Eich Diogelwch Personol
Larymau cymunedol
Os ydych chi’n poeni am gael help mewn argyfwng, hwyrach y bydd gennych ddiddordeb mewn cael Larwm Cymunedol. Bydd crogdlws, sy’n cael ei wisgo o amgylch eich gwddf neu arddwrn, yn cael ei gysylltu â’ch ffôn a bydd yn cael ei actifadu os byddwch yn ei wasgu mewn argyfwng. Bydd y gwasanaeth monitro’n ateb eich galwad a bydd y gweithredwr yn penderfynu ar ba gam i’w gymryd (gweler isod am y rhestr o ddarparwyr).
Os ydych chi’n methu neu’n anfodlon cysylltu â gwasanaeth monitro, mae Larymau Diogelwch y Cartref ar gael i’w prynu’n breifat. Gall y rhain amrywio o unedau ar eu pen eu hunain (i’w defnyddio yn y cartref neu’n agos ato) i ffonio ymatebwr dros wasanaethau Wi-Fi, ffôn symudol neu linell tir.
Cyngor Sir Penfro
Os ydych chi’n berchen ar eich cartref, yn denant rhentu’n breifat neu’n denant Awdurdod Lleol, ewch i Wasanaeth Larwm Cymunedol Sir Benfro i gael gwybodaeth am sut i gael Larwm Cymunedol.
Cymdeithasau Tai Cymdeithasol
Os ydych chi’n denant Tai Cymdeithasol, dylai’ch landlord allu darparu a gosod Larwm Cymunedol yn eich eiddo a bydd angen i chi gysylltu â nhw i drafod eich anghenion. Gall tenantiaid Ateb wneud cais ar-lein trwy ymweld â’u Gwasanaeth i Bobl Hŷn (yn agor mewn tab newydd).
Gwasanaethau Monitro Galwadau Cenedlaethol
Gallwch drefnu i ffitio Gwasanaeth Monitro Larwm Personol eich hun sy’n cynnwys y darparwyr canlynol:
- Llesiant Delta Connect (yn agor mewn tab newydd)
- Larwm Personol Age UK (yn agor mewn tab newydd)
- Tunstall Response (yn agor mewn tab newydd)