Eich Iechyd
Gofalu amdanoch eich hun
Gofalu amdanoch eich hun
Gall salwch fel peswch ac annwyd a mân ddamweiniau ddigwydd unrhyw bryd, felly mae’n syniad da cadw ychydig o bethau bach syml wrth law yn eich cartref. Er enghraifft:
- Plasteri amrywiol, gwlân cotwm, rhwymynnau a gorchuddion.
- Paracetamol neu ibuprofen i leddfu poen a rheoli tymheredd uchel.
- Hylif paracetamol neu ibuprofen (heb siwgr os yn bosibl) i bobl ifanc. (Peidiwch â rhoi asprin i bobl ifanc dan 16 oed).
- Rhywbeth i glirio’ch trwyn e.e. moddion llacio trwyn.
- Thermomedr.
- Pacedi o doddiant ail-hydradu i’w roi drwy’r geg i atal diffyg hylif a allai godi o ganlyniad i ddolur rhydd neu chwydu.
- Antasidau.
- Toddiant antiseptig.
- Gwrth-histamin - tabledi neu foddion.
Cadwch eich moddion o’r golwg mewn cwpwrdd dan glo sydd allan o gyrraedd plant neu unrhyw un a allai gymryd rhywbeth mewn camgymeriad. Cadwch y moddion yn eu cynhwysydd gwreiddiol wedi’i labelu a pheidiwch â storio moddion os yw’r dyddiad arnynt wedi bod. Gall eich fferyllydd lleol gael gwared arnynt yn ddiogel. Ni ddylai moddion ar bresgripsiwn gael eu defnyddio gan neb arall ar wahân i’r sawl sydd â’i enw ar y presgripsiwn.
I gael cyngor ynglŷn â gofalu amdanoch eich hun, cysylltwch â’ch Meddygfa, eich Fferyllydd neu Galw Iechyd Cymru. Gallwch gysylltu â Galw Iechyd Cymru drwy ffonio 0845 46 47 neu gallwch edrych ar y wefan: GIG Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Neges Iechyd mewn Potel
Mae neges mewn potel yn annog pobl sy’n byw ar eu pen eu hunain i gadw manylion personol a meddygol sylfaenol mewn potel blastig fechan yn yr oergell. Os bydd y gwasanaethau brys yn cael eu galw i’ch cartref, gallant ddod o hyd i wybodaeth hanfodol am eich iechyd yn gyflym. Mae’r poteli’n cael eu hariannu gan Glybiau Llewod lleol ac maent ar gael am ddim i ddefnyddwyr. Holwch am fanylion yn eich meddygfa, fferyllfa neu eich Clwb Llewod lleol. Ffoniwch 0845 833 9502 i gysylltu â’ch Clwb Llewod agosaf.
Galw Iechyd Cymru
Mae hwn yn wasanaeth 24 awr, saith niwrnod yr wythnos sy’n cael ei staffio gan nyrsys hyfforddedig sy’n darparu cyngor a gwybodaeth gyfrinachol ynglŷn â gofal iechyd. Gall Iechyd Cymru hefyd ddarparu gwybodaeth am Feddygon Teulu, Deintyddion, Fferyllwyr a gwasanaethau iechyd a lles lleol, gan gynnwys grwpiau cefnogi. Gallwch gysylltu â Iechyd Cymru drwy ffonio 0845 46 47 neu gallwch edrych ar y wefan: GIG Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Eich Fferyllydd
Gall Fferyllwyr gynnig cyngor ynglŷn â mân anhwylderau ac anafiadau, a thriniaeth a moddion priodol. Mae’n bosibl y bydd Fferyllwyr yn cynnig gwasanaethau eraill hefyd, e.e. cyngor ynglŷn â rhoi’r gorau i ysmygu, cyngor ynglŷn â rheoli pwysau a phrofion pwysedd gwaed. Gallant asesu eich symptomau a helpu i benderfynu a oes angen i chi weld meddyg. Mae Fferyllwyr wedi cael llawer iawn o hyfforddiant ac mae’n bosibl eu bod yn cynnig cyngor mewn sesiynau galw heibio yn ystod oriau agor y fferyllfa.
Mae rhai fferyllfeydd yn barod i gasglu eich presgripsiynau i chi o’ch meddygfa, ac mae rhai hefyd yn fodlon dod â phresgripsiynau i’ch cartref. Holwch eich meddygfa am fanylion fferyllfeydd lleol sy’n cynnig y gwasanaeth hwn.
Fferyllfa y tu allan i oriau
Dylai cleifion gasglu presgripsiynau sy'n ail adrodd wneud y siwr fod ganddyn nhw foddion cyn cyfnodau o wyliau. Dylen nhw hefyd wneud yn siŵr bod ganddyn nhw foddion dros y cownter yn y fferyllfa yn y tŷ ar gyfer symptomau fel annwyd, ffliw, camdreuliad a phoen ysgafn.
Cysylltwch â’ch fferyllfa arferol cyn cyfnod o wyliau, edrychwch yn eich papur newydd lleol neu GIG Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Meddygfeydd
Meddygfa yn Sir Benfro sy’n darparu gofal sylfaenol ac ataliol i gleifion. Dyma’r pwynt cyswllt cyntaf i gleifion, sy’n darparu gofal ar gyfer problemau arferol, brys a chronig. Gall meddygon teulu gyfeirio cleifion ymlaen i’r ysbyty, neu at wasanaethau arbenigol a chymunedol.
Mae eich meddygfa’n darparu gofal o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.00am a 6.30pm.
Gall eich meddygfa hefyd gynnig cyngor i chi a manylion cysylltu ar gyfer nifer o wahanol grwpiau cefnogi cymunedol a mudiadau gwirfoddol. Os ydych yn helpu i ofalu am rywun gall eich meddyg teulu eich cofrestru fel gofalwr yn ei gofnodion drwy’r cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr, sy’n anelu at roi’r gefnogaeth y mae ar ofalwyr angen gan feddygfeydd a Chanolfannau Iechyd (gweler Cyngor a chefnogaeth i ofalwyr, teulu a ffrindiau am wybodaeth bellach). Neu, cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr ar 01437 764551.
Mae rhai meddygfeydd nawr yn cynnig gwasanaethau arlein, fel archebu presgripsiynau amlroddadwy a threfnu apwyntiadau. Gofynnwch i’ch meddygfa am wybodaeth.
Gwasanaeth Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau / Meddygon ar Alwad
Mae’r gwasanaeth y Tu Allan i Oriau ar gael ar gyfer gofal brys yn unig pan fydd eich meddygfa ar gau. Dim ond ar gyfer problemau gofal iechyd brys na all aros nes bydd eich meddygfa’n ailagor y dylid ei ddefnyddio.
Mae’r gwasanaeth ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 6.30pm ac 8.00am, ac yn ystod y penwythnosau a gwyliau’r banc. Ffoniwch eich meddygfa leol i gael cyfarwyddyd ynglŷn â sut i gael gafael ar y gwasanaeth y tu allan i oriau.
Dylech wneud apwyntiadau ar gyfer materion rheolaidd, fel presgripsiynau amlroddadwy a mân anhwylderau, cyn cyfnodau o wyliau.
Ni ddylech ffonio 999 neu fynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn yr ysbyty lleol oni bai fod gennych argyfwng gwirioneddol.