Cronfa Deddf Eglwys Cymru 2024-25

 

**Nodwch fod y WCAF ar gyfer 24/25 bellach wedi'i dyrannu'n llawn, ac eithrio cyllid cyfalaf ar gyfer eglwysi, capeli ac addoldai. Gweler y manylion isod ar gymhwysedd a sut i wneud cais am gyllid cyfalaf os ydych yn bodloni'r meini prawf.**

 

Beth yw Cronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru?

Cronfa Ymddiriedolaeth Elusennol yw Cronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru, llywodraethir gan Ddeddf yr Eglwys yng Nghymru 1914.

Nod y gronfa yw dyfarnu grantiau dyngarol at ystod eang o ddibenion er budd pobl Sir Benfro.

 

Pwy all wneud cais?

Mae'r gronfa ar agor i bob grŵp gwirfoddol, elusennol neu les yn Sir Benfro.

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth:

  • Eglwysi, capeli, mannau addoli cyhoeddus
  • Elusennau cofrestredig
  • Grwpiau gwirfoddol a chymunedol cyfansoddiadol
  • Sefydliadau nid er elw / mentrau cymdeithasol
  • Canghennau lleol o sefydliadau trydydd sector cenedlaethol
    • Gallwch wneud cais trwy ddefnyddio cyfansoddiad y rhiant-gorff ond mae'n rhaid bod gennych eich cyfrif banc eich hun. Byddwn hefyd angen cadarnhad bod y rhiant-gorff yn cefnogi’r cais
  • Consortiwm anffurfiol neu ffurfiol (cyfansoddiadol) yn gweithio ar brosiect penodol
    • Rhaid i'r holl sefydliadau sy'n ymwneud â chonsortiwm anffurfiol fod yn gymwys yn eu rhinwedd eu hunain a rhaid iddynt ddarparu copi o'u cyfansoddiad neu ddogfen lywodraethol. Dylai’r ffurflen gais gael ei chwblhau gan y sefydliad arweiniol a fydd yn gyfreithiol gyfrifol am y grant ac a fydd yn derbyn y cyllid pe bai’r cais yn llwyddiannus

Ni allwn dderbyn ceisiadau gan:

  • Sefydliadau'r sector preifat
  • Buddiolwyr unigol

neu ar gyfer:

  • Unrhyw weithgaredd sy'n ymwneud â dibenion plaid wleidyddol
  • Ceisiadau ar ran sefydliadau eraill yn enw codwr arian proffesiynol (gellir gwneud eithriadau ar gyfer cynghorau tref a chymuned sy’n gwneud cais ar ran grŵp cymunedol)

 

Am beth allwch chi wneud cais?

Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio ar liniaru tlodi lleol, yn unol â’n ‘Strategaeth Trechu Tlodi’ a gyhoeddwyd yn ddiweddar a’n blaenoriaeth gyfunol ehangach o liniaru tlodi yn Sir Benfro.

Gallwch wneud cais am grant at y dibenion canlynol:

  • Rhyddhad tlodi 
  • Adnewyddu adeilad cymunedol neu fannau addoli
  • Datblygu addysg 
  • Llyfrgelloedd, amgueddfeydd, orielau celf, ac ati…
  • Datblygu crefydd 
  • Dibenion eraill sydd o fudd i'r gymuned

Noder: Mae eglwysi, capeli a mannau addoli eraill yn Sir Benfro yn gymwys i wneud cais ond maent yn gyfyngedig i geisiadau am waith adeiladu neu waith cyfalaf arall, e.e. adnewyddu neu atgyweirio.

 

Faint y gellir ei ddyfarnu drwy'r grant?

Gellir dyfarnu grantiau o hyd at £5,000 i ymgeiswyr llwyddiannus.

Noder: Mewn rhai achosion, ni fydd taliadau grant ond yn cael eu gwneud ar ôl derbyn y dogfennau priodol – er enghraifft, derbynebau, anfonebau neu brawf addas arall o wariant.

 

Pryd i wneud cais

Caniateir i ymgeiswyr wneud cais unwaith bob blwyddyn ariannol.

Bydd rowndiau ymgeisio penodol. Gellir cyflwyno ceisiadau sydd wedi'u datblygu'n llawn ar unrhyw adeg i'w hasesu yn y cyfarfod nesaf sydd wedi'i drefnu.

Noder: Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd pob cais yn llwyddiannus. Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael adborth ac, os yw'n briodol, yn cael eu gwahodd i ailgyflwyno. Nid oes hawl i apelio.

Os dyrennir y gronfa flynyddol yn llawn, bydd y porth ymgeisio yn cau am y flwyddyn ariannol honno.

 

Sut caiff ceisiadau eu hasesu?

Ystyrir ceisiadau am gyllid yn chwarterol gan banel.

Mae pob cais yn cael ei asesu yn erbyn yr un meini prawf a, lle bo’n briodol, bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos y canlynol:

  • Statws elusennol / amcanion elusennol
  • Trefniadau cyfansoddiadol, rheolaeth ariannol a gweinyddu boddhaol
  • Gwybodaeth ariannol lawn, gan gynnwys incwm a gwariant, a ffynonellau cyllid eraill
  • Bydd y cyllid yn cefnogi darparu gwasanaeth lleol i drigolion Sir Benfro
  • Mae polisi cyfle cyfartal ar waith
  • Angen am y prosiect

Yn ogystal, dylai prosiectau allu dangos eu bod:

  • Wedi’u cefnogi gan y gymuned leol a sefydliadau partner trwy ymgynghoriad priodol
  • Wedi'u cynllunio'n ofalus, â chynlluniau ariannol clir, ac yn gyflawnadwy
  • Yn ystyried cynaliadwyedd yn y dyfodol
  • Yn ychwanegu gwerth at weithgareddau sy'n bodoli eisoes ac yn ategol i brosiectau a mentrau eraill
  • Yn diwallu anghenion a chyfleoedd presennol ac yn y dyfodol yn eu cymunedau (drwy ymgynghori)
  • Wedi rhoi ystyriaeth i sut bydd y prosiect o fudd i'r rheiny sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig

Rydym hefyd yn disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus wneud y canlynol:

  • Cydnabod unrhyw gymorth ariannol a roddwyd gan y cyngor mewn unrhyw hysbysebion / deunyddiau darllen a gynhyrchir
  • Cadw at Safonau’r Gymraeg. Mae rhan o'n polisi dwyieithrwydd yn annog y rhai sy'n derbyn cymorth ariannol gan y cyngor i ddarparu eu gwasanaethau neu weithgareddau yn ddwyieithog, lle bynnag y bo modd. 
    • Mae cyngor ac arweiniad ar arfer da dwyieithog ar gael ar gais

 

Sut i wneud cais

Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd lenwi ffurflen gais.

Ffurflen gais Cronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru

 

*Os ydych yn gwneud cais am gyllid ar ran eglwys, capel neu fan addoli cyhoeddus, llenwch y ffurflen isod a dychwelwch yn uniongyrchol at jenny.ruloff@pembrokeshire.gov.uk

Ffurflen gais Cronfa Eglwys Cymru ar gyfer eglwysi, capeli ac addoldai

 

Noder: Ni fydd ffurflenni anghyflawn yn cael eu cyflwyno i'w hasesu ymhellach. Dim ond un cais fesul grŵp neu sefydliad a ganiateir ar gyfer pob blwyddyn ariannol.

 

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am Gronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru yn Sir Benfro, neu’r broses ymgeisio, cysylltwch â: WCAF@pembrokeshire.gov.uk  

 

ID: 11675, adolygwyd 04/11/2024