Eich Diogelwch Personol

Diogelwch rhag tân

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru’n darparu cyngor ynglŷn â diogelwch rhag tân yn eich cartref a gall gyflenwi a gosod larwm mwg yn rhad ac am ddim. Gall hefyd brofi eich blanced drydan i chi. Maent yn cynnig y cyngor canlynol ynglŷn â diogelwch yn y cartref i bobl hŷn neu bobl anabl:

Cynghorion i’r rhai sydd â nam ar eu clyw

  • Os os nam ar eich clyw, medrwch gael larwm mwg sy’n defnyddio golau strôb a phadiau dirgrynol.
  • Os oes tân yn amlygu, ac os yw’n anodd i chi alw 999 eich hun, gofynnwch i gymydog wneud hynny i chi.
  • Os oes gennych offer arbenigol, fel ffôn destun neu minicom, medrwch gysylltu â’r gwasanaethau brys ar 18000.

​​Cynghorion i’r rhai sydd â nam ar eu golwg

  • Gosodwch sticer lliw ar eich larwm mwg os ydych yn cael trafferth ei weld i’w brofi, neu gofynnwch i’ch Gwasanaeth Tân lleol a fedran nhw ddarparu un ar eich cyfer.
  • Archwiliwch lidiau trydan yn rheolaidd trwy eu cyffwrdd. Os ydynt wedi treulio neu os ydynt yn ddiffygiol, peidiwch â’u plygio i mewn na’u troi ymlaen. Os oes arogl llosgi’n amlygu pan fod offer trydanol ymlaen, diffoddwch yr offer a thynnwch y plwg ar unwaith. 

​​Cynghorion i bobl â phroblemau symudedd

  • Os yw’n anodd i chi brofi eich larwm, yna gofynnwch i rywun arall i’w brofi i chi.
  • Os ydych yn cael trafferth symud o gwmpas, ystyriwch osod intercom, a fydd yn eich galluogi i rybuddio rhywun arall yn y tŷ os oes argyfwng.
  • Gofalwch bod gennych fynediad hawdd at unrhyw gymhorthion symudedd sydd eu hangen arnoch, megis ffon.

Cyfarpar i wneud eich cartref yn ddiogelach

Rhifau ffôn cysylltu mewn argyfwng 

Mewn achos brys cofiwch ffonio 999 bob amser

  • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (yn agor mewn tab newydd) - 0800 169 1234
  • Cyngor Sir Penfro: 01437 764551 / Rhif ffôn y Cyngor am argyfyngau y tu mas i oriau gwaith: 0345 601 5522
  • Llinell frys Dŵr - 0800 052 0130 (24 awr y dydd, 7 dydd yr wythnos)
  • Argyfyngau Nwy - 0800 111 999
  • Argyfyngau Trydan (De a Gorllewin Cymru) - Western Power Distribution0800 052 0400
  • Llinell Llifogydd - 0345 988 1188 (gwasanaeth 24 awr) neu Type talk 0845 602 6340


Environment Agency (yn agor mewn tab newydd)
 

GOV.UK (yn agor mewn tab newydd)

Mae taflen o’r enw ‘Yn Barod i Ymateb’ ar gael hefyd gan y Cyngor yn yr Uned Cynllunio Rhag Argyfyngau.

Gallwch gysylltu â’r Uned Cynllunio Rhag Argyfyngau ar 01437 775586 neu e-bost emergency.planning.unit@pembrokeshire.gov.uk

ID: 10833, adolygwyd 18/09/2023

Osgoi Sgamiau

Osgoi Sgamiau Bob blwyddyn bydd llawer o bobl yn ‘cael eu cafflo’, sef syrthio i ddwylo twyllwyr sydd â’u bryd ar ddwyn eu manylion personol ac ariannol a phocedu eu harian. Mae’r twyllwyr yn swnio’n argyhoeddiadol, yn broffesiynol ac efallai y byddan nhw’n honni eu bod nhw’n cynrychioli busnes sy’n gyfarwydd i chi, fel eich banc. Efallai y byddan nhw’n pwyso arnoch i weithredu’n gyflym, naill ai oherwydd eu bod am eich twyllo i gredu y byddwch chi’n colli cyfle euraidd i wneud arian neu y byddwch chi’n dioddef colled o ryw fath os na fyddwch chi’n gweithredu. Dim ond un ymateb sydd ei angen ac fe gewch eich boddi gan lawer o wahanol Sgamiau eraill gan fod y twyllwyr hyn yn gwerthu eich manylion ymlaen i eraill. Os ydych chi wedi cael eich cafflo, mae’n bwysig ceisio cefnogaeth.

*Siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo/ynddi.Peidiwch byth ag aros yn dawel.*

Gwahanol fathau o Sgamiau Amlinellir pum math gwahanol o dwyll yn y daflen hon:

  1. Sgamiau drwy’r Post
  2. Sgamiau dros y Ffôn
  3. Sgamiau Neges Destun
  4. Sgamiau ar y We a Chyfryngau Cymdeithasol
  5. Sgamiau stepen drws

Cynlluniau Ynni Gwyrdd

Dewis masnachwr dibynadwy

 

Sgamiau drwy’r Post

  • Mae llythyrau’n cael eu masgynhyrchu a’u gwneud i edrych fel llythyrau personol neu ddogfennau pwysig. Y bwriad yw eich twyllo chi i roi eich manylion personol, manylion banc neu anfon arian parod neu drosglwyddo arian.

Enghreifftiau o Sgamiau drwy’r Post

Sgamiau Loteri a Raffl Fawr
  • Dywedir wrthych eich bod wedi ennill gwobr ariannol fawr mewn loteri ond rhaid i chi anfon ffi er mwyn ei hawlio.
  • Rydych chi wedi ennill raffl ond mae’n rhaid i chi naill ai ffonio rhif cyfradd premi neu brynu rhywbeth ar-lein i hawlio’r wobr
Sgamiau Clirweledydd (Clairvoyant) a Gwellhad Gwyrthiol
  • Anfonir llythyrau yn addo darllen ffortiwn am ffi.
  • Mae sgamiau gwellhad ‘Gwyrthiol’ yn addo meddyginiaethau cyflym a hawdd ar gyfer cyflyrau difrifol neu ddatrysiadau gwyrthiol i golli pwysau. Mewn rhai achosion, bydd cynnyrch a allai niweidio’ch iechyd yn cael ei gyflenwi mewn gwirionedd.
Cofiwch
  • Os yw’r peth yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, yna mae’n siŵr o fod felly.
  • Allwch chi ddim ennill loteri na raffl fawr nad ydych chi wedi cystadlu ynddi.
  • Byddwch yn ymwybodol y gall sgamwyr fod eisoes yn gwybod manylion am y bobl maen nhw’n eu targedu.
  • Byddwch yn wyliadwrus o gatalogau a phamffledi sy’n gwerthu nwyddau wedi’u gorbrisio neu’n mynnu eich bod chi’n cyflwyno archeb er mwyn cael eich cynnwys mewn raffl fawr
Sut allwch chi ddiogelu eich hun
  • Peidiwch byth â rhannu eich manylion personol – dylech rwygo dogfennau diangen sydd â’ch manylion personol arnynt.
  • Peidiwch byth ag anfon arian i hawlio gwobrau.
  • Peidiwch byth â phrynu unrhyw feddyginiaethau neu driniaethau heb ofyn am gyngor gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
  • Wrth gofrestru i bleidleisio, ticiwch y blwch er mwyn dewis peidio â chynnwys eich enw ar y gofrestr ‘Golygwyd’ i atal llythyrau marchnata digymell.
  • Cofrestrwch ar gyfer y Gwasanaeth Dewisiad Post (yn agor mewn tab newydd) er mwyn helpu lleihau llythyrau marchnata neu Ffoniwch 0845 703 4599
  • Tanysgrifiwch i’r Gwasanaeth Dewisiad Codi Arian (yn agor mewn tab newydd) er mwyn dod â chyswllt marchnata uniongyrchol gan elusennau i ben neu Ffoniwch 0300 3033517 
  • I atal catalogau diangen, cysylltwch â’r busnes yn uniongyrchol a gofyn am gael tynnu eich enw oddi ar eu rhestr bostio. Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid iddyn nhw wneud hyn.

Sgamiau dros y Ffôn

Enghreifftiau o Sgamiau dros y Ffôn

Sgamiau meddalwedd cyfrifiadurol
  • Mae galwr, sy’n honni ei fod yn dod o ffynhonnell swyddogol, yn dweud wrthych fod problem neu feirws ar eich cyfrifiadur. Dywedir wrthych am fewngofnodi i wefan, ond os gwnewch hynny, bydd yn rhoi rheolaeth i’r galwr dros eich cyfrifiadur, a mynediad i’ch manylion personol.
Sgamiau Banc
  • Dywedir wrthych fod rhai trafodion amheus ar eich cyfrif a bod angen i chi drosglwyddo’ch cyfrif i gyfrif arall. Efallai y gofynnir i chi ffonio’r rhif ar gefn eich cerdyn banc i gyfreithloni’r alwad ond mae’r sgamiwr yn dal i fod ar y ffôn ac yn esgus mai eich banc sy’n ateb yr alwad. Trosglwyddir eich arian i gyfrif banc y sgamiwr.
Sgamiau Amazon 
  • Rydych chi’n derbyn galwad ffôn awtomataidd yn dweud eich bod wedi agor cyfrif Amazon Prime a dylech wasgu “1” ar eich ffôn os ydych chi am ganslo’r trafodiad. Os gwasgwch 1 bydd yr alwad yn cysylltu â thwyllwr sy’n esgus bod o Adran Gwasanaethau Cwsmeriaid Amazon, a bydd yn ceisio mynediad i’ch cyfrifiadur er mwyn datrys y mater. Caiff eich manylion personol, gan gynnwys cyfrineiriau a manylion eich cyfrif banc, eu dwyn.
  • Mae fersiynau tebyg yn digwydd ar-lein drwy honni eich bod wedi dechrau tanysgrifiad neu wedi prynu rhywbeth.
  • Ni fydd Amazon byth yn gofyn i chi am fanylion personol, er mwyn talu y tu allan i’w wefan nac i gael mynediad i’ch dyfais
Sgamiau Trwyddedu Teledu
  • Daeth gofynion trwyddedu teledu newydd i rym ym mis Awst 2020, gan arwain at nifer llai o bobl sy’n gymwys i gael trwydded deledu am ddim. Mae sgamwyr wedi manteisio ar hyn, gan gysylltu â defnyddwyr dros y ffôn, drwy neges destun neu e-bost a honni bod angen iddyn nhw wneud taliad brys, bod ganddyn nhw hawl i gael ad-daliad neu drwydded ratach.
  • Os ydych chi’n ansicr ynghylch natur galwad ffôn, peidiwch â rhoi eich manylion personol. Am fwy o fanylion a chyngor ewch i TV Licensing (yn agor mewn tab newydd) neu ffoniwch 0300 555 0286.
Sgamiau Pensiwn a Buddsoddi
  • Gellir colli cynilion oes yn gyflym iawn i sgamwyr, yn dilyn cyswllt annisgwyl dros y ffôn, e-bost, cyfryngau cymdeithasol, llythyr neu neges destun. Efallai fod ganddyn nhw broffiliau neu wefannau cyfryngau cymdeithasol ffug, argyhoeddiadol, yn ogystal ag adolygiadau ffug. Maen nhw’n cael gafael ar fanylion buddsoddwyr ar restri cyfranddalwyr sydd ar gael i’r cyhoedd. Fel arfer bydd pwysau ar yr unigolyn i fuddsoddi’n gyflym neu cynigir enillion sy’n swnio’n rhy anhygoel i fod yn wir.
  • Yn y DU rhaid i gwmni gael ei awdurdodi a’i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (Financial Conduct Authority) er mwyn cyflawni’r rhan fwyaf o weithgareddau gwasanaethau ariannol. Os ydych chi’n defnyddio cwmni anawdurdodedig, chewch chi ddim defnyddio Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS) na’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol felly mae’n annhebygol y cewch eich arian yn ôl os aiff pethau o chwith.
  • Mae Sgamiau buddsoddi cyffredin yn cynnwys cynigion i brynu neu werthu cyfranddaliadau cwmni, cudd-arian (cryptocurrency) (e.e. bitcoin), bancio tir, eiddo tramor, opsiynau deuaidd, ynni cynaliadwy, metelau gwerthfawr a buddsoddiadau mewn gwin.
  • Gwrthodwch gynigion buddsoddi digymell a gwiriwch Restr Rhybuddio’r FCA. Gofynnwch am gyngor ariannol annibynnol a gwnewch yn siŵr bod unrhyw gwmni rydych chi’n delio ag e yn cael ei reoleiddio gan yr FCA. Riportiwch unrhyw bryderon i’r FCA ar 0800 111 6768.
  • Mae Sgamiau pensiwn cyffredin yn cynnwys cynnig rhyddhau pensiynau’n gynnar ac adolygiadau pensiwn. Mae goblygiadau treth enfawr wrth dynnu arian o bensiynau cyn cyrraedd 55 oed. Mae galwadau diwahoddiad ynghylch pensiwn bellach wedi’u gwahardd. Riportiwch nhw i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (yn agor mewn tab newydd) neu ffoniwch 0303 123 1113.
Biliau neu ad-daliadau heb eu talu
  • Mae galwr yn ffonio ac yn honni bod gyda chi fil sy’n orddyledus a bod angen ei dalu ar unwaith neu bydd y gwasanaeth yn cael ei ddatgysylltu ac efallai y cewch chi eich erlyn. Enghreifftiau posib: ffôn, darparwyr band eang a chwmnïau cyfleustodau.
  • Mae galwr yn esgus eich bod wedi gordalu am wasanaeth a bod ad-daliad yn ddyledus i chi. Gofynnir i chi roi eich manylion banc er mwyn trosglwyddo’r arian ond yn lle hynny tynnir arian allan. Enghraifft gyffredin yw sgamwyr sy’n honni eu bod o Gyllid a Thollau EM.
Ffug-negeseuon
  • Gall troseddwyr “ffug-negeseua” neu ddynwared rhifau busnesau er mwyn gwneud i’r alwad neu’r neges destun ymddangos yn gyfreithlon neu hyd yn oed ymddangos fel rhif lleol.
Gwthdaliadau Awdurdodedig
  • Efallai y bydd twyllwyr yn pwyso arnoch chi i wneud trosglwyddiad banc ar unwaith neu wthdaliadau (push payments) awdurdodedig.
  • Os cawsoch eich twyllo i wneud taliad o’r fath, cysylltwch â’ch darparwr banc neu gerdyn ar unwaith er mwyn gweld a ellir atal y taliad neu a oes modd adennill yr arian o gyfrif y twyllwr. Mae nifer o fanciau’r stryd fawr wedi ymrwymo i God gwirfoddol sy’n amddiffyn rhai dioddefwyr sydd wedi colli arian
Sut allwch chi ddiogelu eich hun
  • Peidiwch byth â rhannu eich manylion personol na’ch manylion banc dros y ffôn, oni bai mai chi eich hun sydd wedi gwneud yr alwad a bod y rhif ffôn wedi dod o ffynhonnell ddibynadwy.
  • Gofynnwch am enw’r person sy’n galw a gwiriwch hwnnw trwy gysylltu’n bersonol â’r cwmni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a gadarnhawyd gennych ac nid y rhai a ddarperir gan y galwr. Arhoswch o leiaf 10 munud bob amser cyn ffonio er mwyn sicrhau bod y llinell yn rhydd. 
  • Cofrestrwch gyda’r Gwasanaeth Dewisiad Ffôn (yn agor mewn tab newydd) am ddim er mwyn helpu i leihau galwadau digymell neu Ffoniwch 0345 070 0707
  • Riportiwch nhw i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (yn agor mewn tab newydd) neu ffoniwch 0303 123 1113.
  • Siaradwch â darparwr eich llinell ffôn er mwyn gweld a ydyn nhw’n darparu gwasanaethau stopio neu leihau galwadau diangen.
  • Ystyriwch brynu dyfais sy’n blocio galwadau ffôn niwsans
  • Mae gan Safonau Masnach Sir Benfro nifer fach o ddyfeisiau blocio galwadau ‘Truecall’ a all fod ar gael am gyfnod prawf gan ddefnyddwyr bregus sy’n cael problemau gyda galwadau niwsans.
  • Cysylltwch â’r tîm i gael mwy o fanylion - e-bostiwch TSConsumer@pembrokeshire.gov.uk.

Negeseuon Testun

SBAM a Neges Destun Sgam
  • Gall fod yn anodd dweud y gwahaniaeth rhwng cwmni cyfreithlon ac ymgais i sgamio.
  • Mae negeseuon testun cyfreithlon yn ei gwneud yn glir pwy sy’n anfon y neges destun.
  • Mae negeseuon testun sbam yn cynnwys y rhai nad ydych chi wedi cydsynio i’w derbyn ac fel arfer maen nhw’n ceisio’ch perswadio chi i gysylltu â nhw ynglŷn â hawliad damwain, gwyliau am ddim neu hawliad meddygol, er mwyn iddyn nhw gael eich manylion personol.
  • I gael manylion am sut i stopio a riportio negeseuon testun diangen, cysylltwch â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) (yn agor mewn tab newydd) neu ffoniwch 0303 123 1113.
Negeseuon Testun Cyfradd Premiwm
  • Gall busnesau anfon a chodi tâl, yn gyfreithlon felly, am negeseuon testun rydych chi wedi ymrwymo i’w derbyn. Maen nhw fel arfer yn danysgrifiadau ar gyfer gemau a diweddariadau tywydd. Mae’r rhain yn gostus ac efallai na fyddwch yn gwybod nes i chi dderbyn eich bil ffôn. 
  • Edrychwch ar y print mân cyn i chi gydsynio i dderbyn gwasanaeth neges destun.
  • Yr Awdurdod Gwasanaethau â Thâl Ffôn (Phone-paid Services Authority) (yn agor mewn tab newydd) yw rheolydd negeseuon testun cyfradd premiwm. I gael manylion am sut i stopio a riportio’r negeseuon hyn, ffoniwch 0300 30 300 20

Sgamiau ar y We a Chyfryngau Cymdeithasol

  • Mae’n well gan lawer o bobl hwylustod siopa ar-lein am nwyddau a gwasanaethau neu gadw cyswllt trwy wefannau rhwydweithio cymdeithasol fel Facebook, Instagram, Twitter ac ati.
  • Mae’r rhain hefyd yn darparu llwyfan ar gyfer Sgamiau a hynny ar sawl ffurf gan gynnwys e-byst, hysbysebion naid, negeseuon cyfryngau cymdeithasol a gwefannau ffug.

Enghreifftiau o Sgamiau ar y We

  • Rydych chi’n cofrestru ar-lein i gael ‘treial am ddim’ neu gynnig â disgownt mawr, ar gyfer cynhyrchion iechyd neu harddwch yn aml; byddwch yn anghofio ei ganslo ac yna’n canfod eich bod wedi eich cloi mewn cytundeb. Yn guddiedig yn y telerau mae awdurdod taliad parhaus sy’n caniatáu i’r busnes gymryd arian o’ch cyfrif pryd bynnag y mae’n dymuno gwneud hynny.
Sgamiau Rhamant
  • Bydd twyllwyr yn gosod proffil ffug ar blatfform cadw oed (dating) neu gyfryngau cymdeithasol ac yna’n cynnal sgwrs sy’n arwain yn gyflym at berthynas ar-lein. Byddan nhw’n eich Perswadio i sgwrsio y tu allan i ddiogelwch gwasanaeth negeseuon y safle cadw oed.
  • Byddan nhw’n aml yn honni eu bod yn gweithio dramor ac yn creu esgusodion pam na allan nhw gwrdd â chi.
  • Pan fyddan nhw’n credu eu bod wedi ennill eich ymddiriedaeth, maen nhw’n gofyn am arian gan honni, er enghraifft, na allan nhw gael at eu harian er mwyn talu am docyn hedfan i’ch gweld chi, neu mae ganddyn nhw anrheg i chi ond bydd angen i chi anfon arian atyn nhw er mwyn ei bostio atoch. Mae hyn yn digwydd droeon a’r symiau y gofynnir amdanyn nhw’n cynyddu, gyda rhai dioddefwyr maes o law yn gwerthu eu cartref ac yn mynd dros eu pennau i ddyled.
  • Peidiwch byth â rhoi gormod o wybodaeth wrth gadw oed arlein. Arhoswch ar wasanaeth negeseuon y wefan. Cofiwch nad yw pobl ddilys yn debygol o ofyn am arian i’w helpu gyda phroblem.
  • Yn gysylltiedig â Sgamiau Rhamant yn aml mae secstio (sexting) neu flacmêl rhywiol (sextortion) - dosbarthu neu fygwth dosbarthu noethluniau neu luniau amharchus heb gydsyniad y dioddefwr.
  • Peidiwch byth â thalu arian neu fel arall bydd y gofynion yn parhau. Stopiwch gyfathrebu â’r person arall ar unwaith a chysylltwch â’r heddlu ar 101. Gellir dod o hyd i gyngor manwl ar-lein ar National Crime Agency (yn agor mewn tab newydd)
Cudd-arian BitCoin
  • Arian rhithwir heb ei reoleiddio a ddefnyddir ar-lein yw cuddarian (cryptocurrency). Mae’n eich galluogi i dalu am neu brynu nwyddau’n gyflym ac yn ddienw, ac mae hyn yn ddeniadol i sgamwyr. Bitcoin yw’r cudd-arian mwyaf adnabyddus. Mae sgamiau, yn gynyddol felly, yn mynnu taliad yn y fformat hwn.
E-byst Sbam a Gwe-rwydo
  • Mae e-byst sbam neu negeseuon sothach yn rhai digymell ac fel arfer yn cael eu hanfon at ddibenion marchnata. Gallan nhw hefyd gynnwys Sgamiau mewn ymgais i’ch twyllo.
  • Gall e-byst gwe-rwydo edrych fel pe baen nhw’n dod o ffynhonnell gyfreithlon fel eich banc, Cyllid a Thollau EM, siop ar-lein neu safle rhwydweithio. Bydd y neges yn ceisio’ch twyllo chi i roi eich manylion personol ac ariannol a gall eich cyfeirio at wefan ffug neu ofyn i chi agor atodiad a allai gynnwys feirws. Mae’r e-byst hyn wedi’u hysgrifennu mewn cywair brys yn aml ac efallai y bydd camgymeriadau sillafu i’w gweld ynddyn nhw. 
Sut allwch chi ddiogelu eich hun
  • Gwnewch yn siŵr fod gyda chi feddalwedd gwrthfeirws cyfoes a wal dân wedi’u gosod ar eich cyfrifiadur.
  • Defnyddiwch gyfrineiriau cadarn.
  • Wrth siopa ar-lein gwnewch yn siŵr bod y ddolen ar-lein yn ddiogel – chwiliwch am y symbol ‘clo clap’ yn y porwr a gwnewch yn siŵr bod y cyfeiriad gwe yn dechrau gyda “https://”. Mae’r “s” yn dynodi diogel (“secure”). Peidiwch â mynd oddi ar y platfform i dalu. Talwch gyda cherdyn credyd am bryniannau dros £100 ac ymchwiliwch i’r busnes rydych chi’n prynu ganddo.
  • Ar wefannau cyfryngau cymdeithasol, cadwch eich proffil yn breifat ac yn hygyrch i deulu a ffrindiau yn unig. Byddwch yn wyliadwrus rhag cyhoeddi gwybodaeth bersonol amdanoch chi’ch hun a allai fod yn gyfrwng i’ch adnabod neu ddatgelu ble rydych chi’n byw.
  • Efallai na fydd wi-fi cyhoeddus yn ddiogel a gallai twyllwyr gyrchu a rhyng-gipio’r hyn rydych chi’n ei wneud ar-lein, felly peidiwch ag anfon na derbyn gwybodaeth breifat na manylion banc.
  • Peidiwch ag agor nac ymateb i e-byst amheus nac agor unrhyw atodiadau. Anfonwch nhw ymlaen i’r Ganolfan Seibrddiogelwch Genedlaethol ar report@phishing.gov.uk a fydd yn tynnu’r neges i lawr os yw’n sgâm.
  • Byddwch yn wyliadwrus o ‘hysbysebion naid’ a ‘treial am ddim’ – gan eu bod yn aml yn gysylltiedig â thaliadau drud.
  • Cadwch olwg am flychau wedi’u ticio’n barod a allai eich ymrwymo i fwy na’r hyn rydych chi’n ei ddisgwyl.
  • Riportiwch daliadau annisgwyl i’ch banc. Ni fydd banciau cyfreithlon a sefydliadau ariannol byth yn gofyn ichi glicio ar ddolen mewn e-bost i gael mynediad i’ch cyfrif a fyddan nhw byth yn gofyn ichi am eich rhif PIN.
  • Ewch i Get Safe Online i gael cyngor ymarferol ar sut i ddiogelu eich hun ar-lein.

Twyll-fasnachwyr Stepen Drws

  • Os bydd rhywun yn dod i’ch drws yn ddiwahoddiad ac yn cynnig nwyddau neu wasanaethau, mae’r Adran Safonau Masnach (Ffôn: 01437 764551) yn cynnig y cyngor a ganlyn:-

  • Peidiwch â gadael neb i mewn i’r tŷ
  • Gofynnwch iddyn nhw adael eu manylion cysylltu a chynnig manylion yn ysgrifenedig er mwyn i chi allu gwneud ymholiadau pellach a’u hystyried
  • Peidiwch â gwneud penderfyniadau byrfyfyr nac arwyddo unrhyw beth nes y byddwch wedi cael amser i feddwl
  • Gofynnwch i’r galwr beth fydd yn digwydd os byddwch yn newid eich meddwl oherwydd gan amlaf mae’r gyfraith yn caniatáu cyfnod o 14 niwrnod rhag ofn y byddwch eisiau newid eich meddwl a chanslo’r contract. Rhaid cael manylion ysgrifenedig ynglŷn â hyn ar yr adeg y gwneir y cytundeb.
  • Peidiwch â rhoi eich manylion personol i neb, yn enwedig manylion ariannol

Byddwch yn wyliadwrus os yw rhywun sy’n dod i’ch drws:

  • Yn gwrthod rhoi manylion ysgrifenedig
  • Yn rhoi pwysau arnoch i wneud penderfyniad
  • Yn honni mai dim ond ar y diwrnod hwnnw y mae’r cynnig ar gael
  • Yn methu â dod yn ôl rywbryd eto
  • Yn gwneud cynnig sy’n swnio’n rhy dda i fod yn wir
  • Yn dweud na allwch newid eich meddwl na chanslo’r contract

Nid yw pawb sy’n dod i’r drws ar berwyl drwg, ond byddwch yn wyliadwrus gan fod galwyr ffug yn ymddangos yn gwrtais ac yn ddymunol iawn ar y dechrau.

Os ydych yn bryderus ynglŷn â rhywun sydd wedi dod i’ch drws ac:

  • sy’n dal yn eich cartref; neu
  • sy’n mynd i ddod yn ôl e.e. i gasglu tâl; neu
  • sy’n cynnig mynd â chi i’r banc i dynnu arian allan

ffoniwch yr Heddlu ar 101 a Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth ar 0808 223 1133 neu 0808 223 1144 (llinell Gymraeg). Gallant hwy roi cyngor i chi hefyd.

Cynlluniau Ynni Gwyrdd

  • Mae yna lawer o gynlluniau cyfreithlon sy’n cael eu hariannu gan y llywodraeth gyda’r nod o wella effeithlonrwydd ynni cartref, ac yn cynnig er enghraifft, boeleri newydd, inswleiddio cartrefi neu ddyfeisiau ynni amgen fel paneli solar neu bympiau gwres ffynhonnell aer.
  • Gall asiantau a busnesau sy’n cynnig y cynlluniau ffonio’n ddigroeso dros y ffôn neu’n bersonol er mwyn gweld a ydych chi’n gymwys.
  • Os oes gyda chi ddiddordeb yn y cynllun, gwnewch eich gwaith ymchwil eich hun cyn cytuno ar unrhyw waith er mwyn gweld a yw’n addas. Cadarnhewch a yw’r Cyngor yn ymwybodol o’r busnes

Dewis masnachwr dibynadwy

Yn hytrach na disgwyl i rywun ddod i guro ar eich drws, mae’n well i chi chwilio am fasnachwr dibynadwy eich hun. Holwch eich ffrindiau a’ch perthnasau rhag ofn y gallant hwy argymell masnachwr.

Os ydych chi wedi cael eich targedu gan sgâm neu os ydych chi’n poeni bod perthynas, ffrind neu gymydog wedi’u targedu gan sgâm, cysylltwch â: Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144 am gyngor Rhennir y wybodaeth â Thîm Safonau Masnach Cyngor Sir Penfro, a allai gysylltu â chi

ID: 7343, adolygwyd 18/09/2023

Atal Cwympiadau

Mae llawer o bobl yn cael eu hanafu bob blwyddyn trwy gwympo yn eu cartrefi eu hunain ac mae’r risg yn cynyddu wrth i chi heneiddio, ond mae ofn cwympo yn peri pryder mawr i rai pobl. Fodd bynnag, gallwch gymryd rhai camau syml i leihau eich risg o gwympo yn eich cartref.

Cael gwared ar beryglon baglu

  • Tynnu rygiau neu sicrhau bod cefn di-lithro neu dâp arnynt
  • Tapiwch ymylon carpedi rhydd i lawr lle byddwch yn cerdded, neu gosodwch stripiau ar drothwyon drysau
  • Sicrhewch nad oes gwifrau neu geblau trydanol yn llusgo lle byddwch yn cerdded
  • Trefnwch y celfi er mwyn sicrhau na fyddant yn eich rhwystro pan fyddwch yn cerdded
  • Cadwch yr ardaloedd lle byddwch yn cerdded yn rhydd rhag llanast, yn enwedig grisiau

Goleuadau

  • Sicrhewch fod digon o olau yn eich cartref a bod y bylbiau’n gweithio ac yn ddigon llachar
  • Trowch y goleuadau ymlaen yn syth pan fydd hi’n dechrau tywyllu
  • Dylech gael golau y gallwch ei droi ymlaen yn y gwely
  • Os byddwch yn defnyddio’r tŷ bach gyda’r nos, rhowch olau’r landin ymlaen neu osod golau sy’n ymateb i symudiadau 

Symud yn ddiogel

  • Gosodwch reiliau llaw yn yr ystafell ymolchi, ger y tŷ bach, wrth y grisiau neu ar hyd coridorau
  • Defnyddiwch y rheiliau llaw wrth fynd i fyny neu i lawr y grisiau, a dylech ystyried gosod ail reilen
  • Gallwch osgoi pendro trwy godi’n araf os ydych chi wedi bod yn eistedd neu’n gorwedd am amser hir
  • Cymerwch amser – peidiwch â brysio i ateb y drws neu’r ffôn, na throi’n gyflym
  • Defnyddiwch gymorth cerdded sy’n briodol ar gyfer eich anghenion

Dillad

  • Gwiriwch fod eich sliperi neu eich esgidiau’n eich ffitio’n iawn
  • Sicrhewch nad yw eich dillad nos yn agos at eich traed
  • Gwisgwch ddillad sy’n hawdd i’w gwisgo a’u diosg. Eisteddwch wrth ymwisgo neu ddadwisgo
  • Defnyddiwch gymhorthion sy’n eich atal rhag plygu, fel cymorth sanau neu gymorth esgidiau â handlen hir

Meddyliwch am eich dulliau storio

  • Cadwch eitemau yr ydych yn eu defnyddio’n aml, fel potiau a phadellau neu ddillad, mewn cypyrddau neu ar silffoedd sy’n hawdd eu cyrraedd heb blygu neu ymestyn
  • Os oes rhaid i chi estyn rhywbeth uchel, defnyddiwch ysgol fach gadarn – gyda handlen, yn ddelfrydol – a pheidiwch â sefyll ar gadair

Golwg

  • Dylech brofi eich llygaid yn rheolaidd
  • Cofiwch wisgo eich sbectol
  • Os oes gennych chi wahanol barau am wahanol weithgareddau, cofiwch eu newid nhw pan fydd angen
  • Byddwch yn ymwybodol bod sbectol amrywffocal yn anffurfio pellteroedd

Gofalwch am eich traed

  • Torrwch ewinedd eich traed yn aml a dylech ymweld â chiropodydd os oes angen
  • Gwisgwch esgidiau sy’n eich ffitio’n dda ac sy’n cynnal eich troed
  • Mae gan Age UK wybodaeth ddefnyddiol ynglŷn ag edrych ar ôl eich traed (yn agor mewn tab newydd)

Gwnewch ymarfer corff 

Iechyd meddygol

  • Dylai eich meddyg teulu neu fferyllydd wirio eich meddyginiaethau yn rheolaidd

Rhagor o wybodaeth a chymorth

 

ID: 2035, adolygwyd 26/04/2024

Larymau cymunedol

Os ydych chi’n poeni am gael help mewn argyfwng, hwyrach y bydd gennych ddiddordeb mewn cael Larwm Cymunedol. Bydd crogdlws, sy’n cael ei wisgo o amgylch eich gwddf neu arddwrn, yn cael ei gysylltu â’ch ffôn a bydd yn cael ei actifadu os byddwch yn ei wasgu mewn argyfwng. Bydd y gwasanaeth monitro’n ateb eich galwad a bydd y gweithredwr yn penderfynu ar ba gam i’w gymryd (gweler isod am y rhestr o ddarparwyr).

Os ydych chi’n methu neu’n anfodlon cysylltu â gwasanaeth monitro, mae Larymau Diogelwch y Cartref ar gael i’w prynu’n breifat. Gall y rhain amrywio o unedau ar eu pen eu hunain (i’w defnyddio yn y cartref neu’n agos ato) i ffonio ymatebwr dros wasanaethau Wi-Fi, ffôn symudol neu linell tir.

Cyngor Sir Penfro

Os ydych chi’n berchen ar eich cartref, yn denant rhentu’n breifat neu’n denant Awdurdod Lleol, ewch i Wasanaeth Larwm Cymunedol Sir Benfro i gael gwybodaeth am sut i gael Larwm Cymunedol.

Cymdeithasau Tai Cymdeithasol

Os ydych chi’n denant Tai Cymdeithasol, dylai’ch landlord allu darparu a gosod Larwm Cymunedol yn eich eiddo a bydd angen i chi gysylltu â nhw i drafod eich anghenion. Gall tenantiaid Ateb wneud cais ar-lein trwy ymweld â’u Gwasanaeth i Bobl Hŷn (yn agor mewn tab newydd).

Gwasanaethau Monitro Galwadau Cenedlaethol

Gallwch drefnu i ffitio Gwasanaeth Monitro Larwm Personol eich hun sy’n cynnwys y darparwyr canlynol:

 

ID: 2029, adolygwyd 26/04/2024

Telecare

Mae gan Teleofal amrywiaeth eang o larymau a synwyryddion sy’n galluogi pobl i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartref eu hunain. Mae nifer o larymau eraill i’w cael ar wahân i’r rhai rydych yn eu gwisgo am eich gwddf neu eich arddwrn, gan gynnwys synwyryddion syrthio, synwyryddion gwely a synwyryddion mwg. Mae’r cyfarpar yn cael ei gysylltu â chanolfan ymateb i larwm cymunedol a fydd yn cysylltu â chi ac yn cael gafael ar yr unigolyn neu’r gwasanaeth priodol. Mae’n rhaid i weithiwr Iechyd proffesiynol atgyfeirio rhywun at Teleofal.

Ffoniwch: 01437 764551

ID: 2031, adolygwyd 28/06/2022

Cyfarpar i wneud eich cartref yn ddiogelach

Nod y rhan hon yw rhoi gwybodaeth am offer a all eich helpu i aros yn ddiogel yn eich cartref eich hun.

Carbon Monocsid

Cynhyrchir CO trwy losgi nwy naturiol neu nwy naturiol hylifedig (LPG) yn annigonol. Mae hyn yn digwydd pan fydd dyfais nwy wedi’i ffitio’n anghywir, wedi’i hatgyweirio’n wael neu ei chynnal a’i chadw’n wael. Gall ddigwydd hefyd os bydd y ffliwiau, simneiau neu’r fentiau wedi’u rhwystro.

Mae larymau CO modern yn debyg o ran cynllun i larymau mwg (nad ydynt yn synhwyro CO) a gellir eu prynu o oddeutu £15 mewn nifer fawr o siopau adwerthu mawrion gan gynnwys siopau DIY ac archfarchnadoedd.

Os na all rhywun sy’n byw adref ymateb i larwm monitro CO, gall larymau CO clyfar anfon rhybudd at unrhyw un i ffwrdd o’r cartref ac mae’r rhain ar gael i’w prynu’n breifat, neu gall Gwasanaeth Larwm Cymunedol Sir Benfro ddarparu larymau sy’n gysylltiedig â gwasanaeth monitro ar ôl mynd trwy asesiad o anghenion.

Gellir canfod rhagor o gyngor am CO yn y Gofrestr Diogelwch Nwy (yn agor mewn tab newydd). Cewch hefyd ofyn am Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref (yn agor mewn tab newydd) o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Diogelwch Tân

Cynigia Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref (yn agor mewn tab newydd) am ddim i’r rhai sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain neu gartrefi a rentir yn breifat er mwyn lleihau’r risg o dân ac i fod yn ymwybodol o unrhyw bobl ddiamddiffyn yn y cartref. Gallant ffitio offer ar eu pen eu hun am ddim fel larymau mwg a synwyryddion gwres neu, hyd yn oed glustogau sy’n dirgrynu i bobl drwm eu clyw. Gweithiant yn agos gyda Gwasanaeth Larwm Cymunedol Sir Benfro i ffitio offer sy’n gysylltiedig â gwasanaeth monitro os na all rhywun ymateb i sefyllfa o argyfwng.

Mae synwyryddion mwg clyfar ar gael i’w prynu’n breifat a gallant anfon rhybudd at unrhyw un sydd i ffwrdd o’r cartref – sy’n hynod ddefnyddiol i rywun sy’n methu ag ymateb i argyfwng yn y cartref.

Diogelwch Nwy

Cwcers

Mae diogelwch yn y gegin yn ofid mynych, yn enwedig i’r rhai sy’n byw ar eu pen eu hunain ac/neu sydd â nam gwybyddol. Hwyrach yr hoffech ystyried buddsoddi mewn cwcer nwy modern gyda Dyfais Goruchwylio Fflamau integredig a fydd yn edrych i sicrhau bod fflam mewn unrhyw losgwr sydd wedi’i danio. Os bydd y fflam wedi diffodd am unrhyw reswm, bydd y ddyfais yn cau’r cyflenwad nwy’n awtomatig i’r llosgwr dan sylw, gan atal nwy rhag cronni.

Cloi falfiau cwcers

Mae hyn yn addas i bobl sy’n methu gweithio’u cwcers nwy yn ddiogel mwyach, fel pobl sy’n byw gyda chlefyd Alzheimer neu Ddementia a allai fod mewn perygl o niweidio’u hunain a’u cartref trwy adael nwy ymlaen heb fflam neu drwy anghofio diffodd y pentan. Mae Cloi Falfiau Cwcers yn galluogi ar gyfer defnyddio’r cwcer dan oruchwyliaeth, a’u cloi yn y safle diffodd pan fydd deilydd yr allwedd yn gadael y tŷ neu’r ystafell, a fydd yn golygu bod eu teulu neu ofalwr yn dawel eu meddwl na fydd unrhyw niwed yn dod i’w rhan pan fyddant ar eu pen eu hunain. Mae’r falfiau hyn wrthi’n cael eu cyflenwi’n rhad ac am ddim i Gwsmeriaid Blaenoriaeth Wales & West Utilities (yn agor mewn tab newydd)

Synwyryddion Nwy

Mae Synwyryddion Nwy y Cartref ar gael ar raddfa eang ar y farchnad ac yn cynnig ffordd ddarbodus o gyflwyno rhybudd (heb yr angen i gael falf cau nwy) os bydd dyfais yn gollwng nwy.

Falfiau Cau Nwy

Mae’r risg o anghofio tanio cylch nwy neu dân nwy yn cynyddu wrth i bobl gael anawsterau gyda’u cof. Mae Falfiau Cau Nwy yn torri’r cyflenwad nwy o gael eu sbarduno gan synhwyrydd nwy wedi’i gysylltu â blwch rheoli teleofal. Caiff swîts sy’n cael ei weithio trwy allwedd ar y blwch rheoli ei ddefnyddio i aildanio’r cyflenwad nwy ar ôl i’r rheswm am y gollyngiad gael ei ymchwilio. Bydd y falfiau cau hyn yn cael eu ffitio a’u hailosod gan ffitwyr Gas Safe cofrestredig yn unig ac ni chânt eu darparu gan Gyngor Sir Penfro. 

Blancedi Trydan

Mae blancedi trydan sydd wedi torri neu sydd â nam yn achosi 5,000 o danau y flwyddyn yn y Deyrnas Unedig. Gall y Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gyflawni Archwiliad Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref (yn agor mewn tab newydd) o flancedi trydan.

I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch blancedi trydan, cyfeiriwch at y cyngor sydd yn Electrical Safety First (yn agor mewn tab newydd).

 

ID: 2033, adolygwyd 26/04/2024