Eiddo Busnes ar Osod

Canolfan Arloesedd y Bont

Yn sefyll ger Pont Cleddau, mae gan Ganolfan Arloesedd y Bont swyddfeydd ac unedau twf ar gael:

 

Unedau Twf

Yn ogystal â’r swyddfeydd yn y prif adeilad mae Canolfan Arloesedd y Bont (yn agor mewn tab newydd) yn cynnig lle ymarferol ar gyfer gweithdai. 

Mae gan bob gweithdy swyddfa technoleg uwch, lle gweithio hael a’i Ystafell Offer unswydd ei hun sy’n cynnwys bwyler nwy, mesuryddion y gwasanaethau a’r prif fwrdd dosbarthu trydan. 

Mae gweithdai’n amrywio o 125.4 metr sgwâr (1350 troedfedd sgwâr) i 273.1 metr sgwâr (2940 troedfedd sgwâr). 

Mae deiliaid yn gyfrifol am dalu am eu gwasanaethau eu hunain a Threthi Busnes.

Gyda chytundeb blaenorol Cyngor Sir Penfro fe all tenantiaid wneud addasiadau mewnol all ddarparu llawr cyntaf llawn sydd i bob diben yn dyblu arwynebedd llawr y gweithdy.

 

ID: 1408, adolygwyd 19/05/2025