Eich Tenantiaeth
Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016: Tenantiaeth Cyngor Sir Benfro
Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
Mae'r ffordd yr ydych yn rhentu yn newid … i denantiaid ac i landlordiaid.
Yn 2016, pasiodd y Senedd Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 gyda’r nod o’i gwneud yn symlach ac yn haws i landlordiaid osod cartref ar rent ac i denantiaid rentu cartref yng Nghymru.
Mae'r Ddeddf, sy'n dod i rym ar 1 Rhagfyr 2022, yn cyflwyno llawer o newidiadau i ddeddfau tenantiaeth a bydd yn berthnasol i’r sectorau rhentu cymdeithasol a phreifat.
Beth sydd angen i mi ei wneud?
- Cofiwch ymgyfarwyddo â'r newidiadau hyn drwy ddarllen drwy'r tudalennau 'Cwestiynau Cyffredin'.
Bydd holl denantiaid presennol Cyngor Sir Penfro yn derbyn eu contract newydd o fewn chwe mis i 1Rhagfyr 2022, ond bydd telerau ac amodau’r Ddeddf newydd yn berthnasol o 1 Rhagfyr.
Bydd pob tenant newydd o 1 Rhagfyr yn cael contract newydd yn awtomatig.
- Unwaith y byddwch wedi derbyn eich contract newydd, bydd angen i chi ddarllen drwyddo a sicrhau eich bod yn deall eich cyfrifoldebau a hawliau newydd.
Dolenni Defnyddiol
Tenantiaid: mae cyfraith tai yn newid (Rhentu Cartrefi)
Tenantiaid: mae cyfraith tai yn newid (Rhentu Cartrefi) (hawdd ei ddeall)
Tenantiaid: mae cyfraith tai yn newid (Rhentu Cartrefi)(Ieithoedd amgen)
Cysylltwch â ni
Ffon: 01437 764551
Ebost: renting.homes@pembrokeshire.gov.uk
Dilynwch ni ar Facebook: Facebook.com/GwasanaethauTaiSirBenfro
Cyfeiriad: Tîm Cyswllt Cwsmeriaiad Tai, Cyngor Sir Benfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP
Cwestiynau Cyffredin
Beth yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016?
- Yn 2016, pasiodd y Senedd Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 gyda’r nod o’i gwneud yn symlach ac yn haws i landlordiaid osod cartref ar rent ac i denantiaid rentu cartref yng Nghymru.
- Mae’r Ddeddf yn cyflwyno llawer o newidiadau i ddeddfau tenantiaeth a bydd yn berthnasol i’r sectorau rhentu cymdeithasol a phreifat.
Pryd bydd y gyfraith newydd yn berthnasol?
- Daw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym ar 1 Rhagfyr 2022.
Beth yw diben y Ddeddf Rhentu Cartrefi?
- Yn rhoi mwy o sicrwydd i denantiaid a landlordiaid.
- Yn gwneud contractau'n gliriach.
- Yn gwella amodau cartrefi rhent yng Nghymru.
- Yn ei gwneud yn haws i denantiaid rentu cartref a landlordiaid osod cartref ar rent yng Nghymru.
Ar bwy mae'n effeithio?
- Pob tenant cymdeithasol a phreifat.
- Pob landlord cymdeithasol a phreifat, gan gynnwys y rhai sy’n gosod eu heiddo ar rent trwy gwmnïau rheoli neu asiantau.
Beth mae'n ei olygu i mi fel tenant?
- Bydd yn gwella eich hawliau ac yn eu gwneud yn gliriach.
- Bydd yn gwella sut mae landlordiaid yn rheoli cartrefi rhent yng Nghymru.
Beth sy'n newid i mi?
- Bydd cytundebau tenantiaeth yn cael eu disodli gan gontractau meddiannaeth.
- Cyfeirir at denantiaid fel deiliaid contractau.
- Cyfeirir at awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig fel landlordiaid cymunedol.
- Olyniaeth – mwy o hawliau i drosglwyddo eich cartref.
- Mwy o ddiogelwch – chwe mis o rybudd cyn belled nad yw'r contract yn cael ei dorri.
- Gellir ychwanegu neu ddileu deiliaid contractau heb fod angen terfynu contract.
- Rhaid i bob eiddo fod yn ddiogel – er enghraifft rhaid i gartrefi gael larymau mwg gweithredol, gwiriadau nwy blynyddol, a phrofion trydanol bob pum mlynedd.
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol – agwedd deg a chyson i bawb.
- Bydd achosion o droi allan dialgar yn cael eu hatal.
- Bydd landlordiaid yn gallu adfeddiannu eiddo a adawyd heb orchymyn llys.
A yw'r newidiadau yn mynd i effeithio ar gost fy rhent?
- Nac ydyn. Os ydych yn rhentu eich eiddo gan landlord cymunedol (er enghraifft, awdurdod lleol neu landlord cymdeithasol cofrestredig), yna bydd eich rhent yn dal i gynyddu yn unol â’r Polisi Rhent Cymdeithasol yn unig, fel y’i gosodwyd gan Lywodraeth Cymru.
A oes unrhyw beth sydd angen i mi ei wneud?
- Anfonir contract newydd at bob tenant presennol o fewn chwe mis i 1 Rhagfyr 2022. Bydd hwn yn disodli eich cytundeb tenantiaeth presennol.
- Bydd pob tenant newydd o 1 Rhagfyr 2022 yn cael ei roi ar gontract newydd yn awtomatig.
- Unwaith y byddwch wedi derbyn eich contract newydd, bydd angen i chi ddarllen drwyddo a sicrhau eich bod yn deall eich hawliau a'ch cyfrifoldebau newydd.
I gael rhagor o wybodaeth am Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016