Ein Cynllun Gweithredu
Ein Cynllun Gweithredu
Ym mis Mai 2019, pleidleisiodd aelodau’r cyngor hwn i ddatgan argyfwng hinsawdd, ac ym mis Gorffennaf 2019 pleidleisiodd aelodau i greu cynllun gweithredu i lywio Cyngor Sir Penfro tuag at ddod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030.
Y cynllun yw'r cam cyntaf mewn ystod o fesurau y mae'r cyngor yn edrych arnynt i helpu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.
Fel man cychwyn, mae’r cynllun gweithredu hwn yn amlinellu llwybr pragmatig tuag at y cyngor yn dod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030. Bwriedir iddi fod yn ddogfen fyw a bydd yn esblygu dros amser. Mae hwn yn gynllun hirdymor ar gyfer y deng mlynedd nesaf ac, o’r herwydd, bydd mwy o gynigion yn cael eu hychwanegu wrth iddo ddatblygu. Mae'n anochel y bydd datblygiadau technolegol pellach yn dod ymlaen maes o law, ond y peth pwysicaf yw bod y cyngor wedi dechrau ar y llwybr hollbwysig hwn.
Rydym am i bawb yn ein cymunedau fod yn rhan o'r daith hon. Edrychwn ymlaen at leihau allyriadau o’n gweithgareddau ein hunain ac, yn ehangach, at weithio gyda phartneriaid er mwyn sicrhau newid cyfartal.
Buom yn ymgynghori ar y cynllun ac roeddem wrth ein bodd i gael ymgysylltiad ac adborth ardderchog.