Eiddo Busnes ar Osod
Ffermydd, Tir Noeth a Thir Pori
Mae Stad Fferm Cyngor Sir Penfro yn cynnwys 45 daliad â chyfarpar yn amrywio mewn maint o 30 i 150 erw gyda chyfanswm o tua 4500 erw.
Y prif weithgarwch ffermio yw da byw cymysg a'r gweddill yn ddaliadau llaeth.
Mae tenantiaeth y ffermydd hyn yn dod yn rhydd o dro i dro ac rydym yn cynnal rhestr bostio ar gyfer ymgeiswyr posibl.
Os oes gennych ddiddordeb mewn fferm â chyfarpar: cofrestrwch ar gyfer rhybudd eiddo er mwyn i chi gael eich hysbysu pan ddaw daliad yn rhydd.
Yn ogystal, mae gan Gyngor Sir Penfro dir noeth a safleoedd pori ar draws y sir. Os oes gennych ddiddordeb mewn un o'r rhain: cofrestrwch ar gyfer hysbysiadau am eiddo er mwyn i chi gael eich hysbysu pan ddaw rhywbeth addas ar gael.
Bydd yr uchod i gyd yn cael eu hysbysebu hefyd yn y papurau lleol ac ar y dudalen hon. Weithiau bydd gennym ffermydd i'w gwerthu, felly byddwch gystal â chlicio ar ar ‘ar werth' am fanylion.
Ymholiad Ffermydd, 'Tir yn Unig' a Thir Pori: Cysylltwch â'r Ddesg Gymorth Eiddo am ragor o wybodaeth am ystad y ffermydd sirol