Eich Tenantiaeth
Trosglwyddiadau
Beth sy’n digwydd os wyf i am symud neu drosglwyddo i gartref arall â Chyngor Sir Penfro neu i eiddo arall â chymdeithas tai?
Os ydych chi’n dymuno symud o fewn Sir Benfro yna gallwch chi wneud cais am drosglwyddo trwy’r Cyngor. Fel arfer ni roddir unrhyw flaenoriaeth i’r bobl hynny sy’n dymuno trosglwyddo, onibai y gallant brofi eu bod yn gorfod symud oherwydd angen lles neu fudd-dal.
Bydd gofyn ichi lanw ffurflen gais am dai:
- Ffurflen gais Choice Homes
- Ewch i mo’yn un o’ch swyddfa tai leol
- Trwy ffonio’r Ganolfan Gyswllt ar 01437 764551
- Anfonwch e-bost a gofyn am ffurflen gais, gan adael eich enw llawn a’ch cyfeiriad - CBL@pembrokeshire.gov.uk
Allaf i symud i eiddo arall?
Gall tenantiaid sicr symud cyn belled â’ch bod yn bodloni’r meini prawf hyn:
- Rydych chi wedi byw yn eich cartref presennol ers dros 12 mis ac felly rydych chi’n denant sicr
- Mae eich cartref presennol mewn cyflwr boddhaol
- Nid oes gyda chi ôl-ddyledion rhent
Os ydych chi’n bodoli’r meini prawf uchod, rhaid i chi gofrestru gyda Cartrefi Dewisedig trwy lanw ffurflen gais am dai (gweler uchod).
Manylion cysylltu:
Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid
Cyngor Sir Penfro
Adain y Gogledd
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP
Ffôn: 01437 764551
E-bost: CBL@pembrokeshire.gov.uk
ID: 1663, adolygwyd 07/01/2025