Eich Iechyd
Gofal Brys
- Dewiswch yn Ofalus
- Triniaeth Ddeintyddol Frys
- Man Anafiadau
- Gofal Brys mewn Ysbyty
- Gwasanaeth Ambiwlans Brys
Dewiswch yn Ofalus
I’ch helpu i benderfynu pa wasanaeth i’w ddefnyddio, os oes gennych unrhyw amheuaeth GIG Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Meddyliwch yn ofalus cyn mynd yn syth i’r adran damweiniau ac achosion brys.
Dewiswch yn ofalus er mwyn sicrhau:
- Eich bod yn cael y driniaeth iawn yn y lle iawn
- Bod gwasanaethau brys prysur yn gallu helpu’r rhai sydd eu hangen fwyaf
- Bod triniaeth hanfodol yn cael ei rhoi cyn gynted ag y bo modd
Byddwch yn barod drwy gael moddion hanfodol gartref mewn cwpwrdd sydd allan o gyrraedd plant (gweler gofalu amdanoch eich hun uchod).
Gyda phwy y dylwn i gysylltu
Argyfyngau
e.e. colli ymwybyddiaeth, poen difrifol yn y frest, gwaedu difrifol, poen difrifol, methu â siarad mewn brawddegau
Ffoniwch 999 a gofynnwch am y gwasanaeth ambiwlans ar gyfer argyfwng difrifol. Os ydych wedi cael anaf neu os ydych yn ddifrifol wael ewch i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Efallai nad y gwasanaeth ambiwlans brys fydd yn dod atoch pan fyddwch yn ffonio 999. Mae gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru nifer o wahanol staff a gwirfoddolwyr a fydd yn dod i’ch trin gan ddibynnu pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa a pha mor agos ydynt atoch.
Pryd a pham?
Mae’r gwasanaethau brys yn brysur iawn. Dim ond mewn sefyllfaoedd difrifol iawn y dylid eu defnyddio, neu lle mae bywyd mewn perygl.
Mae dewis yn ofalus yn golygu bod triniaeth hanfodol yn cael ei rhoi cyn gynted ag y bo modd. Gallai ffonio 999 neu ddefnyddio’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys pan nad oes angen olygu bod rhywun arall yn gorfod aros i gael triniaeth.
Gofal Brys
e.e. byr o wynt, tymheredd uchel o hyd, bola tost, mân anafiadau…..
Os oes arnoch angen gofal iechyd brys ar gyfer eich iechyd corfforol a meddyliol, ffoniwch eich Meddygfa neu Wasanaeth y Tu Allan i Oriau y Feddygfa. Os oes arnoch angen triniaeth na all aros cysylltwch â GIG Cymru. Ar gyfer gofal cymdeithasol brys ffoniwch y Gwasanaethau Cymdeithasol. Eu rhif y tu allan
Pryd a pham?
Ni ddylech fynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys oni bai fod gennych argyfwng difrifol. Os byddwch yn mynd yno, mae’n bosibl y byddwch yn gorfod aros am dipyn o amser gan fod achosion brys bob amser yn cael blaenoriaeth. Mae dewis yn ofalus yn golygu y byddwch chi a’ch teulu’n cael y driniaeth orau posibl pan fydd arnoch ei hangen.
Gofal Rheolaidd
e.e. presgripsiynau amlroddadwy, profion gwaed, salwch, atal cenhedlu
Eich meddygfa leol yw’r lle cyntaf i fynd iddo ar gyfer unrhyw ofal iechyd. Gallwch drefnu apwyntiad i gael eich gweld cyn pen 2 ddiwrnod, ymhen mwy o amser neu o bosibl yr un diwrnod. Bydd eich meddyg teulu’n eich cyfeirio at yr ysbyty neu at wasanaethau eraill os oes arnoch angen gofal pellach.
Pryd a pham?
Gwnewch apwyntiad i weld eich meddyg teulu pan fydd gennych salwch neu anaf nad yw’n argyfwng. Mae dewis yn ofalus yn golygu y byddwch yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnoch ar adeg gyfleus ac mae’n rhoi llai o bwysau ar y gwasanaethau brys.
Cefnogaeth Gymunedol
e.e. peswch, annwyd, rhoi’r gorau i ysmygu, grŵp cefnogi….
Gall eich Fferyllydd lleol roi cyngor a chefnogaeth arbenigol i chi ynglŷn ag anhwylderau cyffredin ac unrhyw foddion sydd eu hangen arnoch heb drefnu apwyntiad. Efallai y bydd mudiad gwirfoddol lleol yn gallu darparu’r cymorth sydd ei angen arnoch, megis grŵp cefnogi neu ofal ychwanegol.
Pryd a pham?
Ewch i’ch fferyllfa leol i gael cyngor a thriniaeth.Gallwch gysylltu â mudiad gwirfoddol lleol yn eich ardal. Mae dewis yn ofalus yn golygu eich bod yn cael y driniaeth neu’r cymorth sydd ei angen arnoch cyn gynted ag y bo modd.
Cyngor
e.e. beth y dylwn eiwneud? I ble y dylwn i fynd i gael y cymorth priodol ar gyfer fy mhroblem?.....
Mae GIG Cymru yn cynnig cyngor cyfrinachol ynglŷn ag iechyd a gwybodaeth am wasanaethau sydd ar gael 24 awr y diwrnod.
Pryd a pham?
Cysylltwch â GIG Cymru os ydych yn wael ac os oes gennych gwestiynau ynglŷn â’ch iechyd, neu iechyd eich teulu. Gallant helpu i ddod o hyd i wasanaethau iechyd yn eich ardal leol
Gofalu Amdanoch eich hun
e.e. dolur gwddf, peswch, sigiad, pen mawr
Cadwch becyn cymorth cyntaf a moddion syml gartref rhag ofn y bydd arnoch chi neu eich teulu eu hangen. Gallwch gael rhagor o gyngor gan GIG Cymru.
Pryd a Pham?
Gofalu amdanoch eich hun yw’r dewis gorau er mwyn trin salwch ac anafiadau mân iawn. Mae dewis yn ofalus yn golygu eich bod chi a’ch teulu’n cael y gorffwys a’r adferiad sydd ei angen arnoch.
Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob amser
Cysylltiadau Defnyddiol
Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall
Triniaeth Ddeintyddol Frys
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi trefnu sesiynau deintyddol brys ar gyfer problemau deintyddol acíwt.
Mae triniaeth ar gael drwy apwyntiad yn unig a dylai cleifion fynd i GIG Cymru (yn agor mewn tab newydd) i gael gwybodaeth ynglŷn â sut i gael gafael ar wasanaethau. Cynghorir cleifion sy’n cael gofal rheolaidd gan ddeintyddfa i gysylltu â’u practis os oes angen gofal brys ar ddiwrnodau gwaith arferol.
Man Anafiadau
Darperir gofal ar gyfer Mân Anafiadau a chyngor ynglŷn â thriniaeth gan eich Meddyg Teulu. Dylech fynd i’r feddygfa cyn mynd i unman arall. Cysylltwch â Bwrdd Iechyd Hywel Dda (yn agor mewn tab newydd) i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unedau mân anafiadau.
Gofal Brys mewn Ysbyty
Mae Gwasanaeth Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Cyffredinol y Llwyn Helyg yn trin pobl sydd â salwch neu anafiadau difrifol a rhai sydd â salwch neu anafiadau mawr. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys colli ymwybyddiaeth, ffitiau, amheuaeth o strôc; anawsterau anadlu difrifol; amheuaeth o drawiad ar y galon a phoen difrifol yn y frest; gwaedu difrifol na ellir ei reoli, beth bynnag sy’n ei achosi; anafiadau i’r pen a thorri esgyrn.
Gwasanaeth Ambiwlans Brys
(Yn cael ei ddarparu gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru)
Ffoniwch 999 mewn argyfwng. Byddwch yn cael eich trosglwyddo i uned reoli’r gwasanaeth Ambiwlans, a bydd rhywun yn cadarnhau eich rhif ffn a lleoliad y digwyddiad. Yna, tra mae’r ambiwlans ar ei ffordd bydd angen i chi ateb y cwestiynau fydd yn cael eu gofyn i chi. Efallai y rhoddir cyngor i chi i helpu i achub bywyd.
Os bydd uned reoli’r gwasanaeth ambiwlans yn darganfod nad yw’r achos rydych wedi cysylltu â hwy yn ei gylch yn achos brys byddwch yn cael eich cyfeirio at wasanaeth arall a all eich helpu.
Er mwyn helpu’r gwasanaeth ambiwlans, gwnewch yn siŵr bod rhif eich tŷ i’w weld yn glir a bod rhywun ar gael i gyfeirio’r ambiwlans atoch.