Ffliw
Mae cael pigiad ffliw bob blwyddyn yn gallu eich diogelu rhag ffliw a chymhlethdodau niweidiol am flwyddyn. Cynigir y pigiad ffliw yn rhad ac am ddim i bobl sydd mewn mwy o berygl. Dylech gael pigiad ffliw bob blwyddyn:
- Os ydych dros 65
- Os ydych yn feichiog
- Os ydych yn dioddef o gyflwr iechyd difrifol
- Os ydych yn byw mewn cartref gofal preswyl hirdymor neu adnodd gofal hirdymor arall
- Os ydych yn derbyn lwfans gofalwr, neu os mai chi yw prif ofalwr unigolyn a fyddai mewn perygl os byddwch chi yn cwympo’n sâl
- Os ydych yn aelod o sefydliad gwirfoddol sy’n darparu cymorth cyntaf wedi’i gynllunio neu’n Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned
- Os ydych yn weithiwr gofal iechyd sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â chleifion neu glientiaid
- Os ydych yn byw gyda rhywun gyda system imiwn wan
Cysylltwch â’ch meddyg teulu ynghylch cael y pigiad ffliw os ydych chi’n bodloni un o’r meini prawf uchod.
Cewch ragor o wybodaeth yn www.nhs.uk/conditions/flu