Mae cysylltedd cyflym, dibynadwy yn hanfodol i gefnogi twf busnesau, helpu cymunedau gwledig i ffynnu, gwella iechyd a llesiant, ai gwneud yn haws i bobl fynd ar-lein a defnyddio gwasanaethau cyhoeddus.
Mae pedair o gyflenwyr wrthi'n adeiladu seilwaith yn Sir Benfro. Pan fo modd, mae ein timau’n gweithio’n agos gyda nhw i gefnogi eu cyflwyniad masnachol ac unrhyw gynlluniau talebau cymunedol y maent yn eu cyflawni.
Mae llinellau tir traddodiadol yn newid i system ddigidol. P’un a ydych yn breswylydd neu’n fusnes, mae’n bwysig eich bod yn deall beth mae hyn yn ei olygu i chi.