Eiddo Busnes ar Osod
Marchnadoedd
Mae Cyngor Sir Penfro yn rhedeg 3 marchnad o fewn y Sir yn cynnig ystod eang o nwyddau a chynnyrch, modern a thraddodiadol.
Marchnad Dinbych-y-pysgod
Yn Ninbych-y-pysgod mae'r farchnad hynaf yn Sir Benfro sy'n dal i fodoli, a gallwn olrhain ei bodolaeth yn ôl mor bell â 1290 pan ganiatawyd y Siarter cyntaf.
Mae'r farchnad yn dal i fod ar y safle gwreiddiol o fewn adeilad rhestredig gradd dau hudolus sy'n parhau i fod â nifer o'i nodweddion gwreiddiol ac sy'n cynnwys murlun mawr sy'n dangos hanes Dinbych-y-pysgod.
Mae'r farchnad ar agor 7 diwrnod yr wythnos ym misoedd Mehefin/Awst a 6 diwrnod yr wythnos o 8.30am - 5.00pm
Marchnad Abergwaun
Mae Marchnad Abergwaun yn farchnad siartredig arall a dderbyniodd y siartr ym 1836.
Mae'r adeilad wedi'i adnewyddu'n llwyr yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf ac mae'r farchnad yn unigryw oherwydd bod gan neuadd y farchnad system wresogi tanlawr.
Marchnad undydd brysur iawn yw hon (dydd Iau) sydd ar agor rhwng 8:00am a 4:00pm.
Mae'r farchnad yn rhannu adeilad gyda'r Ganolfan Groeso, y Llyfrgell, tra bod Tapestri Abergwaun yn cael ei arddangos yn yr adeilad.
Marchnad Doc Penfro
Mae Marchnad Doc Penfro yn ifanc o gymharu â Marchnad Dinbych-y-pysgod ond rydym ni dal yn gwybod ei bod yn dyddio'n ôl i 1826 o leiaf.
Yn wir, defnyddiodd Wild Bill Hickock y farchnad i gadw ei holl geffylau ac offer pan ddaeth â'i sioe i Brydain ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Fe gynhelir marchnad wythnosol bob dydd Gwener, sy’n darparu pysgod, cig, ffrwythau a llysiau i bobl leol yn ogystal ag eitemau eraill y maent yn eu hangen.
Er bod y farchnad ond yn agor ar ddydd Gwener, mae llawer o bobl y dref yn parhau i'w ddefnyddio fel lle i gwrdd. (Oriau agor: 8:00am - 2:00pm)
Ymholiad Marchnad: Cysylltwch â'r Ddesg Gymorth Eiddo am ragor o wybodaeth am y marchnadoedd.