Eich Tenantiaeth
Taluch rhent a thaliadau
Pryd ddylwn i dalu’m rhent?
Rhaid talu’r rhent bob wythnos a dylech ei dalu bob dydd Llun
Am beth wyf i’n talu’r rhent?
Bydd y rhent yn talu am ddarparu cartref ar eich cyfer, yn ogystal â’r gwasanaethau fel cweiro a chynnal a chadw, trethi dŵr a charthffosiaeth ac amryw daliadau wasanaethu. Caiff y rhain eu hegluro ichi pan symudwch i mewn i’ch cartref newydd.
Sut mae fy rhent yn cael ei gyfrifo?
Caiff eich rhent ei gyfrifo yn ôl maint eich cartref a’r taliadau am wasanaethau fel trydan cymydol, gwasanaeth warden, pecynnau celfi ac yn y blaen.
A fydd fy rhent yn cynyddu?
Caiff rhenti eu hadolygu unwaith y flwyddyn. Ambell waith bydd rhenti’n gorfod cynyddu am fod prisiau’n cynyddu. Os yw’ch rhent ar fin cynyddu, bydd y Cyngor yn rhoi o leiaf 4 wythnos o rybudd ichi - rhybudd ysgrifenedig. Fel arfer bydd prisiau rhent newydd yn daladwy o fis Ebrill bob blwyddyn.
Sut allaf i dalu’m rhent?
Y ffordd rwyddach o dalu'ch rhent yw trwy via ‘Fy Nghyfrif' - Eich Cyfrif Ar-lein gyda'r Cyngor. Mae'n rhwydd - mewngofnodwch i ‘Fy Nghyfrif' a rhowch eich Cyfeir-rif Tai. Yna cewch fynd at ‘Fy Nhenantiaeth' sy'n galluogi ichi wneud taliad. Hefyd gallwch dalu'ch rhent yn unrhyw un o Ganolfannau Gwasanaeth i Gwsmeriaid Cyngor Sir Penfro. Mae'r rhain wedi eu lleoli yn:
Gallai dewisiadau eraill cynnwys:
- Taliadau Awtomataidd dros y Ffôn - Gwasanaeth newydd, y gallwch ei ddefnyddio 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Gallwch dalu’ch rhent gyda cherdyn debyd neu gredyd trwy ffonio 01437 775164 a dilyn y cyfarwyddiadau, sy’n Gymraeg a Saesneg. Bydd llais yn gofyn ichi roi eich cyfeir-rif tenantiaeth sy’n cynnwys chwe digid; mae’r rhif hwn i’w weld ar eich cerdyn rhent neu ar unrhyw lythyrau ynghylch eich rhent cartrefu y byddwn yn eu hanfon atoch. I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn rhaid ichi gael ffôn cyffyrdd-sŵn. Dylech gael manylion eich cerdyn credyd neu ddebyd wrth law ac fe gewch rif derbynneb er mwyn profi eich bod wedi talu.
- Yn Swyddfa’r Post - Bydd yn rhaid ichi gael cerdyn talu plastig os ydych chi’n dymuno talu eich rhent mewn Swyddfa Bost. I archebu cerdyn talu, byddwch cystal â chysylltu â’r gwasanaethau Refeniw ar 01437 775763.
- Didynnu arian o’ch cyflog - Os ydych chi’n cael eich cyflogi gan Gyngor Sir Penfro gallwch drefnu i’ch rhent gael ei ddidynnu o’ch cyflog.
- Debyd uniongyrchol - Gallwch dalu yn y modd hwn os oes gyda chi gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu a gallwch dalu bob wythnos neu bob mis calendr. Unwaith y byddwch chi wedi llanw’r gorchymyn debyd uniongyrchol caiff eich taliadau eu didynnu’n awtomataidd. Am ragor o wybodaeth ffoniwch y Gwasanaethau Refeniw ar 01437 775763.
Beth yw cerdyn talu rhent?
Bydd pob tenant yn cael cerdyn talu rhent. Dylech chi ei ddefnyddio pryd bynnag y byddwch yn talu’ch rhent. Efallai yr hoffech ofyn am gael cerdyn chwip plastig hefyd; ar y cerdyn hwn bydd eich enw a’ch rhif cyfrif rhent unigryw. Mae’r cerdyn hwn yn rhoi gwybodaeth electronig sy’n dod gyda’ch taliad er mwyn sicrhau bod credyd yn cael ei ddodi yn eich cyfrif cyn gynted ag y bo modd. Dim ond er mwyn talu’ch rhent y dylech chi ddefnyddio’r cerdyn talu hwn. Nid cerdyn credyd ydyw a does gydag e ddim gwerth ariannol.
Gallwch ddefnyddio cardiau chwip i dalu’r rhent yn ein Canolfannau Gwasanaeth i Gwsmeriaid, wrth y Ddesg Arian yn Neyland neu mewn unrhyw Swyddfa Bost yn y Sir. Mae’n rhwydd defnyddio’r cerdyn - does rhaid i chi ond mynd â’ch cerdyn a’ch arian, (arian fel rheol ond bydd Swyddfa’r Post a rhai o’r masnachfannau eraill yn derbyn siec) i’ch dewis fan. Bydd eich cerdyn yn cael ei ddodi trwy beiriant darllen cardiau magnetig ac yna bydd yr arian sydd wedi’i dalu yn cael ei gredydu i’ch cyfrif o fewn 24-48 awr fel arfer.
Dim ond os yw’r cerdyn gwreiddiol wedi’i golli neu ei ddifrodi y byddwn ni’n rhoi cardiau newydd. Os oes angen cerdyn newydd arnoch, byddwch cystal â ffonio’r Gwasanaethau Refeniw ar 01437 775763. Mae’r cardiau chwip rhain yn gorfod cael eu harchebu ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros am hyd at bythefnos cyn i chi dderbyn un newydd.
Beth yw cyfriflen rhent?
Byddwn yn anfon cyfriflenni bob blwyddyn ynghylch cyfrif rhent ac mae cyfriflenni ar gael hefyd os gofynnwch. Os oes gyda chi gwestiwn ynghylch y gweddill yn eich cyfrif, byddwch cystal â ffonio’r Gwasanaethau Refeniw ar 01437 764551 a gofyn am gael gair ag aelod o’r tîm Adennill Rhenti.
A oes unrhyw wythnosau di-rent?
Mae pedair wythnos bob blwyddyn pan na chodir rhent. Gelwir y rhain yn ‘wythnosau di-rent’. Fodd bynnag, os oes gennych ôl-ddyledion, dylech barhau i wneud taliadau yn yr wythnosau hyn i leihau eich dyled.
Yr wythnosau di-rent yw wythnos gyntaf mis Ebrill, wythnos gyntaf mis Gorffennaf, y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Mae dyddiadau’r wythnosau di-rent wedi’u nodi ar eich Amserlen Taliadau Rhent, a gyhoeddir ar ddechrau eich tenantiaeth a phob blwyddyn ddilynol ar ddechrau mis Ebrill neu fis Gorffennaf, i gyd-fynd â’ch cynnydd blynyddol mewn rhent.
Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP
Ffôn: 01437 764551
E-bost:enquiries@pembrokeshire.gov.uk