Eich Cartref

Tamprwydd a Llwydni

Anwedd sy’n achosi rhywfaint o damprwydd. Mae’r ffeithlen hon yn egluro sut y gallwch leihau’r perygl ichi gael tamprwydd a llwydni yn eich cartref.

Taflen Ffeithiau - Cadw tamprwydd a llwydni mas o'ch cartref

A oes tamprwydd yn eich cartref chi?

Mae tamprwydd yn gallu achosi llwydni ar waliau a chelfi a phydru fframiau ffenestri wedi eu gwneud o goed. Mae llwydni a gwiddon yn tyfu’n rhwydd mewn tai gyda tamprwydd, ac mae clefydau anadlol yn fwy tebygol.
Mae cyddwysiad yn un o achosion tamprwydd. Mae’r dudalen hon yn egluro’r modd y mae cyddwysiad yn digwydd a sut y gallwch chi ei gadw cyn lleied ag sy’n bosibl, a thrwy hynny leihau’r perygl o damprwydd a thyfu llwydni. 

Y camau cyntaf yn erbyn cyddwysiad

Bydd rhaid i chi gymryd camau o ddifrif i ddelio gyda’r cyddwysiad, ond am y tro mae ‘na gamau syml y gallwch chi eu dilyn ar unwaith. Sychwch y ffenestri a’r silffoedd bob bore. Gwasgwch y clwtyn yn sych yn
hytrach na’i sychu ar reiddiadur. Mae modd prynu sianeli cyddwysiad a stribedi sbwng mewn siopau crefftau’r cartref. Mae’r rhain yn cael eu gosod ar ffenestri i gasglu’r cyddwysiad a helpu i gadw fframiau’r ffenestri rhag pydru a chadw tamprwydd rhag digwydd o dan y silffoedd. Mae’n rhaid gofalu i osod y dyfeisiau hyn yn iawn.

Y camau cyntaf yn erbyn llwydni

Y peth cyntaf i’w wneud yw trin y llwydni sydd eisoes yn eich cartref. Os byddwch chi wedyn yn delio gyda phroblem sylfaenol y cyddwysiad, ddylai’r llwydni ddim ymddangos eto. I ladd a symud y llwydni, golchwch y waliau a fframiau’r ffenestri gyda hylif golchi ffwngladdol gyda ‘rhif cymeradwyo’ y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch arno. Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr yn fanwl. Anfonwch ddillad gyda llwydni arnynt i gael eu sychlanhau a golchi’r carpedi gyda siampŵ. Mae aflonyddu ar lwydni trwy ei ysgubo neu gyda’r sugnwr llwch yn gallu cynyddu’r perygl o glefydau anadlol. Wedi’r driniaeth, paentiwch eto gyda phaent ffwngladdol da i helpu i gadw’r llwydni bant. Cofiwch nad yw’r paent hwn yn effeithiol gyda phaent arferol neu bapur wal drosto.

Dim ond trwy gael gwared â’r tamprwydd y gallwch chi gadw llwydni difrifol bant.

Ai cyddwysiad yw e’?

Nid cyddwysiad yw’r unig beth sy’n achosi tamprwydd. Mae’n gallu dod hefyd o:

  • pibelli dŵr, gwastraff neu orlifo sy’n gollwng;
  • glaw yn diferu drwy’r to lle mae teilsen neu lechen ar goll, yn arllwys o lander wedi ei rwystro, yn dod i mewn o amgylch fframiau ffenestri neu’n gollwng drwy bibell wedi cracio;
  • tamprwydd yn codi oherwydd diffyg yn y cwrs tamprwydd neu oherwydd nad oes yr un cwrs tamprwydd

Yn aml, mae’r achosion tamprwydd hyn yn gadael marc neu ôl dŵr. Os yw eich cartref yn un sydd newydd ei adeiladu fe fyddai’n gallu bod yn damprwydd oherwydd bod y dŵr a ddefnyddiwyd wrth ei adeiladu (er enghraifft, mewn plastr) yn dal i sychu. Os oes tamprwydd yn eich cartref am unrhyw o’r rhesymau hyn, efallai bydd angen wythnosau o wresogi ac awyru i’w sychu. Bydd llogi dadleithydd yn helpu. Os nad ydych yn meddwl bod y tamprwydd yn dod o unrhyw un o’r achosion hyn, mae’n debygol mae cyddwysiad yw e’.

Beth yw cyddwysiad?

Mae rhywfaint o leithder yn yr aer bob amser, hyd yn oed os nad ydych yn gallu ei weld. Os yw’r aer yn oeri nid yw’n gallu dal yr holl leithder ac mae diferion bach bach o ddŵr yn ymddangos. Cyddwysiad yw hyn. Rydych yn sylwi arno pan welwch eich anadl ar ddiwrnod oer, neu pan fydd y drych yn cymylu wrth i chi gael bath. Mae cyddwysiad yn digwydd yn bennaf pan fydd y tywydd yn oer, pa un a yw hi’n bwrw glaw neu’n sych. Nid yw’n gadael marc neu ôl dŵr. Mae’n ymddangos ar arwynebau oer ac mewn mannau lle nad yw’r aer yn symud llawer. Chwiliwch amdano mewn corneli, ar neu ger ffenestri, mewn neu’r tu ôl i gypyrddau dillad a chypyrddau eraill. Mae’n ymffurfio’n aml ar waliau sy’n wynebu’r gogledd.

Sut i beidio â chael cyddwysiad

Bydd y pedwar cam yma yn eich helpu chi i leihau’r cyddwysiad yn eich cartref.

  1. Cynhyrchu llai o leithder - Mae rhai gweithgareddau arferol bob dydd yn cynhyrchu llawer o leithder yn gyflym iawn.
    1. Coginio: Er mwyn lleihau’r lleithder, rhowch gaead ar sosbenni a pheidiwch a gadael tegellau yn berwi.
    2. Twymwyr symudol heb simnai sy’n llosgi paraffin neu nwy potel: Mae’r twymwyr hyn yn creu llawer o leithder yn yr aer – mae un galwyn o nwy neu baraffin yn cynhyrchu oddeutu galwyn o anwedd dŵr. Os oes gennych chi broblem gyda chyddwysiad, ceisiwch ddod o hyd i ryw fath arall o wresogi.
    3. Golchi dillad: Dodwch y dillad tu fas i sychu os gallwch chi, neu yn yr ystafell ymolchi gyda’r drws wedi ei gau a’r ffenestr ar agor neu ffan ymlaen. Os oes sychdaflwr gennych chi cofiwch sicrhau fod y gwynt ohono yn gallu chwythu i’r tu fas (oni bai ei fod o’r math sy’n hunangyddwyso). Mae pecynnau o offer ar gael er mwyn i chi wneud hyn eich hun.
2. Awyru i gael gwared â’r lleithder

Rydych chi’n gallu awyru eich cartref heb greu drafftiau. Mae angen rhywfaint o awyru i gael gwared â lleithder sy’n cael ei greu drwy’r amser, yn cynnwys yr hyn sy’n dod o anadl pobl. Cadwch ffenestr fach yn gilagored neu awyrydd araf ar agor os oes rhywun yn yr ystafell. Mae arnoch chi angen llawer rhagor o awyru yn y gegin neu’r ystafell ymolchi pan fyddwch yn coginio, golchi’r llestri, cael bath a sychu dillad. Mae hyn yn golygu agor y ffenestri’n fwy lled agored. Yn well fyth, defnyddiwch ffan drydan sy’n dod ymlaen ohono’i hun pan yw’r aer yn ddigon llaith. Mae’r rhain yn rhad i’w defnyddio. Cofiwch gau drysau’r gegin a’r ystafell ymolchi wrth eu defnyddio hyd yn oed os oes ffan wagio yn eich cegin neu ystafell ymolchi. Mae teclyn cau drws yn syniad da. Bydd gwneud hyn yn helpu i rwystro’r lleithder rhag cyrraedd ystafelloedd eraill, yn enwedig ystafelloedd gwely, sydd yn aml yn oerach ac yn fwy tebygol o gael cyddwysiad.

Awyrwch y cypyrddau a’r cypyrddau dillad. Peidiwch â dodi gormod o bethau ynddynt, oherwydd bod hyn yn rhwystro’r aer rhag cylchdroi. Torrwch dwll awyru y tu ôl i bob silff neu ddefnyddio silffoedd delltog. Torrwch dyllau ‘anadlu’ mewn drysau ac yng nghefn cypyrddau dillad. Gadewch le rhwng cefn y cwpwrdd dillad a’r wal. Dodwch gelfi sy’n sefyll ar lawr ar flociau er mwyn i aer fedru mynd danodd. Os oes modd o gwbl, dodwch gypyrddau dillad a chelfi yn erbyn parwydydd neu waliau mewnol (waliau gydag ystafell y ddwy ochr) yn hytrach nag yn erbyn waliau allanol. Os byddwch yn cael ffenestri newydd unrhyw amser, cofiwch sicrhau bod awyryddion araf yn y fframiau newydd.

  1. 3.Inswleiddio ac atal drafftiau

Bydd inswleiddio’r groglofft, inswleiddio waliau dwbl ac atal drafftiau ar ffenestri a drysau allanol yn helpu i gadw eich cartref yn dwyn a bydd eich biliau tanwydd yn llai hefyd. Pan yw’r cartref cyfan yn fwy twym mae cyddwysiad yn llai tebygol.

Wrth atal drafftiau:

  • peidiwch â blocio awyryddion parhaol;
  • peidiwch â blocio simneiau’n llwyr (gadewch dwll tua maint dwy fricsen a gosod gril dellt arno);
  • peidiwch ag atal drafftiau mewn ystafelloedd lle mae cyddwysiad neu lwydni;
  • peidiwch ag atal drafftiau mewn ystafell lle mae twymydd sy’n llosgi tanwydd (er enghraifft, tân nwy) neu ffwrn;
  • peidiwch ag atal drafftiau ar ffenestri yn yr ystafell ymolchi a’r gegin.

Os ydych chi’n byw mewn tŷ, mae inswleiddio eich croglofft yn fodd cost-effeithiol o leihau eich costau gwresogi. Cofiwch atal drafftiau o agorfa’r groglofft ond peidiwch â rhwystro’r agoriad o dan y bondo.
Mae inswleiddio waliau dwbl hefyd yn fodd effeithiol o leihau’r costau gwresogi. Cyn dewis y math hwn o inswleiddio, fodd bynnag, fe ddylech siarad gyda’ch arolygwr adeiladau lleol oherwydd bod angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu. Mae gwydro dwbl a gwydro eilaidd neu ffenestri mewnol yn fodd i golli llai o wres ac atal drafftiau ond mae’n rhaid i chi sicrhau bod rhywfaint o awyru.

  1. 4. Twymo eich cartref ychydig yn rhagor

Mewn tywydd oer, y ffordd orau o gadw ystafelloedd yn ddigon twym i atal cyddwysiad yw cadw ychydig o wres cefndir ymlaen drwy’r dydd, hyd yn oed os nad oes neb gartref. Mae hyn yn bwysig iawn mewn fflatiau a byngalos a mathau eraill o dai lle nad yw’r ystafelloedd gwely uwchben ystafell fyw gynnes. Felly, os oes modd, gosodwch dwymydd bach iawn gyda thermostat arno ym mhob ystafell wely (ond peidiwch â defnyddio twymwyr heb simnai sy’n llosgi paraffin neu nwy potel ar gyfer hyn). Bydd y thermostat yn helpu i reoli’r gwres a’r costau. Bydd dadleithydd yn helpu i sychu tamprwydd mewn tai newydd eu hadeiladu. Maent yn gallu helpu hefyd i leihau’r cyddwysiad mewn ystafelloedd twym gyda llawer o leithder, ond nid ydynt yn helpu llawer mewn ystafelloedd oer a llaith.

Pwyntiau i’w cofio

Creu llai o leithder:

  • caead ar sosbenni
  • sychu dillad tu fas
  • yr aer o’ch sychdaflwr i fynd mas
  • ceisiwch beidio â defnyddio twymwyr heb simnai sy’n llosgi paraffin neu nwy potel

Awyru i gael gwared â lleithder:

  • awyru pan fydd rhywun i mewn
  • rhagor o awyru yn y gegin a’r ystafell ymolchi wrth eu defnyddio a chau’r drws
  • awyru cypyrddau, cypyrddau dillad a simneiau tagedig

Inswleiddio ac atal drafftiau:

  • inswleiddio’r groglofft
  • atal drafftiau ar y ffenestri a’r drysau allanol
  • ystyried inswleiddio waliau dwbl
  • ystyried gosod gwydriad eilaidd (sef ffenestri mewnol)
  • holwch a oes gennych chi hawl i gael grant neu gymorth arall

Twymo eich cartref ychydig yn rhagor:

  • os oes modd, cadwch ychydig o wres cefndir ymlaen drwy’r dydd
  • holwch ynglŷn â budd-daliadau, ad-daliadau a chymorth gyda’r biliau tanwydd

Os ydych chi wedi dilyn y canllawiau yn y ffeithlen a bod y problemau yn dal i fod yno, byddwch cystal â ffonio’r adran Cynnal a Chadw Adeiladau ar 0800 085 6622.

Gallwch roi gwybod am atgyweiriadau trwy ffonio ar yr adegau hyn:

8.00am tan 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Iau
8.00am tan 5.00pm ar ddydd Gwener
8.00am tan 2.00pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul

Gallwch roi gwybod am argyfyngau y tu fas i oriau swyddfa trwy ffonio 01437 775522

I roi gwybod am atgyweiriad:

  • Ffoniwch Linell Frys Atgyweiriadau Tai ar 0800 085 6622
  • Ewch draw i un o Ganolfannau Gwasanaethau i Gwsmeriaid y Cyngor sydd yn Hwlffordd, Doc Penfro, Aberdaugleddau, Abergwaun neu’r ddesg arian yn Neyland
  • Anfonwch e-bost at buildingmaintenance@pembrokeshire.gov.uk
  • Anfonwch ffacs at 01437 775911
  • Neu ysgrifennwch atom yn: Cyngor Sir Penfro, Yr Adran Cynnal a Chadw, Uned 23, Ystad Ddiwydiannol Thornton, Aberdaugleddau, SA73 2RR

 

ID: 1760, adolygwyd 07/01/2025