Eich Iechyd

Iechyd Meddwl a Lles

Argyfwng Iechyd Meddwl

Mae llinell gymorth iechyd meddwl a lles ar gyfer pobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae cymorth ar gael i bob oedran drwy ffonio 111 a dewis opsiwn 2 lle byddant yn cael eu trosglwyddo i ymarferydd iechyd meddwl.

I gael cymorth ar-lein, mae amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol a chyngor hunanofal - weld dudalen IAWN (yn agor mewn tab newydd)

Os oes arnoch chi neu rywun arall angen cymorth mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Os oes arnoch chi neu rywun rydych yn gofalu amdano angen help ar frys, peidiwch ag oedi.

Ffoniwch unrhyw un o’r canlynol i gael help:

  • Eich Meddyg Teulu
  • Galw Iechyd Cymru
  • Eich Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol lleol
  • Eich adran Gwasanaethau Oedolion
  • Yr heddlu
  • Llinell argyfwng y Samariaid 08457 90 90 90
  • Llinell Gymorth Iechyd Meddwl C.A.L.L. (yn agor mewn tab newydd) - 0800 132 737. Anfonwch neges testun yn cynnwys y gair ‘help’ i 81066   

Mae llawer o wasanaethau iechyd meddwl yn cael eu darparu gan y Gwasanaeth Iechyd, yr adran Gwasanaethau Oedolion a’r sector gwirfoddol.

Timau Iechyd Meddwl Cymunedol

Mae Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yn cael eu rhedeg ar y cyd gan y Gwasanaeth Iechyd a’r Gwasanaethau Oedolion er mwyn eu galluogi i ddiwallu anghenion iechyd ac anghenion cymdeithasol pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae’r timau’n gweithio er mwyn cydlynu gofal, ar gyfer anghenion byrdymor a hirdymor. 

Bydd unigolion sydd angen cymorth gan y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yn cael eu cefnogi drwy ddefnyddio’r dull Cynllunio Gofal a Thriniaeth (CPT) a dyrennir cydgysylltydd gofal iddynt a allai fod yn unrhyw aelod cymwysedig o’r tîm. Gallai’r unigolyn hwn fod yn nyrs seiciatrig gymunedol, gweithiwr cymdeithasol, therapydd galwedigaethol neu seiciatrydd neu seicolegydd ymgynghorol.

Bydd cydgysylltydd gofal yn gweithio gyda’r unigolyn a, lle bo’n briodol, gyda’i deulu a’r rhwydweithiau cefnogi, er mwyn llunio ‘cynllun gofal’. Bydd y cynllun hwn yn edrych ar bob agwedd ar anghenion a dyheadau rhywun er mwyn cefnogi ei adferiad. Bydd hyn yn cynnwys triniaeth feddygol, sicrhau nad yw’r unigolyn yn mynd yn wael eto, rhwydweithiau cymdeithasol, risg, cynllunio ar gyfer argyfwng, anghenion llety a chyflogaeth ac anghenion y teulu neu’r ffrindiau sy’n gofalu amdano.

Os byddwch yn cael help gan y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael taliadau uniongyrchol er mwyn i chi allu dewis a threfnu eich gwasanaethau cefnogi eich hun â chymorth. Ceir manylion am Daliadau Uniongyrchol ym Taliadau Uniongyrchol.

Gall y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol roi gwybodaeth i chi am wasanaethau amrywiol sydd ar gael i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaethau dydd, cyfleoedd galwedigaethol a chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a darpariaeth dai arbenigol.

Cael cymorth

Er mwyn cael cyngor i chi eich hun neu rywun arall, cysylltwch â’ch Meddyg Teulu. Bydd ef neu hi’n gallu eich helpu’n uniongyrchol neu eich cyfeirio at y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol.

Mae’r sefydliadau amrywiol isod yn arbenigo mewn cynnig cymorth a chyngor i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ac i’w teuluoedd a’u ffindiau. Maent yn sefydliadau lleol a chenedlaethol.

Mae lles meddyliol da yn bwysig i’ch iechyd corfforol hefyd. Mae’r GIG yn awgrymu bod yna bum cam y gallwch eu cymryd i wella eich lles meddyliol.   

  • cysylltwch - cysylltwch gyda'r bobl o’ch cwmpas, a threuliwch amser yn datblygu cydberthnasau. Gweler Symud o Gwmpas am wasanaethau cyfeillio, ac isod am fanylion grwpiau cefnogi iechyd cymunedol. Os ydych yn byw ymhell o’ch teulu mae galwadau fideo yn gallu bod yn ffordd o gadw mewn cysylltiad a chynnal cydberthnasau. 
  • byddwch egnïol – does dim rhaid i chi fynd i’r gampfa. Ewch am dro, ewch i nofio, mae yna ymarferion eistedd y gallwch eu gwneud. Ceisiwch ddod o hyd i weithgaredd yr ydych yn ei fwynhau a gwnewch hynny’n rhan o’ch bywyd. Gweler Symud o Gwmpas am grwpiau cerdded, canolfannau hamdden a gwybodaeth ynghylch atgyfeiriadau ymarfer corff.  
  • parhewch i ddysgu – mae dysgu sgiliau newydd yn gallu rhoi ymdeimlad o lkwyddo i chi a hyder newydd. Felly beth am ddilyn cwrs cognio, dechrau dysgu cymorth cyntaf neu ysgrifennu creadigol? Gweler Symud o Gwmpas am ddysgu gydol oes, hyfforddiant a chyflogaeth  
  • rhowch – mae’r weithred lleiaf yn gallu cyfrif – gwên, diolch neu air caredig. Mae gweithredoedd mwy, fel gwirfoddoli yn eich cymuned yn gallu gwella eich lles meddyliol a’ch helpu i feithrin rhwydweithiau cymdeithasol newydd. Gweler Symud o Gwmpas am gyfleoedd gwirfoddol.   
  • cymerwch sylw – byddwch yn fwy ymwybodol o’r munud hwn, gan gynnwys eich teimladau a’ch meddyliau, eich corff a’r byd o’ch cwmpas.  Gelwir yr ymwybyddiaeth hwn weithiau yn ‘ymwybyddiaeth ofalgar’, ac mae’n gallu newid y ffordd ydych chi’n teimlo am fywyd a sut ydych chi’n wynebu heriau.    

Mae pawb yn teimlo ychydig yn drist a digalon o bryd i’w gilydd. Ond os ydych yn teimlo tristwch ac anobaith yn barhaus, yn methu cysgu neu’n dioddef o lefelau egni isel, efallai bod gennych iselder. Mae cymorth a chefnogaeth ar gael. Siaradwch gyda’ch meddyg teulu, neu chwiliwch am ragor o wybodaeth am iselder neu orbryder a sut i gael cymorth y GIG. (yn agor mewn tab newydd)

Mae poeni am faterion ariannol hefyd yn gallu effeithio ar eich iechyd a’ch lles. Gweler Cymorth a chyngor ariannol am wybodaeth ar gymorth ariannol.

 

ID: 10617, adolygwyd 17/08/2023