Eich Tenantiaeth

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Nid oes fawr ddim ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd yn Sir Benfro; serch hynny gall achosi pryder mawr i’r bobl sy’n ei ddioddef a gall effeithio ar y modd y mae pobl yn byw eu bywyd beunyddiol.  

Beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Ymddygiad gwrthgymdeithasol yw unrhyw ymddygiad sy’n achosi aflonyddwch, braw neu ofid i unrhyw berson neu dyaid.

Beth ddylech chi ei wneud os ydych chi’n credu eich bod yn dioddef oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Yn gyntaf, nid ydych yn gorfod ei ddioddef!

Mae sawl peth y gallwch ei wneud:

  • Beth am gael gair â’r person sy’n achosi’r broblem. Dylech OND gwneud hyn os yw hi’n ddiogel ichi wneud hynny yn eich barn chi ac y bydd y person yn fodlon gwrando arnoch
  • Beth am gael cymorth o’r tu fas. Mae digonedd o gymorth ar gael. Isod fe welwch y bobl y gallwch gysylltu â hwy.

 phwy y gallaf i gysylltu ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Mae’n bwysig bod tystion yn fodlon dod ymlaen, er mwyn iddynt roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol a sefyll yn gadarn yn erbyn y pethau sy’n eu pryderu hwy a’u cymuned.

Fe all yr asiantaethau canlynol ymwneud â mynd i’r afael â’ch problem - bydd hynny’n dibynnu ar y math o ymddygiad gwrthgymdeithasol yr ydych yn ei ddioddef.

  • Yr Heddlu - os ydych chi’n dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol lle mae rhywun yn ymddwyn yn dreisgar neu fygythiol, yn gwneud difrod neu’n bygwth gwneud difrod i’ch eiddo, neu’n hiliol-ddifrïol, cofiwch ffonio’r Heddlu bob amser ar 999 - a hynny ar unwaith. Dim ond ar gyfer argyfyngau y mae’r rhif hwn.  Os hoffech gael cyngor gyda’r Heddlu, ond nad yw’n fater argyfwng, ffoniwch 101 os gwelwch yn dda
  • Tai Cyngor Sir Penfro - er mwyn rhoi gwybod am broblemau gyda’ch cymdogion neu bobl sy’n byw’n agos atoch cyhyd â’u bod yn denantiaid y Cyngor, byddwch cystal â ffonio 01437 764551
  • Adran Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir Penfro – er mwyn rhoi gwybod am sŵn, niwsans, cerbydau gadawedig, cŵn peryglus, cŵn yn baeddu, gwib-dipio/tipio slei bach, byddwch cystal â ffonio 01437 764551
  • Y Grŵp Tenantiaid a Thrigolion Lleol – Os oes gyda chi grŵp tenantiaid neu drigolion yn gweithredu yn eich ardal fe allent hwy roi cymorth gyda’ch problem chi. 

Cadw Cofnod

Bydd cadw cofnod o’r holl ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n digwydd yn eich cynorthwyo i lunio disgrifiad manwl o’r problemau yr ydych yn eu cael. Bydd gofyn ichi gofnodi’r wybodaeth hon:

  • Y dyddiad a’r amser
  • Manylion beth a ddigwyddodd
  • Pwy sydd â rhan ynddo, os oes modd.
Gallwch gael ffurflenni arbennig ar gyfer rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan eich cydlynydd ymddygiad gwrthgymdeithasol, trwy ffonio 01437 769669 neu gan y Cyngor trwy ffonio 01437 764551. 


 

ID: 1761, adolygwyd 03/10/2023