Eich Tenantiaeth
Rhentu garej gyda’r Cyngor
Pwy sy’n gallu gwneud cais am garej?
Gall unrhyw berson wneud cais am rentu garej Cyngor. Bydd ceisiadau am garejis yn cael eu hystyried yn ôl trefn dyddiad. Bydd tenantiaid presennol y Cyngor yn cael y flaenoriaeth o ran unrhyw garejis gwag sydd ar gael ac yna cyn-denantiaid sydd wedi prynu eu cartrefi gan y Cyngor. Bydd tenantiaid sydd â mwy na phedair wythnos o rent i'w dalu - pan fydd garej wag ar gael - yn peidio â chael eu hystyried ar gyfer garej.
Sut wyf fi’n gwneud cais am garej?
Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer tenantiaeth garej, byddwch cystal â chysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion isod, neu fel arall gallwch lawrlwytho Hyperlink cannot be resolved(garage_application).
Cewch eich rhoi ar y rhestr aros a byddwn ni’n cysylltu â chi pan fyddwn ni’n gallu cynnig tenantiaeth i chi. Bydd pa mor hir yr ydych chi’n gorfod aros am garej yn dibynnu ar y lleoliad y mae arnoch ei eisiau a sawl person arall sy’n aros.
Ar gyfer beth allaf fi ddefnyddio’r garej?
Ar gyfer defnydd preifat personol yn unig mae’r garejis Cyngor ac nid ar gyfer gweithgareddau masnachol.
- Ni ddylech gadw petrol nac unrhyw ddefnyddiau fflamadwy eraill yn eich garej.
- Ni ddylech isosod eich garej i neb arall.
Faint mae rhentu garej yn ei gostio?
Rhaid i’r rhent ar gyfer eich garej gael ei dalu yn brydlon. Dylid talu’r rhent bob wythnos neu fe allech chi dalu bob bythefnos neu bob mis o flaen llaw, neu gyda debyd uniongyrchol. Os hoffech ddal gafael ar eich tenantiaeth garej, rhaid i’r cyfrif garej beidio â mynd i unrhyw ôl-ddyledion (sef y rhent mae arnoch i’r Cyngor).
Y rhent wythnosol am garej Cyngor ar gyfer yw £6.60 ar gyfer tenantiaid y Cyngor a £7.92 ar gyfer ceiswyr nad ydynt yn denantiaid tai Cyngor Sir Penfro.
Ôl-ddyledion rhent garej
Os yw’r ôl-ddyledion rhent gymaint fel eu bod yn annerbyniol, neu fod y cyfrif mewn ôl-ddyledion, fe allai’r Cyngor benderfynu ailfeddiannu’r garej. Os yw hyn yn digwydd, bydd y tenant yn cael rhybudd i ymadael. Bydd y denantiaeth garej yn cael ei therfynu oni bai bod yr holl ôl-ddyledion ar y cyfrif wedi cael eu clirio cyn y dyddiad dod i ben sydd i’w weld ar y rhybudd.
Gallwn ddelio â’r rhan fwyaf o achosion ôl-ddyledion yn gymharol rwydd, cyn belled â bod y tenantiaid yn cysylltu â ni mewn da bryd. Os ydych chi’n cael anhawster talu eich rhent garej, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.
Rheoli Tenantiaethau Tai
Ffôn: 01437 764551
E-bost: tenancy.management@pembrokeshire.gov.uk