os ydych chi wedi bod yn yfed.
Beth os bydd sosban yn mynd ar dân?
Os cewch chi dân yn y gegin, peidiwch â cheisio ei ddiffodd.
- Caewch y drws a hala pawb mas o’r tŷ.
- Galwch y frigâd dân a chadw mas hyd nes byddan nhw wedi cyrraedd. Mae’r rhan fwyaf o’r anafiadau sy’n digwydd mewn tanau yn y cartref yn digwydd wrth geisio diffodd tân.
- Peidiwch byth da chi ag arllwys dŵr ar y tân
Mewn argyfwng ffoniwch 999 bob amser