Eich Cartref

Gwelliannau i'r cartref

Beth os wyf i am wneud gwelliannau i’m cartref? 

Yn ôl eich cytundeb tenantiaeth mae gyda chi’r hawl i wneud gwelliannau’ch hun i’ch tŷ Cyngor cyn belled â’ch bod chi wedi cael cytundeb ysgrifenedig gyda ni yn gyntaf.

Yr ydym yn hynod fodlon i bobl wneud eu gwelliannau eu hunain a dim ond os oes rheswm dros wneud hynny y byddwn ni’n dweud ‘na’ - pe byddai’r gwaith yn effeithio ar eich cymdogion neu ei fod yn anniogel, er enghraifft.

A wyf i’n gorfod cael caniatâd y Cyngor er mwyn gwneud gwelliannau?

Pe byddai’r Cyngor yn gweld bod gwaith wedi cael ei gwneud heb ganiatâd, yna mae gyda’r Cyngor yr awdurdod i ofyn i chi newid yr eiddo er mwyn iddo edrych fel yr oedd ar y dechrau. Fel arall, fe allai’r Cyngor ofyn i chi wneud gwaith ychwanegol hyd nes bydd e’n bodloni’r safon ofynnol.  Os na allwch chi wneud y gwaith hwn, bydd y Cyngor yn ei gwneud ar eich rhan ac yn codi tâl arnoch am hynny.

Felly, da chi, peidiwch a chychwyn ar y gwaith nes byddwch chi wedi cael y caniatâd mae arnoch chi ei angen - neu efallai y bydd rhaid i chi ailddodi fel yr oedd ar y dechrau!
  
Os hoffech wneud unrhyw welliannau i’ch cartref byddwch cystal â llanw ffurflen gais am wneud newidiadau/gwelliannau i eiddo’r Cyngor neu ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551 er mwyn gofyn am gopi.

Iawndal ar gyfer gwelliannau - Gwelliannau yr ydych chi wedi’u gwneud

Ar ddiwedd eich tenantiaeth efallai y byddwch chi’n gallu cael iawndal am rai gwelliannau yr ydych wedi’u gwneud, o bosibl, i’ch cartref. Gallwch chi gael rhestr o’r gwelliannau cymhwysol gan Adran Tai Cyngor Sir Penfro.

Dim ond ar ddiwedd y denantiaeth y mae iawndal yn daladwy.  Bydd y swm yn cael ei seilio ar gost wreiddiol ac 'oes' ddisgwyliedig y gwaith gwella. Fodd bynnag, bydd rhai amodau neilltuol yn berthnasol a dylech chi gysylltu ag adran Tai Cyngor Sir Penfro ar 01437 764551 er mwyn cael gwybodaeth ychwanegol.

Gwelliannau y mae’r Cyngor wedi’u gwneud

Pan fydd gwelliannau ar fin digwydd, bydd y Cyngor yn gorfod rhoi digonedd o rybudd i chi cyn i ni roi cychwyn ar y gwaith. Os oes unrhyw waith yn difrodi'r arddurn y tu mewn i’ch cartref, yna fe gewch iawndal neu bydd y Cyngor yn cweiro’r difrod.

Mewn rhai achosion efallai y bydd y Cyngor yn gorfod eich symud mas o’ch cartref am gyfnod byr, os yw e’n gorfod gwneud llawer o waith. Hynny yw, moderneiddio ac adnewyddu cartrefi. Byddwch chi a’ch tyaid yn cael eiddo addas arall gyda ni hyd nes bydd y gwaith wedi’i gwpla ac fe gewch iawndal am yr aflonyddwch a achoswyd i chi.

Pan fydd gwaith sylweddol ar fynd byddwn ni’n cysylltu â chi er mwyn ichi gael yr wybodaeth ddiweddaraf un ynghylch sut mae pethau’n bwrw ymlaen ac ynghylch y gwaith sy’n cael ei gwneud.

Mae gwybodaeth ychwanegol am y ddogfen hon ar gael gan Adran Tai Cyngor Sir Penfro.

 
ID: 1726, adolygwyd 03/10/2024