Eich Cartref
Eich ardd
A wyf i’n gyfrifol am ofalu am fy ngardd?
Os oes gardd gyda’ch tŷ Cyngor, y tenant (sef chi) sy’n gyfrifol am ofalu am eich gardd. Mae hyn yn cynnwys:
- Torri’r borfa
- Cadw gerddi, closydd neu dramwyfeydd yn daclus a di-sbwriel
- Sicrhau bod unrhyw brysglwyni, coed a chloddiau yn rhesymol uchel, a pheidio â gadael iddynt fargodi dros eiddo cyfagos na mannau cymunedol chwaith.
Y Cyngor sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r prif lwybrau mynediad presennol (ond nid llwybrau gerddi), stepiau, ffensys sy’n nodi ffin waliau’r eiddo.
Rheoli Tenantiaeth Tai
Ffôn: 01437 764551
E-bost: tenancy.management@pembrokeshire.gov.uk
ID: 1727, adolygwyd 07/01/2025