Eich Cartref
Gwarchod Peipiau'ch Cartref
Yn ystod y gaeaf mae’r tywydd yn gallu bosto peipiau’ch tŷ a difetha’ch cartref. I warchod y peipiau dylech ddilyn y cyngor hwn:
Sut allaf i atal peipiau’m cartref rhag bosto?
Ewch ati i weld ble mae’ch stopfalf, sef y tap sy’n troi mas eich prif gyflenwad dŵr. Dylech gael hyd iddo nawr yn hytrach na chwilio amdano pan fydd gyda chi ddŵr ym mhobman. Mae’n bur debyg taw yn y gegin ar bwys y bosh y mae e.
Dylech ymgynefino â’r offer rheoli gwres yn eich cartref. Gall thermostatau gwres canolog a switsys amser fod yn bethau cymhleth dros ben. Beth am gael cyngor gan beiriannydd gwresogi neu ymgynghorydd ynni.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod â phwy y dylech gysylltu os cewch chi beipen wedi bosto
Os ydych chi’n byw yn un o dai Cyngor Sir Penfro ffoniwch yr adran Cynnal a Chadw Adeiladau ar 0800 085 6622. Gallwch chi ddefnyddio’r rhif hwn 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Cofiwch – dylech ond ffonio y tu fas i’r oriau swyddfa arferol os yw’r broblem yn argyfwng sy’n bygwth eich iechyd, diogelwch neu ddiogeledd.
Pan ydych chi gartref
Os oes gwres canolog gyda chi, defnyddiwch y thermostat er mwyn sicrhau bod y tymheredd yn iawn – nid yn rhy dwym nac yn rhy oer. Yn ystod y dydd mae rhywbeth rhwng 18°C a 22°C yn dymheredd da. Os yw’n rhewi y tu fas, dylech sicrhau bod y gwres wedi’i droi ymlaen gydol yr amser, ond dylech osod y gwres ychydig yn is ar gyfer gyda’r nos. Cofiwch ucha’n y byd yr ydych yn dodi’r thermostat, yna mwya’n y byd o danwydd y byddwch yn ei ddefnyddio.
Pan ydych chi mas
Os oes gwres canolog gyda chi a’ch bod wedi mynd bant yn ystod tywydd oer, dylech adael y gwres ymlaen gydol yr amser a dodi’r thermostat mor isel â 6°C. Bydd hyn yn atal peipiau’ch cartref rhag rhewi ac ni fydd yn ddrud iawn. Os nad oes gwres canolog gyda chi, trowch y dŵr bant gan ddefnyddio’r stopfalf a gadael yr holl ddŵr oer fynd i lawr y bosh. Yna trowch bant y twymwr tanddwr. Os oes boeler tanwydd solet gyda chi, gadewch i’r tân ddiffodd ac yna gadewch i’r holl ddŵr poeth fynd i lawr y bosh
Beth sy’n digwydd os yw peipiau’m cartref yn bosto?
Os yw peipiau’ch cartref yn bosto neu rewi, dyma beth i’w wneud.....
- Trowch bant eich cyflenwad dŵr gan ddefnyddio’r stopfalf – sydd ar bwys bosh y gegin, mae’n debyg.
- Trowch y tapiau dŵr oer YMLAEN. Gwnewch yn siŵr nad yw’r plygiau yn y bosh na’r bath chwaith a chadw’ch rhywfaint o ddŵr i’w yfed.
- Trowch y twymwr tanddŵr a’r gwres canolog BANT. Os oes gyda chi foeler tanwydd solet, gadewch i’r tân diffodd.
- Trowch y tapiau dŵr poeth YMLAEN.
- Os oes dŵr ar bwys y goleuadau neu’r socedi, trowch y trydan bant wrth y mesurydd.
- Defnyddiwch fasnau i ddal unrhyw ddŵr sy’n gollwng. Os oes dŵr wedi gollwng, defnyddiwch dyweli i’w sychu rhag iddo wneud difrod i’ch cartref.
- Os ydych yn byw yn un o dai Cyngor Sir Penfro, ffoniwch yr adran Cynnal a Chadw Adeiladau ar 0800 085 6622. Gallwch chi ddefnyddio’r rhif hwn 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Cofiwch – dylech ond ffonio y tu fas i’r oriau swyddfa arferol os yw’r broblem yn argyfwng sy’n bygwth eich iechyd, diogelwch neu ddiogeledd.
Beth sy’n digwydd os yw peipiau’m cartref wedi rhewi?
Dilynwch gamau 1, 2 a 7 uchod neu os ydych chi’n gwybod pa beipen sydd wedi rhewi, ceisiwch ei thwymo’n raddol fach gyda photeli dŵr twym neu gyda sychwr gwallt. Dylech ddechrau o’r pen sydd agosaf i’r tap.
Manylion cysylltu:
Ffôn: 0800 085 6622
E-bost: building.maintenance@pembrokeshire.gov.uk