Eich Cartref

Yswiriant cynnwys y cartref

Y Cyngor yw perchnogion eich tŷ Cyngor a dim ond cwfert yswiriant ar gyfer rhannau saernïol yr adeilad sydd gyda hwy. Nid oes gyda’r Cyngor gwfert yswiriant ar gyfer addurniadau, carpedi, celfi na’r eiddo arall sydd gyda chi. Eich cyfrifoldeb chi, y tenant, yw sicrhau bod y rhain wedi cael eu hyswirio.

A oes gyda chi yswiriant cynnwys?

Mae llawer o denantiaid yn credu pe byddai rhywbeth yn digwydd yn eu cartref fel tân y byddai popeth yn iawn, oherwydd y gallant hawlio am unrhyw beth y byddant yn ei golli oddi ar yswiriant y Cyngor. 

Nid yw hyn yn wir!

Nid yw’r Cyngor yn yswirio’r cynnwys ar eich rhan.

Fel tenant eich cyfrifoldeb CHI yw sicrhau bod gyda chi ddigon o gwfert yswiriant ar gyfer eich cynnwys a’ch pethau personol, er mwyn ichi allu cyflwyno hawliad pe byddech chi’n dioddef lladrad, colled neu ddifrod.

Ar gyfer beth mae cwfert yswiriant cynnwys?

Mae cwfert yswiriant cynnwys y cartref yn gofalu am holl gynnwys eich cartref, fel celfi, carpedi, llenni, offer cegin, teledu, stereo, ornaments, dillad, cyfrifiaduron ac yn y blaen - sef cyfanswm gwerth popeth yn eich cartref y byddech yn eu cymryd gyda chi pe byddech chi’n symud.

Mae rhai polisïau yn gofalu am ddifrod damweiniol i setiau teledu, lloerenni, peiriannau fideo, peiriannau DVD, cyfrifiaduron ac offer sain. Gallwch chi godi polisi er mwyn cael yswiriant ar gyfer difrod damweiniol i holl gynnwys eich cartref.

Rydym yn eich cynghori’n bendant i yswirio cynnwys eich cartref…

Os ydych yn peidio â chodi eich yswiriant eich hun, nid yw hynny’n golygu bod y Cyngor o dan unrhyw orfodaeth i’ch helpu chi os oes difrod damweiniol yn digwydd i’ch cartref.

Dylech feddwl am gynnwys y canlynol yn yswiriant eich cartref:-

  1. Celfi, carpedi, ffitiadau ac addurniadau mewnol, h.y. difrod ar ôl i beipiau fosto, llifogydd, offer twymo, tanciau a silindrau storio dŵr wedi bosto, difrod oherwydd tân a digwyddiadau eraill.
  2. Gosodion Iechydol h.y. difrod damweiniol
  3. Gwydr a gwydro ffenestri, drysau a pharwydydd mewnol
  4. Cloeon ac allweddi

Ble allaf i gael yswiriant cynnwys?

Gallwch ddewis o blith nifer o gwmnïau yswiriant. Fodd bynnag, os nad ydych chi’n siŵr pa fath o gwfert yw’r un gorau ar eich cyfer chi, dylech gael cyngor gan frocer yswiriant annibynnol.

Cofiwch - dylech gael eich yswirio nawr er mwyn peidio â chael eich siomi yn ddiweddarach!

Gwybodaeth cysylltu:

Adran Rheoli Tenantiaethau Tai
Ffôn: 01437 764551
E-bost: tenancy.management@pembrokeshire.gov.uk

ID: 1704, adolygwyd 10/03/2023