Mae'r safle'n ymestyn i 15.7 cyfer (6.4 hectar) o dir sy'n wynebu'r de gyda golygfeydd arbennig dros Fae Caerfyrddin, Dinbych-y-pysgod ac ymhellach draw at Ynys Bŷr ac Ynys Wair.
Mae Plas Lydstep yn Heneb gofrestredig ac yn dŷ canoloesol rhestredig Gradd I. Mae ganddo neuadd llawr cyntaf ac mae'n un o ddau dŷ canoloesol sydd wedi'u lleoli yng nghanol y pentref gyferbyn â Thafarn Lystep.