Eich Tenantiaeth

Swn a Niwsans Cymdogion

Mae eich Contract Meddiannaeth yn nodi na ddylai deiliaid contract y Cyngor, neu eu hymwelwyr neu aelodau o'u teulu, ymddwyn mewn ffordd a allai achosi niwsans i unigolyn arall.

Mae niwsans a tharfu yn cynnwys sŵn neu aflonyddwch arall, bygythiadau neu aflonyddu, defnyddio neu fygwth trais, gwneud cwynion maleisus, gwaredu sbwriel yn anghyfrifol, neu ddifrod i eiddo.

Siaradwch â'ch cymydog

Pan fydd pobl yn byw'n agos at ei gilydd, yn aml nid ydynt yn sylweddoli eu bod yn tarfu ar eraill. Y cam cyntaf i'w gymryd yw esbonio iddynt yn gwrtais eu bod yn achosi problem i chi. Peidiwch â gwneud hyn oni bai eich bod yn teimlo ei bod yn ddiogel i chi wneud hynny.

Taflen gofnodi niwsans cymdogion

Mae'r daflen gofnodi hon yn eich galluogi i gofnodi pob digwyddiad o niwsans cymdogion. Gall y Cyngor ddefnyddio’r wybodaeth a gofnodwyd fel rhan o achos ffurfiol yn erbyn y sawl sy’n achosi’r broblem. Dilynwch y canllawiau hyn wrth gwblhau'r daflen gofnodi:

  • Nodwch ddyddiadau ac amseroedd pob digwyddiad mor gywir ag y gallwch.
  • Rhowch gymaint o fanylion â phosibl am bob digwyddiad, megis cefndir y digwyddiadau, sylwadau sarhaus neu fygythiol a wnaed, y pellter y gellir clywed y sŵn.
  • Ceisiwch nodi'r bobl sy'n achosi'r broblem drwy roi enwau neu gyfeiriadau'r troseddwyr.
  • Os yw'r broblem yn un barhaus, dychwelwch y taflenni yn rheolaidd.
  • Atodwch a labelwch unrhyw dystiolaeth ategol, fel ffotograffau.
  • Cofiwch gofnodi'r hyn yr ydych wedi'i weld neu ei glywed eich hun yn unig, nid yr hyn yr ydych wedi'i glywed gan bobl eraill.
  • Lle bo modd, rhowch fanylion unrhyw dystion eraill.
  • Os ydych chi'n ansicr ynglŷn â chwblhau'r cofnod hwn, ffoniwch yr Adran Tai, a gofynnwch am gael siarad â Swyddog Tai yn y Tîm Rheoli Tenantiaeth.

Ni fydd gwybodaeth a roddir yn cael ei dangos i'r unigolion sy'n achosi'r problemau.

 

Os ydych chi'n dioddef cymdogion swnllyd - Yr ap sŵn.

Os oes gennych chi fynediad i ffôn clyfar neu lechen byddem yn argymell eich bod yn lawrlwytho'r 'ap sŵn' a fyddai'n eich galluogi i recordio'r sŵn a'i anfon atom yn awtomatig, mae hyn yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o'r problemau rydych chi'n eu profi ac yn ein galluogi i weithredu'n gyflymach.   – Chwiliwch am 'The Noise App RHE' ar eich siop apiau ffôn symudol i lawrlwytho'r ap. Neu cliciwch ar y ddolen isod am fwy o wybodaeth

Yr Ap Sŵn (yn agor mewn tab newydd)

Siaradwch â ni

Os bydd y broblem yn parhau, cysylltwch â'r Cyngor. Dylid cyflwyno cwyn neu adroddiad o niwsans neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gyntaf i'r Tîm Rheoli Tenantiaeth. Gellir gwneud hyn:

Dros y ffôn: 01437 764551

Trwy anfon neges e-bost: tenancy.management@pembrokeshire.gov.uk

Trwy ysgrifennu at y Cyngor

Camau y gall y Cyngor eu cymryd

Mae'r Cyngor yn defnyddio dull aml-asiantaeth, sy'n cynnwys yr Heddlu, adran Iechyd yr Amgylchedd ac asiantaethau partneriaeth eraill. Mae gan yr asiantaethau amrywiaeth o atebion i geisio datrys problemau megis y canlynol:

  • Trafod y mater â'r unigolyn sy'n achosi'r mater
  • Llythyrau rhybudd i ddeiliad y contract
  • Cyfweliadau ffurfiol
  • Defnyddio contractau ymddygiad derbyniol, a rhwymedïau eraill.
  • Cyflwyno Hysbysiadau ffurfiol neu gymryd camau cyfreithiol priodol. 

Pryd na fydd y Cyngor yn ymyrryd:

  • Os nad yw'r unigolyn/aelwyd yn ddeiliad contract y Cyngor
  • Digwyddiadau lefel isel, anaml
  • Lle mae diffyg tystiolaeth, neu ddilysu annibynnol
  • Os, ar ôl ei ymchwiliadau, nad oes unrhyw unigolyn y gellir ei adnabod yn glir fel un sy'n achosi'r broblem
  • Os yw'r gŵyn wedi'i hysgogi gan anoddefiad i wahanol ffyrdd o fyw a diwylliannau
  • Mân gwynion talu’n ôl rhwng cymdogion
  • Mewn anghydfod rhwng plant. Disgwylir i rieni ddatrys y materion hyn
  • Mewn digwyddiadau lle ceir lefel isel o sŵn domestig, a achosir gan fywyd arferol o ddydd i ddydd, nad yw’n tarfu’n fwriadol

 

Bod yn gymydog da

  • Cadw cerddoriaeth o radios, stereos a setiau teledu i lefelau derbyniol
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflawni tasgau cartref fel golchi, hwfro a thorri gwair ar adegau rhesymol o'r dydd
  • Peidiwch â gosod offer cerddoriaeth yn erbyn waliau a rennir. Rhowch nhw ar fatiau rwber neu garped i leihau’r dirgryniad
  • Cadwch yr holl sŵn ar lefel isel rhwng 9pm a 8am a gwnewch yn siŵr na ellir ei glywed y tu allan i'r eiddo
  • Os oes gennych gi, peidiwch â gadael iddo gyfarth yn gyson yn y cartref neu allan yn yr ardd
  • Rhybuddiwch gymdogion pan fyddwch chi'n mynd i wneud rhywbeth arbennig o swnllyd: drilio, morthwylio neu gael parti
  • Dysgwch eich plant i feddwl sut y gallai eu harferion chwarae effeithio ar gymdogion

Rheoli Tenantiaethau Tai
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP

Ffôn: 01437 764551
E-bost: tenancy.management@pembrokeshire.gov.uk

 

ID: 1686, adolygwyd 10/05/2024