Eich Iechyd
Gofal Diwedd Oes
Bydd eich Meddyg Teulu’n gallu rhoi manylion am gynlluniau gofal diwedd oes (a elwir yn aml yn ‘ofal lliniarol’) ar gyfer pobl sydd â salwch terfynol neu gyflwr sy’n bygwth bywyd.
Y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Gofal Lliniarol (NCPC)
Hospice UK
Mae Hospice UK yn cynnwys teclyn i chwilio arlein am hosbisau neu ofal lliniarol lleol.
Sefydliad Paul Sartori
Yn cynnig gofal a chyngor arbenigol a chefnogol i’r rhai hynny sy’n byw â salwch sy’n bygwth bywyd. Gellir darparu gofal uniongyrchol yng nghartref cleifion. Maent hefyd yn helpu’r perthnasau a’r gofalwyr uniongyrchol sy’n agos at y claf yn ystod y salwch a thrwy gydol y cyfnod galaru. Mae’r gwasanaeth Hosbis yn y Cartref ar gael 365 diwrnod y flwyddyn ac mae’n gweithredu gwasanaeth ar alwad 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos. Gall y tîm gynnig y dewis i aros gartref yn ystod cyfnodau olaf salwch terfynol i fwy o bobl.
Macmillan Cancer Support
Yn cynnig cyngor a chymorth os ydych wedi cael diagnosis o gancr. Gallwch chwilio am grwpiau cymorth lleol ar y wefan, ac mae Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth Cancr Macmillan ar gael yn Ysbyty Llwynhelyg.
Gwybodaeth a Chymorth Marie Curie