Eich Iechyd
Stroc
Ymosodiad ar yr ymennydd yw strôc. Mae’n digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i ran o’r ymennydd yn cael ei dorri i ffwrdd. Mae gwaed yn cludo maetholion hanfodol ac ocsigen i’r ymennydd. Heb waed, mae’n bosibl i gelloedd yr ymennydd gael eu niweidio neu eu dinistrio, ac ni fyddant yn gallu gweithio’n iawn. Mae arwyddion strôc yn sydyn iawn. Mae’r symptomau yn cynnwys:
- Diffrwythder, gwendid neu barlys ar un ochr o’r corff (braich, coes neu amrant llipa, neu geg yn glafoerio)
- Lleferydd aneglur neu anhawster i ganfod geiriau neu ddeall lleferydd
- Golwg niwlog neu golli golwg
- Dryswch neu ansadrwydd
- Cur pen sydyn, difrifol
Os ydych yn amau strôc, cofiwch am FAST (Wyneb, Breichiau, Lleferydd, Amser):
-
Gwendid wyneb – ydy’r person yn gallu gwenu? Ydy’r geg neu’r llygad wedi syrthio?
-
Gwendid breichiau – ydy’r person yn gallu codi’r ddwy fraich?
-
Problemau lleferydd – ydy’r person yn gallu siarad yn eglur a deall beth ydych chi’n ei ddweud?
- Amser –i alw 999
Mae newidiadau syml i’ch ffordd o fyw yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’ch risg o gael strôc yn y dyfodol, fel rhoi’r gorau i ysmygu, yfed llai o alcohol, bwyta’n iach a chadw’n egnïol.