Eich Iechyd

Eich Iechyd Cyffredinol

Ymborth

Bwyta diet cytbwys yw un o’r ffyrdd gorau i gynnal eich iechyd. Mae bwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd yn gallu:  

  • lleihau’r risg o broblemau iechyd difrifol fel gordewdra, diabetes math 2, clefyd y galon, strôc a rhai cancrau  
  • lleihau’r risg o gancr y coluddyn oherwydd eich bod yn bwyta mwy o ffibr
  • cyfrannu at ddiet iach a chytbwys, eich helpu i gadw pwysau iachus a chadw eich calon yn iach  

Yn ogystal â digon o ffrwythau a llysiau, dylem hefyd fod yn bwyta:   

  • digon o fwyd gyda startsh, fel bara, reis, tatws a phasta  
  • peth cig, pysgod, wyau, ffa a ffynonellau eraill o brotein heblaw am gynnyrch llaeth  
  • peth llaeth a chynnyrch llaeth
  • ychydig bach o fwyd a diodydd sy’n uchel mewn braster a/neu siwgr  
  • yfed 8-10 gwydryn 200ml o ddŵr y dydd (neu fwy wrth ymarfer neu mewn tywydd poeth)

Am ragor o wybodaeth:

Sefydliad y Galon Prydain (yn agor mewn tab newydd) 

British Dietetic Association (yn agor mewn tab newydd) 
 

Ysmygu

Os ydych yn ysmygu, heb os bydd rhoi’r gorau iddi yn gwella eich iechyd. Ar ôl 24 awr yn unig, bydd eich ysgyfaint yn dechrau clirio, byddwch yn gallu anadlu’n rhwyddach a bydd gennych fwy o egni. Yn y tymor hir, byddwch hefyd dan lai o straen, bydd eich croen yn edrych yn ieuengach a’ch dannedd yn wynnach, a bydd eich synnwyr arogli a blasu yn gwella. Ar ôl blwyddyn, mae eich risg o drawiad ar y galon yn gostwng i tua hanner o gymharu â smygwr ac ar ôl 10 mlynedd, mae eich risg o gancr yr ysgyfaint wedi gostwng i’w hanner. 

Dim Smygu Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Yn rhoi cymorth gan ymgynghorwyr a fydd yn anfeirniadol ac am ddim. Rydych bedair gwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau iddi gyda rhaglen gymorth na phe baech yn ceisio gwneud hynny ar eich pen eich hun.   

Ffôn: 0800 085 2219

Mae help ar gael yn eich fferyllfa leol hefyd.  

Mae bod yn ymyl mwg ail law hefyd yn gallu cynyddu eich risg o drawiad ar y galon neu o ddatblygu problemau anadlu a chancr yr ysgyfaint. Gwnewch yn siŵr bod pobl sy'n smocio yn eich tŷ yn smocio tu allan, ac nad ydyn nhw'n smocio yn eich car.

Alcohol

Gall yfed alcohol yn gymedrol fod yn ddiogel a phleserus, ond gall goryfed arwain at broblemau iechyd a/neu broblemau cymdeithasol. Mae yfed llai yn gostwng eich risg o glefyd y galon, cancr a niwed i’r iau, a byddwch yn llai tebygol o gael damwain. I gadw’n iach:

  • Y terfyn diogel a argymhellir ar gyfer dynion a merched yw dim mwy na 14 o unedau yr wythnos wedi’u gwasgaru’n gyfartal dros dri diwrnod neu fwy.
  • Os ydych wedi cael sesiwn yfed drom, dylech osgoi alcohol a gyrru am 48 awr  

(Mae 'rheolaidd' yn golygu yfed hyn bob dydd neu bron bob dydd o’r wythnos)

Mae gwydraid bach o win (125ml) yn 1.5 uned. Mae gan beint o gwrw, lager neu seidr cryfder isel (3.6% abv) 2 uned. Mae un joch (25ml) o wirod 40% yn 1 uned.  

Os ydych chi’n rheolaidd yn yfed mwy na’r swm a argymhellir, beth am geisio diod llai o faint neu ddiod cryfder is, diod feddal, diod yn hwyrach na ddiod adeg prydau bwyd yn unig yn lle eich diod arferol.   Gallwch hefyd geisio:

  • Treulio mwy o amser gyda phobl sy’n yfed ychydig iawn neu dim o gwbl – cwrdd â ffrindiau neu ymuno â chlwb.  
  • Rhoi cynnig ar hobi neu ddiddordeb newydd
  • Cael diod gynnes yn hytrach na diod alcohol i’ch helpu i gysgu

Mae help a chefnogaeth ar gael. Os ydych chi'n poeni am eich defnydd personol o alcohol neu rywun arall, ffoniwch 03303 639 997 i gael cymorth ffôn am ddim gan y Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed lleol (DDAS) neu gollyngwch e-bost atynt i confidential@d-das.co.uk

Dylech osgoi alcohol os ydych yn sâl neu’n teimlo’n oer; dylech osgoi yfed ar stumog wag a dylech geisio peidio ag yfed alcohol ar o leiaf dau ddiwrnod yr wythnos. Os ydych yn cymryd meddyginiaeth a roddwyd i chi gan feddyg, ni ddylech yfed alcohol yn achos rhai ohonynt gan y bydd yn amharu ar effaith y feddyginiaeth neu’n rhwystro’r effaith yn llwyr. Gofynnwch i’ch meddyg teulu neu fferyllydd os nad ydych yn siŵr. 

Am ragor o wybodaeth: NHS (yn agor mewn tab newydd) 


Cwympo

Mae’r risg o gwympo yn cynyddu gydag oedran. Mae cwympo yn gallu arwain at boen, gofid, anaf, colli hyder – a cholli annibyniaeth. Gallwch wneud llawer o bethau i’ch rhwystro rhag cwympo. Un o’r ffyrdd gorau i aros ar eich traed yw ymarfer yn rheolaidd i sicrhau bod gennych gydbwysedd da a steil cerdded da. Mae ymarferion a gweithgareddau cydbwyso sy’n gwella nerth cyhyrau eich coesau, breichiau, cefn, ysgwyddau a’r frest yn arbennig o ddefnyddiol.   

Os ydych yn cwympo, ewch at eich meddyg teulu. Dywedwch wrtho eich bod wedi cwympo, pryd ddigwyddodd hynny a pham ddigwyddodd hynny. Gofynnwch os allwch chi gael peth help i leihau’r risg o gwympo eto. Gallai nifer o ffactorau fod yn cyfrannu at y broblem – o gyflyrau meddygol i esgidiau anaddas (gweler Cynnal Annibyniaeth am ffyrdd eraill o’ch rhwystro rhag cwympo yn eich cartref).   

Mwy o wybodaeth am eich risg o gwympo a chyngor i’ch rhwystro rhag cwympo:  

Age Cymru (yn agor mewn tab newydd)  

Iechyd y geg

Mae ceg iach yn gallu cyfrannu at eich iechyd yn gyffredinol. Os oes gennych unrhyw boen neu broblemau yn gysylltiedig â’ch dannedd neu ddannedd dodi, neu os ydych chi’n sylwi ar lwmp annisgwyl, darnau coch a gwyn, neu wlser sydd ddim yn gwella yn eich ceg, dylech fynd i weld eich deintydd cyn gynted ag y bo modd.

Os oes gennych eich dannedd eich hunan neu os ydych yn gwisgo dannedd dodi, dylech ymweld â deintydd i gael archwiliadau rheolaidd, o leiaf bob dwy flynedd. Mae Galw Iechyd Cymru yn gallu darparu gwybodaeth am ddeintyddion yn eich ardal. Mae archwiliadau deintyddol am ddim yng Nghymru os ydych danb 25 oed neu os ydych chi’n 60 a throsodd.  

Os ydych chi’n perthyn i un o’r categorïau canlynol, ni fydd yn rhaid i chi dalu am eich triniaeth ddeintyddol GIG. Dyma’r manylion:

  • Rydych chi neu’ch partner yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Credyd Cynhwysol, Lwfans Ceisiwr Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm neu warant credyd pensiwn
  • Mae’ch enw yn ymddangos ar Dystysgrif Eithrio Credyd Treth y GIG
  • Mae’ch enw yn ymddangos ar dystysgrif HC2 y GIG ar gyfer cymorth llawn gyda chostau iechyd.

Os oes gennych eich dannedd naturiol, dylech frwshio ddwywaith y dydd gyda phast dannedd fflworid i rwystro pydredd. Gallwch ddefnyddio hylif fflworid i olchi’r geg, brwshys bach i lanhau rhwng dannedd a fflos yn ogystal â’ch brwsh dannedd.  

Os nad oes gennych unrhyw ddannedd, dylech frwshio eich gymiau a’ch tafod gyda brwsh meddal. Os ydych chi’n gwisgo dannedd dodi, mae’n bwysig eich bod yn eu glanhau o leiaf ddwywaith y dydd, ac mae’n well eu tynnu allan dros nos i roi cyfle i’ch ceg orffwys. Gallwch amddiffyn eich dannedd drwy fwyta diet iach a chytbwys, a bwyta llai o fwyd a diod gyda siwgr ac asid ynddynt. Ddylech chi ond bwyta bwyd a diod gyda siwgr ac asid ynddynt adeg prydau bwyd, a dim mwy na phedair gwaith y dydd.  Mae diodydd heb siwgr neu rai heb lawer o siwgr yn gallu toddi arwyneb allanol y dannedd oherwydd bod asid ynddynt. Llaeth a dŵr yw’r diodydd mwyaf diogel i’ch dannedd. Dylech hefyd wylio faint o ddiodydd alcohol yr ydych yn yfed.  

Am ragor o wybodaeth:

British Dental Health Foundation (yn agor mewn tab newydd)

Ffôn: 01788 539780  (llinell gymorth ddeintyddol) 

NHS (yn agor mewn tab newydd) 

Golwg

Mae sicrhau eich bod yn cael prawf golwg rheolaidd yn bwysig. Mae bob dwy flynedd yn ddelfrydol. Os ydych yn 60 a throsodd neu os ydych yn cyflawni meini prawf eraill (gweler ‘Optometryddion’yn y bennod hon) rydych yn gymwys i gael prawf llygaid GIG am ddim. Dylech fynd at optometrydd neu adran damweiniau ac achosion brys ysbyty yn syth os: :

  • Ydy eich golwg yn newid yn sydyn
  • Ydych yn colli eich golwg yn llwyr neu ran o’ch golwg yn un llygad neu’r ddau lygad
  • Ydych yn cael damwain sy’n effeithio ar eich llygaid
  • Ydych yn sydyn yn dechrau gweld goleuadau’n fflachio neu floaters yn amharu ar eich golwg  

Mae rhoi’r gorau i ysmygu a bwyta bwydydd iach yn gamau hawdd y gallwch eu cymryd i leihau’r perygl o golli eich golwg. Dylech bob amser amddiffyn eich llygaid yn yr haul, ac os ydych chi’n gwisgo lensys cyffwrdd, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofalu amdanynt yn iawn. Os ydych chi’n gweithio gyda deunyddiau peryglus neu ddeunyddiau sy’n cael eu cludo yn yr aer, dylech wisgo sbectol diogelwch i amddiffyn eich llygaid rhag anaf. Os ydych chi’n gweithio gyda sgrin cyfrifiadur, dylech gymryd seibiannau rheolaidd i sicrhau bod eich llygaid yn teimlo’n ffres. 

Am ragor o wybodaeth:

Gwasanaeth Gofal Llygaid Cymru (yn agor mewn tab newydd) Ffôn 01267 248793 

Royal National Institute of Blind People (RNIB) (yn agor mewn tab newydd)  Llinell Gymorth: 0303 123 9999 

Clyw

Mae colli clyw yn beth cyffredin, a bydd yn effeithio ar tua 90% ohonom yn ein hoes. Mae gweithredu’n fuan yn gallu ychwanegu at ein bywydau, ac yn gallu eich helpu i gyfathrebu’n well gyda theulu a ffrindiau a mwynhau sefyllfaoedd cymdeithasol yn fwy. Nid yw’n bosibl rhwystro pob math o gyflyrau colli clyw, ond drwy ddilyn y cyngor isod, efallai y byddwch yn gallu lleihau eich risg o nam ar y clyw sydd wedi’i achosi gan sŵn:

  • Gofalwch nad yw eich teledu, radio neu gerddoriaeth yn rhy uchel.
    Os nad ydych yn gallu sgwrsio’n gyfforddus gyda rhywun sydd ddau fetr i ffwrdd oddi wrthych, trowch y sŵn i lawr. Ddylech chi ddim bod yn dioddef o glyw niwlog neu dincian yn eich clustiau ar ôl gwrando ar gerddoriaeth.
  • Defnyddiwch glustffonau sy’n blocio mwy o synau allanol, yn hytrach na throi’r sŵn i fyny. Gallwch brynu cyfarpar i’w roi ar eich clustffonau arferol sy’n blocio mwy o sŵn allanol.  
  • Defnyddiwch gyfarpar amddiffyn clyw fel amddiffynwyr clustiau neu blygiau clust os ydych chi’n treulio amser mewn amgylchedd swnllyd neu mewn digwyddiadau swnllyd, er enghraifft, tafarn, clwb nos, gweithdy garej neu ar safle adeiladu.  
  • Peidiwch â gwthio unrhyw beth i mewn i’ch clustiau. Mae hyn yn cynnwys bysedd, bydiau cotwm, gwlân cotwm a hancesi papur.
  • Byddwch yn ymwybodol o symptomau cyflyrau cyffredin sy’n arwain at golli clyw, fel heintiau’r glust (yn agor mewn tab newydd) a chlefyd Menière (yn agor mewn tab newydd)
  • Ewch i weld eich meddyg teulu os oes gennych broblemau gyda’ch clyw.

Ffliw

Mae cael pigiad ffliw bob blwyddyn yn gallu eich diogelu rhag ffliw a chymhlethdodau niweidiol am flwyddyn. Cynigir y pigiad ffliw yn rhad ac am ddim i bobl sydd mewn mwy o berygl. Dylech gael pigiad ffliw bob blwyddyn: 

  • Os ydych dros 65
  • Os ydych yn feichiog
  • Os ydych yn dioddef o gyflwr iechyd difrifol
  • Os ydych yn byw mewn cartref gofal preswyl hirdymor neu adnodd gofal hirdymor arall
  • Os ydych yn derbyn lwfans gofalwr, neu os mai chi yw prif ofalwr unigolyn a fyddai mewn perygl os byddwch chi yn cwympo’n sâl
  • Os ydych yn aelod o sefydliad gwirfoddol sy’n darparu cymorth cyntaf wedi’i gynllunio neu’n Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned
  • Os ydych yn weithiwr gofal iechyd sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â chleifion neu glientiaid
  • Os ydych yn byw gyda rhywun gyda system imiwn wan

Cysylltwch â’ch meddyg teulu ynghylch cael y pigiad ffliw os ydych chi’n bodloni un o’r meini prawf uchod.

Cewch ragor o wybodaeth yn Ffliw (yn agor mewn tab newydd) 

Sgrinio

Sgrinio am Gancr

Gall sgrinio leihau eich risg o farw o gancr neu broblemau iechyd eraill trwy ei ganfod yn y cyfnod cynnar, pan nad oes yn aml unrhyw symptomau. Cynigir y mathau canlynol o sgrinio yng Nghymru:

Sgrinio Serfigol

Yng Nghymru, mae menywod dros 25 yn cael eu gwahodd i gael eu sgrinio bob 3 blynedd, a menywod 50-64 bob 5 mlynedd. Gallwch ddewis gael y prawf ceg y groth yn eich meddygfa leol neu glinig iechyd rhywiol. Os nad ydych yn siwr ble i ganfod y clinigau hyn, gallwch ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647.

Sgrinio’r Fron

Mae menywod 50-70 yn cael eu gwahodd i gael pelydr-x o’r fron bob 3 blynedd. Gall menywod dros 70 ofyn am apwyntiad sgrinio.  
Bydd y sgrinio’n digwydd mewn unedau sgrinio symudol. Mae’r uned yn ymweld â dros 100 o safleoedd yng Nghymru fel bod menywod yn cael eu sgrinio yn agos i’w cartref, ac maent yn hygyrch i fenywod sy’n defnyddio cadair olwyn.  Am ragor o wybodaeth, ewch i Bron Brawf Cymru (yn agor mewn tab newydd) neu ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47

Sgrinio’r Coluddyn

Cynigir pecyn sgrinio’r coluddyn yng Nghymru ar hyno bryd i ddynion a menywod rhwng 60 a 74 oed. Cewch eich gwahodd i gymryd rhan bob dwy flynedd. Pan fydd yn amser sgrinio, caiff y pecyn ei anfon drwy’r post. Byddwch yn gallu gwneud y prawf yn eich cartref, mewn preifatrwydd.

Am ragor o wybodaeth, neu os oes gennych unrhyw bryderon am y prawf, cysylltwch â Llinell Gymorth y GIG ar 0800 294 3370.

Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru

Mae Ymlediad Aortig Abdomenol yn digwydd pan fydd y brif bibell waed sy’n cario gwaed o’r galon i’r corff yn chwyddo. Weithiau, mae mur yr aorta yn yr abdomen yn gwanhau ac yn chwyddo i ffurfio ymlediad. Pan fydd hyn yn digwydd, mae perygl y bydd yr aorta yn rhwygo neu’n hollti.

Gwahoddir dynion 65 oed am brawf sgrinio uwchsain unwaith. Ni wahoddir menywod am brawf sgrinio gan eu bod yn llawer llai tebygol o gael ymlediad aortig abdomenol. Mae risg marwolaeth yn uchel os yw ymlediad aortig abdomenol yn hollti, felly mae canfod ymlediad yn y cyfnod cynnar yn rhoi’r cyfle gorau i drin y broblem a goroesi.
Bydd sgrinio ymlediadau aortig abdomenol yn digwydd mewn clinigau cymunedol. Am ragor o wybodaeth, ewch i Sgrinio AAA (yn agor mewn tab newydd) neu ewch i siarad gyda’ch meddyg teulu.

Croen

Mae archwilio eich croen eich hun yn bwysig oherwyded mae adnabod cancr o’r croen yn y cyfnod cynnar yn achub bywydau. Nid cancr yw’r rhan fwyaf o’r newidiadau i’ch croen, ond os ydych chi’n canfod rhywbeth anarferol ar eich croen nad yw’n diflannu ar ôl pedair i chwe wythnos, neu fan geni neu ddarn o groen sy’n newid siâp neu’n chwyddo, dylech fynd at feddyg iddo gael archwilio hynny.  
Gallwch leihau eich risg o gancr y croen drwy:

  • Osgoi’r haul cymaint â phosibl pan fydd ar ei gryfaf – rhwng 11 y bore a 3 y prynhawn
  • Gorchuddio eich croen cymaint â phosibl yn yr heulwen
  • Defnyddio hufen haul ffactor uchel (defnyddiwch ffactor 15 a mwy bob amser)  

Mae mwy o wybodaeth a chyngor ar gael drwy lenwi asesiad arlein yn Cancer Research UK (yn agor mewn tab newydd)  Gweler hefyd NHS (yn agor mewn tab newydd) am asesydd symptomau newidiadau man geni os ydych yn poeni am fan geni ar eich croen.

Os ydych chi’n poeni am gancr, ffoniwch linell gymorth cancr Tenovus ar 0808 808 1010, neu linell gymorth Ymchwil Cancr ar 0808 800 4040.

Stroc

Ymosodiad ar yr ymennydd yw strôc.  Mae’n digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i ran o’r ymennydd yn cael ei dorri i ffwrdd. Mae gwaed yn cludo maetholion hanfodol ac ocsigen i’r ymennydd. Heb waed, mae’n bosibl i gelloedd yr ymennydd gael eu niweidio neu eu dinistrio, ac ni fyddant yn gallu gweithio’n iawn. Mae arwyddion strôc yn sydyn iawn. Mae’r symptomau yn cynnwys:

  • Diffrwythder, gwendid neu barlys ar un ochr o’r corff (braich, coes neu amrant llipa, neu geg yn glafoerio)
  • Lleferydd aneglur neu anhawster i ganfod geiriau neu ddeall lleferydd
  • Golwg niwlog neu golli golwg
  • Dryswch neu ansadrwydd
  • Cur pen sydyn, difrifol

Os ydych yn amau strôc, cofiwch am FAST (Wyneb, Breichiau, Lleferydd, Amser):

  • Gwendid wyneb – ydy’r person yn gallu gwenu? Ydy’r geg neu’r llygad wedi syrthio?  
  • Gwendid breichiau – ydy’r person yn gallu codi’r ddwy fraich?
  • Problemau lleferydd – ydy’r person yn gallu siarad yn eglur a deall beth ydych chi’n ei ddweud?
  • Amser –i alw 999

Mae newidiadau syml i’ch ffordd o fyw yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’ch risg o gael strôc yn y dyfodol, fel rhoi’r gorau i ysmygu, yfed llai o alcohol, bwyta’n iach a chadw’n egnïol.

Am ragor o wybodaeth:

Stroke Association Helpline (yn agor mewn tab newydd): 03033033100  

NHS (yn agor mewn tab newydd)   

 

Y Galon

Mae cysylltiad rhwng clefyd y galon a phethau fel pwysau gwaed uchel, diffyg gweithgarwch corfforol, ysmygu, diabetes, colesterol gwaed uchel a diet wael.  

Gallwch leihau eich risg o glefyd y galon drwy wneud rhai newidiadau syml i’ch ffordd o fyw, beth bynnag yw eich oed.  Mae gwneud ymarfer corff, bwyta diet iach, bod yn ymwybodol o beryglon fel ysmygu, yfed, pwysau gwaed uchel a straen i gyd yn bwysig i’ch iechyd yn y tymor hir. Dylech sicrhau hefyd eich bod yn cymryd unrhyw feddyginiaeth a gewch gan eich meddyg.

Os ydych chi’n meddwl y gallech fod mewn perygl o glefyd y galon, mae’n bosibl i’ch meddyg teulu neu nyrs practis wneud asesiad iechyd y galon neu asesiad risg  cardiofasgwlaidd. Mae hyn ar gael i bawb dros 50. Cewch gyngor ynghylch sut i gadw eich calon yn iach, ac ystyried triniaeth fel meddyginiaeth i amddiffyn eich calon.

Mae rhagor o wybodaeth gan Sefydliad Prydeinig y Galon (yn agor mewn tab newydd) Ffôn: 0300 330 33 11.

Clefyd Siwgwr

Mae diabetes yn gyflwr gydol oes sy’n achosi i lefel siwgr gwaed person godi gormod. Mae yna ddau brif fath o ddiabetes; fe’u gelwir yn fath 1 a math 2, gyda 90% o bobl â  diabetes yn dioddef o fath 2. Mae diabetes math 2 fel rheol yn effeithio ar bobl dros 40.

Er nad ydym yn deall beth yn union sy’n achosi diabetes math 2, mae ffactorau fel gordewdra a bod dros bwysau yn gallu cyfrannu. Mae ceisio cyflawni neu gynnal pwysau iach a ffordd o fyw iach yn gallu helpu i rwystro’r clefyd.  

Cysylltwch â Diabetes UK (yn agor mewn tab newydd) 

0845 120 2960 

Iechyd Rhywiol

Mae ymchwil yn dangos bod pobl hyd at eu hwythdegau yn ymwneud yn fwy helaeth â rhyw y dyddiau hyn, felly mae gwybodaeth a chyngor dibynadwy yn hanfodol bwysig. 

Am ragor o wybodaeth:

NHS (yn agor mewn tab newydd)

FPA (Family Planning Association) (yn agor mewn tab newydd)  

 

Cof

Mae llawer ohonom yn sylwi bod ein cof yn dirywio wrth i ni heneiddio. Mae’n gallu bod yn anodd dweud os yw hyn yn arwydd o gyflwr gwaelodol fel dementia.  

Mae’r term 'dementia' yn disgrifio set o symptomau sy’n cynnwys colli cof, newidiadau mewn hwyliau a phroblemau gyda chyfathrebu ac ymresymu. Mae’r symptomau hyn yn digwydd pan fydd rhai clefydau yn amharu ar yr ymennydd, gan gynnwys Clefyd  Alzheimer a’r niwed a achosir gan gyfres o strociau bach. Mae symptomau dementia yn gallu cynnwys:  

  • Colli cof. Mae hyn yn effeithio’n arbennig ar gof tymor byr, fel anghofio beth ddigwyddodd ynghynt y diwrnod hwnnw, methu cofio sgyrsiau, bod yn ail-adroddus neu anghofio’r ffordd adref. Mae’r cof tymor hir fel rheol yn dal i fod yn eithaf da
  • Newid mewn hwyliau. Mae’n bosibl i bobl â dementia gilio o sefyllfaoedd, ymddangos yn drist, yn ofnus neu’n flin gyda’r hyn sy’n digwydd iddynt  
  • Problemau cyfathrebu. Mae’r rhain yn cynnwys cael trafferth i ganfod y gair cywir am bethau, er enghraifft disgrifio swyddogaeth eitem yn lle ei henwi  

Am gyngor a chymorth

Cymdeithas Alzheimer (yn agor mewn tab newydd)

ID: 10418, adolygwyd 26/04/2024