Eich Iechyd
Gwasanaethau Gofal Iechyd Eraill
Mae yna lawer o wasanaethau gofal yn y gymuned a gwasanaethau cymdeithasol sy’n helpu pobl i fyw’n annibynnol. Holwch yn eich meddygfa os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth.
Dietegwyr
Ddarparu cyngor arbenigol ynglŷn â bwyta’n iach, yn enwedig i bobl sydd â salwch sy’n cael ei effeithio gan ddiet, er enghraifft syndrom coluddyn llidus neu glefyd y galon.
Therapyddion Galwedigaethol
Gweithio gyda phobl o bob oed sydd, oherwydd salwch, anabledd neu heneiddio, yn cael anawsterau i wneud y pethau y maen nhw angen neu eisiau eu gwneud, neu’r pethau y disgwylir iddynt eu gwneud. Mae Therapyddion Galwedigaethol yn helpu pobl i ennill neu adennill sgiliau, hyder ac annibyniaeth gyda thasgau bob dydd. Gall hyn gynnwys darparu gwybodaeth a chyngor; ymarfer ffyrdd gwahanol o wneud pethau; awgrymu newidiadau yn y cartref, er enghraifft, offer neu addasiadau i ddatrys problemau.
Optometryddion/optegwyr
Cynnal profion llygaid ac yn rhagnodi lensys ar gyfer sbectols neu lensys cyffwrdd lle bo angen. Gallant helpu i ddiagnosio cataractau ac adnabod cyflyrau eraill a allai effeithio ar eich golwg yn y tymor hwy. Mae pobl sydd dros 60 yn gymwys i gael profion llygaid am ddim ac mae gan rai pobl eraill hawl i gael taleb gan y GIG i helpu i dalu am gost sbectol a lensys cyffwrdd.
Awdiolegwyr
Cynnal profion amrywiol er mwyn darganfod a all rhywun glywed o fewn y pellter arferol. Os na allant, gall awdiolegwyr ddarganfod pa rannau o’r clyw (amleddau uchel, canolig neu isel) sydd wedi cael eu heffeithio ac i ba raddau. Os byddant yn darganfod bod claf yn colli ei glyw neu bod rhywbeth o’i le â’i gydbwysedd, gallant argymell gwahanol ddewisiadau sydd ar gael iddo, fel cael teclyn cymorth clyw digidol neu gael ei gyfeirio at ymgynghorydd clustiau, trwyn a gwddf.
Ffisiotherapyddion
Cynnig arweiniad ynglŷn ag ymarferion a chyfarpar a fydd yn esmwytho cymalau a chyhyrau stiff ac yn helpu i leddfu poen.
Podiatryddion
Darparu gofal traed, gan drin cnapiau, cyrn a chasewinedd. Efallai y bydd gennych hawl i gael trin eich traed dan y GIG. Holwch eich Meddyg Teulu am fanylion.
Therapyddion iaith a lleferydd
Helpu pobl sy’n cael anawsterau cyfathrebu (er enghraiff ar ôl strôc). Maent hefyd yn helpu pobl sy’n cael anawsterau bwyta a llyncu.