Eich Iechyd

Grwpiau Cymorth Cysylltiedig ag Iechyd

Mae yna nifer o grwpiau cymorth cysylltiedig ag iechyd yn Sir Benfro. Bydd gan PAVS hefyd fanylion am grwpiau eraill yn eich ardal - cysylltwch â 01437 769422.

Cymru Versus Arthritis (Hwlffordd) (yn agor mewn tab newydd)

Mae Cymru Versus Arthritis (Hwlffordd) yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr, ac yn darparu gwasanaethau gan gynnwys:  

  • Rhwydwaith gymdeithasol.
  • Cefnogaeth drwy rannu profiadau.
  • Gwybodaeth am gyhoeddiadau, gwefan, Facebook a siaradwyr gwadd Cymru Versus Arthritis.
  • Ffyrdd o ymdopi ag arthritis gan gynnwys dosbarthiadau ymarfer corff a therapi dŵr.  

Breathe Easy Hwlffordd (yn agor mewn tab newydd)

Grŵp cefnogi yw Breathe Easy Hwlffordd sy’n agored i unrhyw rai â chyflwr ar eu hysgyfaint, eu teulu, ffrindiau a gofalwyr. Mae Sefydliad Ysgyfaint Prydain yn cefnogi’r grŵp ac mae’n agored i bobl ag unrhyw fath o afiechyd neu gyflwr yr ysgyfaint neu broblemau anadlu, beth bynnag yw difrifoldeb y cyflwr.

Maent yn cynnig cyfle i bobl ddod ynghyd a chefnogi ei gilydd, dysgu am ddulliau gwahanol o ymdopi â chyflyrau’r ysgyfaint, gwrando ar siaradwyr gwadd, cymdeithasu a rhannu profiadau.  

Gofal Galar Cruse (yn agor mewn tab newydd)

Mae Cruse yn cynnig cymorth a chwnsela i alaru mewn cyfarfodydd un i un gyda gwirfoddolwyr hyfforddedig mewn mannau sy’n gyfleus ac ar adegau sy’n gyfleus. Bydd mannau cyfarfod yn cael eu gwirio i sicrhau eu bod yn addas. Mae gweithwyr cymorth yn cael eu hyfforddi gan Cruse yn unol â safonau cenedlaethol cydnabyddedig.
Efallai y bydd rhestr aros am le i weld cynghorydd.

Cymdeithas Strôc - Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd)

Grŵp cymdeithasol a chyfeillgar ar gyfer y sawl sydd wedi dioddef strôc i ymarfer eu lleferydd, i fagu hyder a rhannu gwybodaeth gyda chymorth 1:1 gan wirfoddolwyr profiadol. Maent hefyd yn cynnig gwasanaeth ymweliadau cartref i’r sawl sydd wedi dioddef strôc ond sydd ag anawsterau cyfathrebu ac sy’n methu mynd i gyfarfodydd y grŵp. Ar ôl cysylltu, bydd Cydlynydd yn trefnu ymweliad cartref i drafod gwasanaethau/darparu gwybodaeth.

Headway Sir Benfro

Elusen yw Headway sy’n anelu at wella bywyd yn dilyn anaf i’r ymennydd trwy gynnig gwasanaethau a chymorth.  Maent yn cynnal cyfarfod cymdeithasol misol yn Hwlffordd. Am ragor o wybodaeth am y gangen:  

helpline@headway.org.uk

Parkinson’s UK (yn agor mewn tab newydd)

Mae cangen Sir Benfro o Parkinson’s UK yn cynnig gwybodaeth, cyfeillgarwch a chymorth i bobl lle â chlefyd Parkinson's, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Maent yn trefnu digwyddiadau rheolaidd a gweithgareddau cymdeithasol i gyfarfod pobl leol eraill sydd wedi’u heffeithio gan glefyd Parkinson's.

Cynhelir cyfarfodydd triniaeth bob wythnos, gan gynnwys ffisiotherapi, therapi amgen, aromatherapi, adweitheg a podiatreg.

 

ID: 2132, adolygwyd 23/08/2023