Eiddo Busnes ar Osod

Gardd ar osod

Ar hyn o bryd mae gennym 22 o safleoedd rhandir, sy’n darparu 141 o leiniau ledled y sir.

Lleolir ein prif safleoedd yn Aberdaugleddau, Hakin, Penfro a Dinbych-y-pysgod ond mae gennym hefyd safleoedd llai yn Wdig, Treletert a Doc Penfro. Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i drawsnewid tir segur yn erddi cymunedol a rhandiroedd i ateb y galw mawr gan ein trigolion sy’n dda yn yr ardd. Byddem wrth ein bodd yn clywed gan unigolion, cynghorau cymuned a grwpiau rhandiroedd sydd â diddordeb mewn rhedeg safle.

Mae lleiniau rhandir ar gael ar hyn o bryd am £33.60 y flwyddyn.

Cysylltwch â'r Ddesg gymorth eiddo am ragor o wybodaeth am yr unedau rhandir sydd ar gael

ID: 1702, adolygwyd 11/04/2025