Eich Iechyd

Gwasanaethau Iechyd

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gyfrifol am holl wasanaethau gofal iechyd y GIG yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn darparu ystod o wasanaethau gofal iechyd sylfaenol, eilaidd a chymunedol. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, anabledd dysgu a chamddefnyddio sylweddau, mewn ysbytai ac yn y gymuned drwy dimau cymunedol a meddygon teulu wedi eu comisiynu, ac mewn fferyllfeydd, gwasanaethau deintyddol a gwasanaethau optegol.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn ceisio darparu gofal iechyd o’r safon uchaf, gan sicrhau’r canlyniadau gorau i’r cleifion mor agos i’r gymuned ag sy’n bosibl. I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i ddod o hyd i’r ysbyty neu’r gwasanaethau cymunedol agosaf atoch ewch i’r wefan: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (yn agor mewn tab newydd)

 

 

ID: 2111, adolygwyd 23/08/2023