Eich Tenantiaeth
Eich Tenantiaeth
Bydd adran hon y wefan yn egluro popeth am y cytundeb tenantiaeth gyda Chyngor Sir Penfro ar gyfer eich tŷ Cyngor.
Enw’r cytundeb a lofnodwch gyda’r Cyngor pan fyddwch yn symud i’ch tŷ Cyngor yw Cytundeb Tenantiaeth. . Mae hyn yn rhoi i chi hawliau a chyfrifoldebau penodol fel tenant. Mae dau fath o denantiaeth gan y Cyngor:
- Tenantiaeth Ragarweiniol
- Tenantiaeth Sicredig
Caiff yr hawliau a chyfrifoldebau hyn eu hegluro yn yr adran hon, ynghyd â chyngor ar beth i’w wneud os oes gennych newidiadau yn sefyllfa eich aelwyd neu os ydych yn penderfynu gorffen eich tenantiaeth gyda’r Cyngor.
Mae’r adran hefyd yn cynnwys cyngor ar beth i’w wneud os hoffech drosglwyddo neu ffeirio i dŷ Cyngor neu dŷ Cymdeithas Dai arall.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill ar ôl darllen yr adran hon, gallwch ffonio’r Ganolfan Gysylltu ar 01437 764551 i gael rhagor o gyngor.