Ein Cynllun Gweithredu
Atodiad 3 Argyfwng Hinsawdd
Nid yw ffocws cychwynnol y cynllun gweithredu hwn ar gyfer trywydd tuag at ddod yn awdurdod lleol carbon sero net wedi’i fwriadu i gyfyngu ar neu atal camau gweithredu ehangach posibl eraill sy’n cyfrannu at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Mae rhai o’r camau gweithredu hyn wedi’u nodi isod (nid yw hon yn rhestr gyflawn):
Tai
- Mae CSP yn cynnal tua 5,650 o anheddau ar gyfer darparu tai cymdeithasol. Yn dilyn mesurau ôl-osod effeithlonrwydd ynni cynhwysfawr fel rhan o gynnydd y cyngor o dan Safon Ansawdd Tai Cymru (yn agor mewn tab newydd) (SATC) gyfredol Llywodraeth Cymru, mae wedi cyflawni sgôr gyfartalog dda iawn o 75 o dan y Weithdrefn Asesu Safonol (yn agor mewn tab newydd) (yng nghanol band ‘C’). Mae SATC yn ei gwneud yn ofynnol i fethodoleg 2005 y Weithdrefn Asesu Safonol gael ei diweddaru i Weithdrefn Asesu Safonol 2012. Bydd hyn yn effeithio ar eiddo nad yw’n defnyddio nwy, gan lusgo’r sgôr gyfartalog i lawr i 72 yn ôl pob tebyg.
- Mae'r mesurau a osodwyd yn cynnwys y canlynol:
- Insiwleiddio atig a waliau geudod wedi'i gwblhau yn y rhan fwyaf o eiddo lle bo'n berthnasol.
- Rhaglen amnewid boeleri nwy - boeleri cyfunol nwy effeithlon iawn wedi’u gosod ym mhob eiddo boeler nwy. (Noder: Mae boeleri'n cael eu hamnewid bob 15 mlynedd, felly mae CSP bellach yn amnewid boeleri cyfunol nwy cenhedlaeth gyntaf gyda boeleri cyfunol nwy newydd; felly, ychydig o welliant sydd mewn effeithlonrwydd - yn nodweddiadol, 88% v. 90% - ac nid yw hyn yn newid y sgôr Gweithdrefn Asesu Safonol ar gyfer eiddo.)
- Boeleri olew – mae CSP wedi newid 550 o 805 o foeleri olew ar gyfer boeleri cyfunol cyddwyso effeithiol iawn. Ar hyn o bryd, mae'n edrych ar dreialu chwe boeler olew hybrid fel rhan o'r rhaglen adnewyddu – mae cost ychwanegol fesul uned o tua £7,500.
- Rhaglen ffenestri – rhaglen pum mlynedd o osod gwydr dwbl gradd ‘A’ bron wedi'i chwblhau.
- Drysau – rhaglen bron wedi'i chwblhau i osod drysau cyfansawdd perfformiad uchel yn lle'r holl ddrysau.
Mae’r uchod i gyd ond yn berthnasol pan fo’r tenant wedi derbyn y gwaith, a rhaid ystyried materion megis statws rhestredig ac ardaloedd cadwraeth.
- Bydd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) newydd ar ôl 2020, a fydd yn ôl pob tebyg yn rhoi pwysau ar CSP i wella ymhellach fesul camau tuag at stoc dai carbon sero. Felly, nid yw'r cyngor wedi gosod ei darged ei hun eto wrth aros am ganllawiau a thargedau pellach gan Lywodraeth Cymru yn 2020. Mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru yn ei chael hi'n anoddach ac yn ddrytach na'r disgwyl i gyrraedd y safon newydd hon. Er enghraifft, gallai pwmp gwres ffynhonnell aer (ASHP) fod ag effeithlonrwydd ynni sy’n well nag olew ond mewn gwirionedd mae'n costio mwy i'w redeg; fodd bynnag, ni all y cyngor drosglwyddo'r gost honno i'r tenant os yw'n ceisio mynd i'r afael â thlodi tanwydd.
- Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi cwblhau Cam 3 o'i hadolygiad ‘Cartrefi Heddiw ar gyfer Yfory’, gan gynnwys trafodaeth ar astudiaethau achos o unedau tai cymdeithasol unigol. Crynhoir eu canfyddiadau isod:
- Ar gyfer tai, mae ôl-osod y gwneuthuriad yn ddrud – yn enwedig ar gyfer anheddau hen / o ansawdd gwael – ond hebddo, gallai datgarboneiddio gynyddu biliau tanwydd yn ddramatig.
- Mae cadw gwres canolog prif gyflenwad nwy yn cyfyngu ar ddatgarboneiddio i tua 70% (ystod: 60–71%).
- Mae newid i wres o drydan yn cynyddu lefelau datgarboneiddio yn ddramatig, o 70%+ i 90%+.
- Mae gosod ynni adnewyddadwy yn cael effaith gymedrol ar ddatgarboneiddio. Yn bwysicach fyth, mae’n lleihau biliau gwresogi o dros £500 y flwyddyn. Y gost a ragwelir ar gyfer datgarboneiddio tai yn gyson yw tua £30,000 (ystod: £27,000–£33,000) yr uned.
- Mae gwelliannau i wneuthuriad fflatiau fel arfer yn llai costus, ond hefyd yn llai effeithiol, na’r rhai ar gyfer tai – gan ei gwneud yn anoddach datgarboneiddio fflatiau i lefelau targed.
- Mae ôl-osod fflatiau yn fwy cymhleth – mae waliau cydrannol hefyd yn cyfyngu ar effeithiolrwydd, ac mae cydberchnogaeth yn broblem sy’n codi dro ar ôl tro.
- Mae maint y fflatiau llai yn gwneud mesurau sy'n cymryd llawer o le fel insiwleiddio waliau mewnol (IWI) yn drafferthus.
- Mewn rhai achosion, mae landlordiaid tai cymdeithasol yn adolygu a yw dymchwel ac adeiladu o'r newydd yn ddewis gwell.
- Mae ôl-osod fflatiau yn llwyddiannus yn gofyn am fwy o gydlyniad nag ar gyfer tai, ac efallai y bydd angen ymateb mwy creadigol – e.e. cyflwyno system gwresogi ardal.
- Mae’r gost a ragwelir ar gyfer datgarboneiddio fflatiau tua £22,000 yn gyson (ystod: £19,000–£25,000) yr uned.
- Er mwyn cyflawni targedau datgarboneiddio, mae angen ôl-osod y gwneuthuriad, newid i wres carbon isel, a chydran adnewyddadwy sylweddol.
- Mae ynni adnewyddadwy (er enghraifft, systemau ffotofoltäig) yn hanfodol os yw tenantiaid am weld ôl-osod yn ddymunol. Mae buddion i denantiaid yn dal yn nodweddiadol yn llai na'r rhai a welir ar gyfer perchnogion tai.
- Mae datgarboneiddio llwyddiannus yn broses fwy cymhleth a heriol na dim ond cydymffurfio â thargedau rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) (2004–14), ac mae angen dealltwriaeth a chamau gweithredu mwy cyfannol.
- Mae sgoriau Gweithdrefn Asesu Safonol yn rhagweld effeithlonrwydd ynni a chostau tanwydd, ond ni ellir eu defnyddio fel yr unig sail ar gyfer barnu a fydd ôl-osod yn cyrraedd targedau datgarboneiddio. Mae datgarboneiddio yn gofyn am drawsnewid i ffynhonnell wres carbon isel.
- Os caiff gwneuthuriad yr annedd ei wella i safon uwch, gall ôl-osod systemau gwresogi carbon isel fod yn gosteffeithiol i denantiaid – a gallai gymryd lle rhaglenni ailosod boeleri.
- Mae ynni adnewyddadwy yn effeithiol o ran lleihau biliau tanwydd i denantiaid, ac maent yn lleihau'r pwysau ar y rhwydwaith cyflenwi ynni.
- Gall tenantiaid nad ydynt yn ymgysylltu leihau effeithiolrwydd ôl-osod tai yn sylweddol.
- Mae modelu cywir ac ôl-osod cyfannol yn hanfodol er mwyn i denantiaid weld datgarboneiddio yn gadarnhaol.
- Heb sgiliau ac arbenigedd mewnol, bydd yn anodd i landlordiaid tai cymdeithasol ddatblygu ac esblygu strategaethau datgarboneiddio.
- Dylai'r strategaeth ôl-osod bob amser gael ei modelu mor gywir â phosibl cyn cychwyn ar gynlluniau y mae ynni adnewyddadwy eisoes wedi'i osod ynddynt.
- Y ‘cyfeiriad teithio’ ar hyn o bryd yw peidio ag ystyried gwres trydan a thanwyddau ffosil fel rhywbeth sy'n annibynnol ar ei gilydd. Mae systemau gwresogi ‘hybrid’ fel y'u gelwir (cyfuniad o foeler nwy a phwmp gwres) yn cynrychioli'r cyflymydd trosglwyddo gwres gorau posibl a thechnoleg gyrchfan gynaliadwy barhaus. Hybridau yw'r ateb carbon isaf ac nid ydynt yn parhau dibyniaeth ar danwyddau ffosil yn fwy nag y mae pympiau gwres neu foeleri ar eu pen eu hunain yn gwneud. Mae cyflenwad trydan yn parhau dibyniaeth ar danwyddau ffosil i bweru pympiau gwresogi; mae cyflenwad nwy naturiol yn parhau dibyniaeth ar danwyddau ffosil ar gyfer rhedeg boeleri. Mae'r ddau yr un mor ddibynnol ar nwy wedi'i ddatgarboneiddio i dorri allyriadau yn y sector pŵer ar gyfer cyflenwad hyblyg yn ystod cyfnodau o ynni adnewyddadwy isel neu i gyflenwi'n uniongyrchol i'r sector adeiladau. Hybridau sy'n rhoi'r hyblygrwydd mwyaf wrth ddianc rhag tanwyddau ffosil a ddefnyddir i wresogi lleoedd. Maent hefyd yn cynrychioli’r dechnoleg gwresogi domestig carbon isel sy’n cynnig yr arbedion carbon mwyaf – gyda rôl barhaus i gyflenwi sero net erbyn 2050, ynghyd â’r grid nwy datgarboneiddio sy’n newid yn gyfan gwbl i ffwrdd o danwydd ffosil. Wrth i drydan a nwy fynd yn ‘wyrdd’, maent yn cyfuno i ddarparu’r gorau o’r ddau fyd fel y trydydd fector ar gyfer datgarboneiddio gwresogi: maent yn gallu ‘amsugno’ trydan carbon isel ar unwaith pan fydd ar gael, a throi yn ôl at grid nwy gwyrddach ar adegau eraill. Gall systemau gwresogi hybrid ateb y galw am ynni ar gyfer pob annedd, beth bynnag fo perfformiad ynni adeilad. Maen nhw'n gwneud i nwy gwyrdd fynd ymhellach, gan ychwanegu at fudd y camau a gymerwyd i wneud y grid yn fwy ‘gwyrdd’.
- Mae gan y cyngor swyddog cymwys mewnol i baratoi tystysgrifau perfformiad ynni (EPCs) domestig. (Mae tystysgrifau perfformiad ynni yn darparu sgôr ased ar gyfer adeilad, ac maent yn ofynnol bob deng mlynedd.) Mae hyn yn bennaf i ddarparu tystysgrifau perfformiad ynni ar gyfer tai cyngor ac i gynorthwyo'r tîm eiddo gyda rhwymedigaethau eu landlord i fodloni'r Safonau Isafswm Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer adeiladau a brydlesir neu a werthir.
- Dechreuodd cynllun grant Rhwymedigaeth Cwmni Ynni Sir Benfro (EcoFlex 3) ym mis Ebrill 2019. Mae'n cynnwys cartrefi sy'n defnyddio ynni'n aneffeithlon sydd naill ai'n gwario mwy na 10% o'u hincwm ar danwydd neu'n agored i'r oerfel. Mae'r grant yn mynd tuag at fesurau effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi sy'n cynnwys uwchraddio gwresogi ac inswleiddio. Hyd yn hyn, mae dros 100 eiddo wedi derbyn gwelliannau drwy'r cynllun.
- Mae rhaglen Arbed 3 yn cael ei gwerthuso i'w chymhwyso yn Sir Benfro ar gyfer y posibilrwydd o gyflenwi cynlluniau seilwaith ynni (e.e. effeithlonrwydd ynni ystad gyfan) mewn ardaloedd o dai preifat a chyhoeddus cymysg.
- Yn ddiweddar, mae CSP wedi ymrwymo i ddarparu cartrefi newydd fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni, fel a ganlyn:
- Johnston – 33 o gartrefi fforddiadwy sy'n eiddo i'r cyngor. Dyfarnwyd y tendr adeiladu yn 2020. Bydd y dyluniad yn mynd y tu hwnt i Ran L o'r Rheoliadau Adeiladu ar gyfer effeithlonrwydd ynni gyda gofyniad ar y contractwr dylunio ac adeiladu i gyflawni gradd Tystysgrif Perfformiad Ynni o ‘A’. Mae'n debygol y bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy baneli solar ffotofoltäig a gor-inswleiddio (h.y. gosod mwy o insiwleiddio na'r hyn sy'n ofynnol gan y Rheoliadau Adeiladu, er mwyn cynyddu gwerthoedd U), ac mae'r cynnig hefyd yn cynnwys Tesla Powerwalls (batris storio pŵer) mewn dau o'r eiddo. Mae seilwaith ar gyfer gwefru ceir trydan hefyd yn cael ei osod.
- Aberdaugleddau, Charles Street – 15 o fflatiau fforddiadwy i bobl hŷn sy’n eiddo i’r cyngor mewn datblygiad tri llawr. Bydd y dyluniad yn mynd y tu hwnt i Ran L o'r Rheoliadau Adeiladu ar gyfer effeithlonrwydd ynni gyda gofyniad ar y contractwr dylunio ac adeiladu i gyflawni gradd Tystysgrif Perfformiad Ynni o ‘A’. Mae'n debygol y bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy baneli solar ffotofoltäig a gor-inswleiddio. Gofynnwyd i'r darparwr dylunio ac adeiladu ystyried systemau gwresogi pwmp gwres a hybrid. Mae storio mewn batris yn ystyriaeth, yn dibynnu ar gostau / effeithlonrwydd technoleg cyffredinol. Er bod nifer cyfyngedig o leoedd parcio, bydd dau yn fannau gwefru ceir trydan.
- Tiers Cross – dymchwel deg o dai ansafonol math ‘Airey’ (paneli concrit), sy'n hynod aneffeithlon o ran ynni, a rhoi 11 o dai fforddiadwy newydd sy'n eiddo i'r cyngor yn eu lle. Bydd gwres a dŵr poeth i'r eiddo yn cael eu darparu'n gyfan gwbl gan drydan – gan osgoi defnyddio olew, a oedd yn gwasanaethu'r unedau blaenorol. Bydd y trydan yn cael ei ddarparu drwy brif gyflenwad ac yn cael ei ategu gan systemau ffotofoltäig a phympiau gwres ffynhonnell aer; bydd yn darparu gwres a dŵr poeth gyda'r defnydd o silindrau dŵr poeth a chawodydd trydan. Bydd storio o fewn batris hefyd yn cael ei ymgorffori er mwyn lleihau ymhellach y galw ar y prif gyflenwad gyda'r nos / yn ystod y nos. Bydd pwyntiau gwefru ceir trydan yn cael eu darparu.
- Boncath, Tŷ Solar (Western Solar) – deg cartref fforddiadwy ‘tuag at carbon sero net’ sy’n defnyddio lefelau isel iawn o ynni, i’w hadeiladu gan ddefnyddio’r Gronfa Tai Arloesol. Mae datblygu wedi dechrau, a bydd yr eiddo yn eiddo i landlord cymdeithasol cofrestredig.
- Dinbych-y-pysgod, tir ym Mrynhir – tua 140 o gartrefi; bydd 100 a mwy yn anheddau fforddiadwy sy'n eiddo i'r cyngor ac adeiladau newydd. Bydd y gweddill ar werth ar y farchnad agored a bydd nifer o leiniau hunanadeiladu gyda chaniatâd cynllunio yn cael eu cynnig, gyda chefnogaeth Banc Datblygu Cymru. Mae cais cynllunio amlinellol wedi'i gyflwyno i Awdurdod Cynllunio'r Parc Cenedlaethol.
- Hen safleoedd ysgol – datblygu tai fforddiadwy sy'n eiddo i'r cyngor. Nid yw'r niferoedd ar gael eto.
- Nod y prosiect ‘Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer (yn agor mewn tab newydd)’ yw darparu cartrefi clyfar, carbon isel ac effeithlon o ran ynni trwy ddull cydgysylltiedig ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Bydd y prosiect yn cyflwyno rhaglen o ddatblygiadau wedi’u hadeiladu o’r newydd, ôl-osod adeiladau presennol, a chymorth datblygu cadwyn gyflenwi leol. Ei nod yw helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, lleihau allyriadau carbon, a diwallu'r angen am fwy o dai. Bydd y prosiect yn monitro agweddau iechyd a llesiant cartrefi cynhesach ac effaith y cysyniad ‘cartrefi yn orsafoedd pŵer’ ar dlodi tanwydd.
Cynllunio, Datblygu, Defnydd Tir a Bioamrywiaeth
- Defnyddir Cynllun Datblygu Lleol Sir Benfro (CDLl) i benderfynu ar bob cais cynllunio yn ardal gynllunio CSP ac i arwain datblygu. Ategir yr CDLl presennol gan egwyddor hollbwysig cyflawni datblygu cynaliadwy. Mae ganddo hefyd amcan allweddol sy'n gysylltiedig â lleihau / mynd i'r afael ag achosion ac effeithiau newid hinsawdd. Cyflwynir hyn yn strategaeth y cynllun: defnyddir hierarchiaeth aneddiadau i sicrhau bod datblygu yn cael ei gyfeirio at leoliadau sydd â lefelau da o wasanaethau. Nod hyn yw lleihau'r angen i deithio, ac felly lleihau cynhyrchiant carbon. Mae egwyddor datblygu cynaliadwy yn cael ei weithredu trwy holl bolisïau'r cynllun, gan gynnwys hyrwyddo dyluniad effeithlon o ran ynni a sicrhau bod cynigion newydd megis cyfleusterau cymunedol yn perthyn yn dda i aneddiadau presennol. Mae adolygiad o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y gweill, a bydd newid hinsawdd a’r angen i hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn parhau i fod yn elfennau allweddol o CDLl 2.
- Mae CSP wedi paratoi Cynllun Gwydnwch Bioamrywiaeth ac Ecosystemau (yn aros am gymeradwyaeth ffurfiol) i fanylu ar sut mae'r awdurdod yn bwriadu cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd i wella bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau. Mae'r cynllun yn nodi nifer o gamau corfforaethol a fydd, o'u cyflawni, hefyd yn helpu i leihau effeithiau CSP ar y newid yn yr hinsawdd – gan gynnwys sut mae'n rheoli tir y cyngor.
- Mae'r cyngor wedi cynhyrchu a astudiaeth seilwaith gwyrdd ar gyfer Sir Benfro (sy'n cynnwys ardaloedd cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) ac CSP). Mae hwn yn nodi cyfleoedd i wella'r seilwaith gwyrdd ar draws y prif aneddiadau yn y sir trwy amrywiaeth o gamau gweithredu, gan gynnwys plannu coed. Mae rhai prosiectau eisoes yn symud ymlaen gydag elfennau o'r astudiaeth hon – e.e. prosiect Seilwaith Gwyrdd a Glas Hwlffordd. Bydd CDLl 2 yn cynnwys polisi penodol ar seilwaith gwyrdd, a bydd CSP yn ystyried a all ddyrannu tir penodol ar gyfer hyn dros y misoedd nesaf (mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyngor ystyried hyn o dan bolisi cenedlaethol o ganlyniad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol).
- Mae CSP yn cynnal Partneriaeth Natur Sir Benfro a’r Bartneriaeth Natur Leol, ac yn cefnogi'r mentrau hyn yn ariannol a thrwy ddyrannu amser swyddogion. Mae'r partneriaethau'n ystyried ystod eang o brosiectau, sy'n cefnogi bioamrywiaeth / mynd i'r afael â darnio cynefinoedd a mynd i'r afael â newid hinsawdd.
- Mae'r cyngor yn gweithio gyda dau grŵp morol sy'n ymwneud â'r amgylchedd morol, ac wedi cefnogi’r rhain yn hanesyddol trwy'r Grant Refeniw Sengl ac yn uniongyrchol trwy amser swyddogion a chyfraniadau ariannol cyfyngedig. Grŵp Gwyliadwriaeth Amgylcheddol Dyfrffordd Aberdaugleddau (yn agor mewn tab newydd) a Grŵp Awdurdodau Rheoleiddio Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol (yn agor mewn tab newydd) yw rhain. Mae’r grŵp cyntafyn casglu tystiolaeth o amodau’r ddyfrffordd yn bennaf, ac mae’n hollbwysig wrth ddarparu gwybodaeth am newidiadau i’r ddyfrffordd dros amser. Mae’r grŵp olaf yn canolbwyntio ar ystod o brosiectau a chamau gweithredu yn ymwneud â’r Ardal Cadwraeth Arbennig Forol - gan gynnwys gwaith gydag ysgolion ar leihau sbwriel plastig / morol ac astudiaeth ddiweddar yn defnyddio gwyddoniaeth dinasyddion i fonitro lefelau nitradau yn yr Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Forol.
- Mae CSP / APCAP wedi bod yn edrych ar lygredd golau yn Sir Benfro a chamau gweithredu posibl i leihau hyn. Yn ddiweddar, mae'r tîm wedi cwblhau mapio llygredd golau yn y sir yn erbyn clwydfannau ystlumod / llwybrau hedfan a gofnodwyd. Bydd hyn yn cael ei gynnwys mewn dogfen canllawiau cynllunio atodol ar fioamrywiaeth sydd i ddod, a bydd yn darparu gwybodaeth ychwanegol pan fydd ceisiadau cynllunio yn cael eu hystyried. Dylai hyn sicrhau y gall yr awdurdodau dynnu goleuadau diangen o ddyluniadau ar gyfer cynlluniau lle mae hyn yn fater cynllunio. Ar wahân i hyn, mae CSP wedi bod yn gweithio ar safon goleuo ar gyfer cynlluniau’r Cyfrif Refeniw Tai ar y cyd â'r cynghorydd Diogelu Drwy Ddylunio lleol. Mae'r safon yn seiliedig ar y meini prawf y mae'n rhaid i gynlluniau’r Cyfrif Refeniw Tai eu bodloni er mwyn lleihau goleuadau a hefyd ar ddefnyddio lampau â watedd a gynlluniwyd i leihau cynhyrchiant carbon ac effaith ar ystlumod.
- Sylfaen dystiolaeth – mae gan CSP ystod o dystiolaeth y mae’n ei defnyddio i lywio penderfyniadau gyda’r bwriad o leihau achosion ac effeithiau newid hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys yr offeryn Mapio Defnydd Tir, sy'n dangos cynefinoedd a rhywogaethau. Mae’r cyngor hefyd, drwy’r CDLl, wedi datblygu tystiolaeth bellach ar berygl llifogydd drwy’r Asesiad Strategol o Ganlyniadau Llifogydd a gwblhawyd yn ddiweddar, sy’n cymryd agwedd ragofalus ac yn cynnwys lwfans ar gyfer newid hinsawdd ac ar gyfer lefel y môr yn codi ym mapiau llifogydd cyfredol LlC. Bydd y dull rhagofalus hwn yn llywio dyraniadau’r CDLl. Mae'r Asesiad Ynni Adnewyddadwy diweddar (y cyfeirir ato yn Adran 3.3) hefyd yn rhan o sylfaen dystiolaeth CDLl 2.
- Mae'r cyngor yn ceisio nodi cynefinoedd a rhywogaethau allweddol sydd mewn perygl o effeithiau newid hinsawdd, ac adolygu ei gynllun bioamrywiaeth er mwyn sicrhau ei fod yn gallu gwrthsefyll newidiadau yn yr hinsawdd. Cydnabyddir bod y gallu i wrthsefyll pwysau (fel newid hinsawdd) yn cynyddu drwy wella amrywiaeth, maint, cyflwr, cysylltedd a gallu i addasu ecosystemau: mae unrhyw waith ar unrhyw un neu ar bob un o'r priodoleddau hyn yn cynyddu gwydnwch. Mae canllawiau cynllunio atodol ar fioamrywiaeth y cyngor yn cael eu hadolygu ar y cyd ag APCAP ar hyn o bryd.
- Mae CSP yn ystyried cyfleoedd i gynyddu ardaloedd peillio mewn parciau a mannau agored trwy ddulliau megis cynyddu’r defnydd o flodau gwyllt ar ymylon priffyrdd a chylchfannau, a chreu dolydd blodau gwyllt. Gall cynhaeaf dolydd blodau gwyllt ddigwydd ond unwaith bob blwyddyn er mwyn cynhyrchu gwair/compost, gan leihau gwaith rheoli ar y tir ac felly leihau’r defnydd o allyriadau petrol/diesel. Mae hefyd yn darparu buddion bywyd gwyllt a lliw i bobl eu mwynhau.
- Dylid ystyried torri gwair yn llai aml mewn ardaloedd strategol er mwyn ategu mentrau fel Cynllun Gweithredu Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru ar gyfer Peillwyr (yn agor mewn tab newydd) a B-Lines Cymru Buglife (yn agor mewn tab newydd).
- Mae'r cyngor yn cydnabod bod lle i archwilio cyfleoedd ar gyfer gwella neu greu gwarchodfeydd natur yn y sir, a chreu atyniadau twristiaeth sy'n seiliedig ar natur – e.e. gweithgareddau rhaffau uchel a gwersylla.
- Enghreifftiau o brosiectau gwella natur a gyflawnwyd gan CSP a’i bartneriaid:
- Mae'r cyngor wedi gweithio gyda nifer o grwpiau cymunedol i sefydlu rhandiroedd cymunedol ar dir CSP a thir a roddwyd gan berchnogion lleol. Ei nod yw parhau i nodi tir ar gyfer cynnyrch lleol a chefnogi'r defnydd o randiroedd fel y gall cymunedau dyfu eu bwyd eu hunain a lleihau milltiroedd bwyd a gwastraff – e.e. gerddi cymunedol, perllannau, ‘pocedi cynnyrch’ lle mae lle yn gyfyng. Mae hyn yn cynyddu gwydnwch cymunedol ac mae hefyd yn dda i iechyd, llesiant a bioamrywiaeth.
- Mae CSP yn cefnogi prosiect peilot Fforwm Arfordirol Sir Benfro ac Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Penfro Forol i adfer dolydd morwellt tanddwr (yn agor mewn tab newydd) ym Mae Dale er mwyn mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Er bod arbenigwyr yn dweud ei fod yn gweithredu fel ‘meithrinfa ar gyfer amrywiaeth eang o fywyd morol’, mae 92% o forwellt wedi'i golli dros y 100 mlynedd diwethaf. Mae'r Gronfa Fyd-Eang ar gyfer Natur (WWF), Sky Ocean Rescue a Phrifysgol Abertawe yn bartneriaid yng nghynllun Bae Dale. Mae morwellt yn allweddol i leihau lefelau carbon deuocsid, sef nwy sy'n cyfrannu at gynhesu byd-eang, gan ei fod yn amsugno carbon deuocsid o'r atmosffer hyd at 35 gwaith yn gyflymach nag y gall fforestydd glaw trofannol. Mae hefyd yn cyfrif am 10% o storio carbon cefnforol blynyddol yn fyd-eang, er mai dim ond 0.2% o wely'r môr a ddefnyddir ganddo.
- Ym mis Mawrth 2020, cynhaliwyd digwyddiad plannu coed yng Nghas-blaidd a oedd yn arddangos arfer gorau o ran cydweithio ar draws cyrff cyhoeddus a’r trydydd sector i sicrhau manteision gwirioneddol i bobl a’r amgylchedd. Arweiniwyd y digwyddiad gan wirfoddolwyr a'i nod oedd plannu 1,000 o goed mewn diwrnod, gyda'r bwriad o ailadrodd hyn bob blwyddyn i gyd-fynd â nifer y genedigaethau yn Sir Benfro bob blwyddyn. Mae hyn yn cyd-fynd â Chynllun Plant! Llywodraeth Cymru, ond yn darparu plannu i greu coetir yn Sir Benfro, ar gyfer pobl y sir, gan ddathlu genedigaethau yn Sir Benfro a manteisio ar y cyfle i gynnwys rhieni newydd mewn materion cynaliadwyedd. Mae’n gydweithrediad rhwng CSP (sydd wedi sicrhau bod tir ar gael ar gyfer y prosiect), Bwrdd Iechyd Hywel Dda (sy’n ymgysylltu â rhieni newydd mewn cynaliadwyedd a manteision mynediad i ardaloedd naturiol), Tir Coed ac APCAP (y ddau yn ymgysylltu â gwirfoddolwyr i blannu a chynnal a chadw’r coed), Coed Cadw (sy’n cynghori ar gymysgedd addas o goed o darddiad lleol ac yn dod o hyd iddynt) a Pembrokeshire Lamb (sy’n paratoi a chynnal y tir). Ariennir y prosiect drwy Bartneriaeth Natur Sir Benfro, a gefnogir gan gronfa Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) Llywodraeth Cymru.
- Cleddau Walk, Seilwaith Gwyrdd a Glas Hwlffordd – prosiect adfywio allweddol a gyflwynodd lwybr newydd o amgylch Hwlffordd, gan wella mynediad a chyfleoedd hamdden. Mae'r llwybr yn amlygu bioamrywiaeth ac yn cynnwys cynefin rhywogaeth a warchodir gan Ewrop.
- Coetir Cymunedol Cas-lai – cefnogwyd y gymuned a derbyniodd arian trwy CSP i brynu safle un erw (tua hanner hectar) y sefydlwyd coetir cymunedol arni.
- Coetir Cymunedol Parc Mileniwm Johnston – cefnogwyd ac ariannwyd y gymuned yn rhannol trwy CSP i reoli coetir a phyllau cymunedol sefydledig.
- Parc Jiwbilî East Williamston – cefnogwyd y gymuned gan CSP, gan gael ei hariannu’n rhannol i brynu a gwella 22 erw (9 hectar) o dir, gan ddarparu wyth cynefin allweddol a phlannu dros 8,000 o goed. Yn ogystal, mae tîm o dros 40 o wirfoddolwyr lleol wedi'i sefydlu i ‘dyfu’ Parc Jiwbilî.
- Orchard Mawr, Hwlffordd – cefnogodd CSP grŵp gwirfoddol yn Hwlffordd, gan ei ariannu’n rhannol i blannu tua 550 o goed ffrwythau a chnau ar dir sy’n hygyrch i CSP. Roedd hyn yn cynnwys plannu ar y strydlun trefol, ac arweiniodd at sefydlu tair perllan.
- Coetiroedd CSP, ledled y sir – cafodd 33 o goetiroedd llydanddail brodorol CSP eu gwella trwy grant Coetiroedd Gwell i Gymru ar gyfer bioamrywiaeth, gan greu mynediad cyhoeddus i 15 o goetiroedd a, thrwy gysylltiadau â Diwydiannau Norman, rheoli stociau pren CSP trwy deneuo, gan arwain at gynllun cynhyrchu incwm a oedd yn cael ei gynnal trwy werthiannau biomas.
- Saltings, Hwlffordd – gwella hen safle tirlenwi, mewn cydweithrediad â Chyngor Tref Hwlffordd, gan ei drawsnewid yn barc gwledig cyhoeddus. Mae bellach wedi’i blannu â hadau blodau gwyllt Sir Benfro a 300 o goed llydanddail, gyda chyfleoedd mynediad cyhoeddus llawer gwell.
- Meysydd pentrefi / tir comin, ledled y sir – gweithio gydag ystod eang o grwpiau cymunedol i gael mynediad at gyllid, a ddefnyddiwyd i fabwysiadu a rheoli tir comin Adran 9 CSP, gan ymgorffori gwella llawer o feysydd pentrefi trwy blannu coed.
- Parc Gwledig Scolton – gwella’r safle coediog trwy grant Coetiroedd Gwell i Gymru ar gyfer bioamrywiaeth, gan greu mynediad i’r cyhoedd a chyflwyno pum rhan o goedlannau un erw (tua hanner hectar).
- Mount Woodland, Aberdaugleddau – cefnogwyd y gymdeithas gymunedol i reoli’r safle coetir 18 erw (7 hectar) ac ennill cyllid i ddarparu mynediad cymunedol a chyflawni canlyniadau dysgu ar gyfer pobl NEET (pobl nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant).
- Trefi Taclus, ledled y sir – wedi cyflawni llawer o welliannau cymunedol drwy’r cynllun CSP hwn, gan gynnwys sefydlu gerddi cymunedol a phlannu coed cymunedol.
- Coedwig Llwynhelyg, Hwlffordd – cyflawni gwelliant hanesyddol, sy’n creu gwell mynediad i’r cyhoedd a chyfleoedd hamdden/adloniant ynghyd â manteision bioamrywiaeth. Roedd yr olaf yn cynnwys dadsiltio’r prif bwll gyda rheolaeth bellach ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop, ynghyd â phlannu coed cymunedol a bylbiau blodau gwyllt.
- Morfa Milton, Milton – yn mynd ati i reoli a gweithio gyda’r gymuned i wella’r warchodfa natur gymunedol arbennig hon, gan gynnwys plannu coed.
- Railway Terrace, Neyland – cefnogwyd y gymuned i gael cyllid ar gyfer y safle hwn i sefydlu dôl blodau gwyllt wrth gael gwared ar blanhigion ymledol.
Adfywio
- Cyflwynwyd Strategaeth Adfer ac Adfywio Economaidd Sir Benfro, 2020 i 2030, i Gabinet CSP ar 14 Medi 2020. Mae’r strategaeth yn amlinellu’r hyn a fwriedir mewn ymateb i COVID-19 ac ar ôl Brexit. Mae'n cynnwys gweithio gyda phartneriaid CSP i gyflenwi'r genhedlaeth nesaf o swyddi peirianneg gwyrdd a glân sy'n canolbwyntio ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau; dulliau adeiladu carbon niwtral sy'n gysylltiedig â phrosiectau niwtraleiddio carbon; a defnyddio’r cyfle a grëwyd gan COVID-19 a gwell cysylltedd i elwa ar weithio ystwyth a llai o deithio.
- Mae lleihau allyriadau carbon wrth wraidd Bargen Ddinesig Bae Abertawe (yn agor mewn tab newydd), gwerth £1.3 biliwn, sy’n cael ei darparu gan bedwar awdurdod lleol Dinas-ranbarth Bae Abertawe, gan gynnwys Sir Benfro, gyda dau fwrdd iechyd rhanbarthol yr ardal a dwy brifysgol ranbarthol.
- Ymhlith y prosiectau sy’n rhan o raglen fuddsoddi’r Fargen Ddinesig y mae menter rhanbarth cyfan ‘Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer (yn agor mewn tab newydd)’. O dan y prosiect hwn, cynigir ôl-osod 7,500 o gartrefi â thechnoleg effeithlonrwydd ynni o’r radd flaenaf ac adeiladu 3,500 o gartrefi newydd, hynod effeithlon o ran ynni dros gyfnod o bum mlynedd. Yn ogystal â helpu’r rhanbarth i leihau ei allyriadau carbon, bydd Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer hefyd yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd ac yn diwallu’r angen am fwy o dai wrth elwa/creu busnesau cadwyn gyflenwi carbon isel ledled Sir Benfro a De-orllewin Cymru.
- Hefyd i fod i gael ei ariannu'n rhannol gan y Fargen Ddinesig mae prosiect Ardal Forol Doc Penfro (yn agor mewn tab newydd), a fydd yn rhoi hwb sylweddol i ‘economi las’ y rhanbarth drwy fuddsoddiad mawr i ddatblygu ynni morol. Mae elfennau’r prosiect yn cynnwys Ardal Profi Ynni Morol a Pharth Arddangos Sir Benfro ar gyfer datblygwyr ynni morol i dreialu, dileu risg a masnacheiddio eu dyfeisiau, a bydd y prosiect hefyd yn cynnwys uwchraddio seilwaith ym Mhorthladd Doc Penfro a Chanolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol y gall diwydiant a'r byd academaidd gydleoli ynddi. Bydd hyn yn gosod De-orllewin Cymru ar flaen y gad mewn diwydiant byd-eang sy'n tyfu.
- Mae potensial mawr yn bodoli yn y Môr Celtaidd ar gyfer y diwydiant ffermydd gwynt arnofiol ar y môr. Mae'r cyngor yn gweithio gyda nifer o ddatblygwyr ynni gwynt arnofiol ar y môr i sefydlu sylfaen a chadwyn gyflenwi yn y sir ar gyfer y ffynhonnell ynni adnewyddadwy bwysig hon. Mae astudiaeth ddiweddar gan y Cyngor Diwydiant Ynni Gwynt ar y Môr ac Offshore Renewable Energy Catapult, Offshore Wind and Hydrogen (yn agor mewn tab newydd) , yn dangos sut y gallai’r ffynhonnell hon hefyd helpu i sefydlu economi hydrogen ac ynni adnewyddadwy.
- Dan arweiniad CSP, mae Aberdaugleddau: Teyrnas Ynni (yn agor mewn tab newydd) (MH:EK) yn brosiect dwy flynedd gwerth £4.5 miliwn a fydd yn cael ei gwblhau yn 2022, a’i nod yw archwilio sut olwg allai fod ar system ynni lleol glyfar wedi’i datgarboneiddio ar gyfer Aberdaugleddau, Penfro a Doc Penfro. Partneriaid y prosiect yw:
- CSP;
- Porthladd Aberdaugleddau;
- Offshore Renewable Energy Catapult;
- Riversimple; Wales & West Utilities;
- Arup;
- Energy Systems Catapult.
Cefnogwyr a chydweithredwyr y prosiect yw RWE, Simply Blue Energy, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a Community Energy Pembrokeshire. Bydd y prosiect yn archwilio potensial hydrogen fel rhan o ddull aml-fector o ddatgarboneiddio. Os bydd yn llwyddiannus, mae ganddo’r potensial i arwain y ffordd a dod y cyntaf o lawer o Systemau Ynni Lleol Clyfar sy’n cefnogi’r DU a’i chymunedau lleol i gyrraedd targed sero net y llywodraeth mewn perthynas ag allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050.
- Mae'r cyngor yn gydweithredwr heb ei ariannu ar brosiect map trywydd Clwstwr Diwydiannol De Cymru (yn agor mewn tab newydd) (SWIC), a fydd yn ceisio nodi'r opsiynau gorau ar gyfer datgarboneiddio diwydiant yn gosteffeithiol yn Ne Cymru – gan gynnwys y clwstwr diwydiannol ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau. Bydd y prosiect yn edrych ar y seilwaith sydd ei angen ar gyfer datblygu'r economi hydrogen; ar gyfer dal, defnyddio a storio carbon ar raddfa fawr (CCUS) a chludiant; yn ogystal â chyfleoedd strategol ar y safle sy'n benodol i bob diwydiant.
- Boeler Biomas Bush Farm, Penfro – cefnogwyd Greenlinks Community Interest Company i ddatblygu ceisiadau llwyddiannus am gyllid i adnewyddu adeiladau fferm, a oedd yn cynnwys gosod boeler biomas.
- Mae CSP yn ymchwilio i hwyluso symud tuag at economi gylchol, lle mae gwastraff yn cael ei osgoi a bod y pethau a ddefnyddiwn yn cael eu cadw mewn defnydd cyn hired â phosibl. Mae'r cyngor yn ystyried darparu cyfleuster ailddefnyddio deunyddiau i gydlynu casglu, storio ac ailddefnyddio (gan gynnwys cludo) deunyddiau gormodol o brosiectau CSP ac i gefnogi sefydliadau cymunedol i sefydlu gweithdai/adnoddau i drwsio, atgyweirio, uwchgylchu a thynnu deunyddiau o eitemau a fwriedir ar gyfer gwastraff.
Amddiffyn yr Arfordir, Llifogydd a Draenio
- Mae'r holl gynlluniau amddiffyn yr arfordir a lliniaru llifogydd y mae'r cyngor yn ymgymryd â nhw wedi'u dylunio i gynnwys lwfansau newid hinsawdd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
- Mae systemau draenio dŵr wyneb hefyd wedi'u cynllunio i ddarparu ar gyfer digwyddiad glawiad 1 mewn 100 mlynedd ynghyd â lwfans o 30% ar gyfer newid hinsawdd.
- Drwy’r broses gynllunio, mae CSP yn goruchwylio Atodlen 3 o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, a ddaeth i rym yng Nghymru ar 7 Ionawr 2019, ac sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau newydd gynnwys nodweddion Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau). Mae'n bosibl y bydd hyn yn gofyn am ddarpariaeth o riliau, ffrydiau, pyllau ac ati ar y safle ar gyfer datblygiadau newydd.
- Mae ardaloedd perygl llifogydd yn cael eu nodi yn CDLl 2, sydd ar y gweill. Mae’r cynllun lleol hwn yn nodi ardaloedd lle gall newid arfordirol ddigwydd ac yn darparu polisi ar hyn: GN 36. Mae sylfaen dystiolaeth CDLl 2 yn cynnwys Asesiad Canlyniadau Llifogydd Strategol ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Y brif ffynhonnell ar gyfer mapio perygl llifogydd o hyd yw gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC yn agor mewn tab newydd).
Trafnidiaeth a Phriffyrdd
- Yn y blynyddoedd diwethaf, mae CSP wedi adeiladu dros 11 km o lwybrau troed a 76 km o lwybrau a rennir (cerdded a beicio) fel rhan o ddatblygiad teithio llesol yn y deg prif anheddiad o amgylch y sir.
- Fel rhan o ddyletswyddau statudol y cyngor o dan Ddeddf Teithio Llesol 2014, mae wedi datblygu ‘Map Rhwydwaith Integredig’ ar gyfer Sir Benfro sy'n nodi ei ddyheadau hirdymor ar gyfer datblygu llwybrau teithio llesol am y 15 mlynedd nesaf. Mae tua 170 o lwybrau wedi'u nodi ar y Map Rhwydwaith Integredig ar gyfer gwelliant.
- Yn y flwyddyn ariannol hon, mae CSP wedi llwyddo i gael dros £1 miliwn o gyllid grant trafnidiaeth Llywodraeth Cymru i wella darpariaeth teithio llesol yn Noc Penfro ac Arberth.
- Mae gwybodaeth ar y we sy'n hyrwyddo 20 o lwybrau beicio ar draws y sir wedi'i datblygu, gyda llwybrau ychwanegol a gwybodaeth hyrwyddo i'w hychwanegu eleni.
- Mae gan Sir Benfro hanes da o sicrhau cyllid Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru. Mae wedi sicrhau dros £300,000 yn y flwyddyn ariannol hon ar gyfer datblygu llwybrau cerdded a beicio diogel yng nghyffiniau Llandyfái,a thros £7 miliwn mewn grantiau ers dechrau'r cynllun.
- Darperir dros 1,809,000 o deithiau teithwyr i ysgolion a cholegau bob blwyddyn academaidd gan CSP.
- Mae dros 1,800 o ddisgyblion yn derbyn hyfforddiant Cludiant Diogel i’r Ysgol bob blwyddyn academaidd i annog a hyrwyddo defnyddio bysiau ysgol.
- Mae'r cyngor yn cefnogi 22 o wasanaethau bws lleol, sy'n darparu dros 970,000 o deithiau i deithwyr bob blwyddyn.
- Mae 13 o wasanaethau ‘galw'r gyrrwr’ yn gweithredu yn Sir Benfro, sy'n darparu dros 26,000 o deithiau teithwyr y flwyddyn.
- Mae ‘Fy Nhrên Cymru’ yn brosiect a ddatblygwyd gan CSP a'i ariannu gan Great Western Railway sy'n hyrwyddo teithio ar y rheilffordd a diogelwch traciau i ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd. Bob blwyddyn, mae dros 7,500 o ddisgyblion ar draws y rhanbarth yn elwa ar y fenter hyrwyddo hon.
Gwasanaethau Gwastraff ac Amgylcheddol
- Ym mis Mawrth 2018, cytunodd y cabinet y byddai'r awdurdod yn symud i wasanaeth ailgylchu llawer gwell. Daeth y newidiadau i rym yn hydref 2019. Bellach gall deiliaid tai ailgylchu ystod ehangach o blastig yn ogystal â phapur, cardbord, gwydr, caniau a bwyd. Mae casgliadau ailgylchu yn digwydd bob wythnos, a bydd cartrefi yn cael blychau a bagiau am ddim i gasglu'r eitemau ynddynt.
- Hefyd cymeradwyodd y cabinet symud i gasgliadau bagiau bin bob tair wythnos, ar y sail y bydd angen i ddeiliaid tai roi llai o eitemau mewn bagiau sbwriel diolch i'r cyfleoedd ailgylchu cynyddol.
- Hefyd cymeradwyodd y cabinet wasanaeth casglu bob pythefnos ar gyfer cynhyrchion hylendid swmpus, amsugnol, gan gynnwys casgliadau cynnil lle bo angen.
- Cynhyrchodd y Tîm Gwastraff ac Ailgylchu, prosiect Pencampwyr Eco CSP a Thîm yr Ymgyrch Gwastraff ac Ailgylchu fideo cyhoeddus, ‘The Wonder of You (yn agor mewn tab newydd)’, i egluro a hyrwyddo'r gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu newydd.
- Mae astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal i leoli cyfleuster trosglwyddo swmp canolog yn Sir Benfro, lle bydd lorïau'n dadlwytho eitemau cyn iddynt gael eu hanfon i'w hailgylchu. Gallai hyn fod yn gyfle i ddatblygu menter gymdeithasol ynghyd â chyflogaeth leol.
- Mae cynlluniau gwastraff y cyngor yn cael eu llywio gan ddeddfwriaeth berthnasol, sy'n gosod targedau ar gyfer Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Tuag at Ddyfodol Diwastraff, y strategaeth wastraff newydd i Gymru, sy’n rhan o gyfres o ddogfennau sy’n nodi sut y bydd Cymru yn cydymffurfio â deddfwriaeth. Tuag at Ddyfodol Diwastraff yw strategaeth wastraff drosfwaol Cymru, ac mae’n nodi egwyddorion, polisïau a thargedau lefel uchel.
- Mae Prosiect Pencampwyr Eco Sir Benfro yn cael ei ariannu gan Raglen Arwain Llywodraeth Cymru drwy grŵp gweithredu lleol Arwain Sir Benfro ac yn cael arian cyfatebol gan CSP. Ei nod yw dathlu a chefnogi gwaith pencampwyr eco gweithgar ac uchelgeisiol ym mhob rhan o Sir Benfro, a chwilio am y bobl sy'n cael eu hystyried neu'n barod i fod yn bencampwyr yn eu hardal leol i rannu arfer da; lledaenu gwybodaeth ddefnyddiol ac ysbrydoledig; ac annog eraill i ‘wneud eu rhan’ drwy fyw'n fwy cyfrifol, lleihau gwastraff, a sicrhau bod Sir Benfro yn parhau i fod yn lle glân a ‘gwyrdd’ i fyw ynddo. Prif ffocws cychwynnol y prosiect oedd annog trigolion i groesawu cyflwyno gwell trefniadau ailgylchu a gwahanu gwastraff y cyngor yn 2019.
Caffael
- Cynrychiolir CSP mewn rhwydweithiau caffael rhanbarthol, ac mae'n ymgysylltu ac yn ymgynghori â grwpiau amrywiol megis WRAP Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (yn agor mewn tab newydd). Mae'n gwneud hynny i sicrhau bod ystyriaethau newid hinsawdd yn cael eu hymgorffori mewn dogfennau caffael strategol a chanllawiau arfer gorau cysylltiedig fel bod yr holl fanylebau, dogfennau tendro a meini prawf dyfarnu yn mynd i'r afael ag ymrwymiadau’r argyfwng hinsawdd.
- Mae'r cyngor wedi ymgysylltu â WRAP Cymru ac wedi gofyn am adolygiad o wariant i fynd i'r afael â gwell defnydd o adnoddau yn ei bortffolio caffael presennol ei hun. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar sut y gall safon ailddefnyddio a deunyddiau y gellir eu hailgylchu (plastig, tecstilau, papur a cherdyn) wella mewn ymarferion caffael yn y dyfodol. Mae’r prosiect yn ystyried sut mae newidiadau yn y dyfodol yn cael eu hasesu a’u profi, a sut y rhoddir y dasg o sicrhau gwelliant parhaus iddynt, a sut i ddylanwadu ar gymhwysiad cyson ar draws y gwahanol adrannau a chadwyni cyflenwi dan sylw. Mae’r egwyddorion a ddefnyddiwyd yn ystod yr adolygiad yn dilyn egwyddorion economi gylchol a’r hierarchiaeth wastraff. Nod dulliau gweithredu yw lleihau (prynu llai), ailddefnyddio (dim eitemau untro), ailgylchu (casglu a gwerthu), adennill, ac addasu i greu nwyddau sydd wedi’u dylunio o'r newydd. Wrth ystyried sut i brynu’n briodol ar gyfer nodau llesiant economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, cydnabyddir ei bod yn hollbwysig bod llwybrau meddwl newydd yn cael eu rhoi ar waith, ymlaen llaw, yn y cam dylunio caffael ac yn y camau dylunio cynnyrch. Bydd y dull hwn yn gofyn am olrhain amserlenni ailgaffael yn amserol a phrosesau rheoli contract cadarn.
- Mae CSP yn cynnal Asesiad Risg Cynaliadwy ar bob tendr gwerth dros £25,000 sy'n ymgorffori materion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.
- Mae'r cyngor yn aelod o Is-grŵp Ynni’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC) o fewn Llywodraeth Cymru, yn llunio strategaeth caffael ynni GCC.
- Mae CSP a mwyafrif awdurdodau lleol Cymru eisoes yn cyrchu 100% o’u hanghenion trydan o ffynonellau cynhyrchu ynni adnewyddadwy ardystiedig (daeth 50% o’r pŵer adnewyddadwy hwnnw o Gymru yn 2018/19).
- Mae awdurdodau GCC yn rhan o'r seithfed pryniant mwyaf (ar ôl y ‘6 Mawr’) o drydan a nwy ym marchnadoedd y DU, gan fanteisio ar ddesgiau masnachu ynni proffesiynol Gwasanaethau Masnachol y Goron.
- Mae GCC wrthi'n chwilio am ffynonellau nwy carbon isel – e.e. biofethan o dreulio anaerobig – ac yn monitro'r agenda nwy hydrogen.
- Mae CSP yn aelod o grŵp cynghori llywodraeth leol sy'n gweithio gyda Dŵr Cymru i wella gwasanaeth Dŵr Cymru i'r sector cyhoeddus.
- Mae'r timau ynni / caffael a chyllid i gyd yn rhoi cyngor i dalwyr biliau ynni'r cyngor, ac yn cynnig gwasanaeth datrys anghydfod.
Addysg
Mae’r cyngor yn rhedeg rhaglen lwyddiannus Cynllun Gwobr Ysgolion Cynaliadwy (yn agor mewn tab newydd). Sefydlwyd y cynllun yn 2003 i helpu ysgolion i wreiddio Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF) mewn addysgu a dysgu ac wrth reoli ysgolion Sir Benfro yn gynaliadwy. Mae CSP yn ceisio sicrhau bod Cynllun Gwobr Ysgolion Cynaliadwy yn cyd-fynd â'r amcan yng nghasgliad ‘Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel (yn agor mewn tab newydd)’ Llywodraeth Cymru ar gyfer ‘gweithio gyda phartneriaid i gynnwys mwy am gynaliadwyedd a datgarboneiddio yn y cwricwlwm newydd’.
Cyllid
- Mae CSP yn rhan o Gronfa Bensiwn Dyfed (yn agor mewn tab newydd), gwerth £2.4 biliwn.
- Mae’r gronfa’n fuddsoddwr hirdymor sy’n gyfrifol am ofalu am fuddiannau buddiolwyr dros ddegawdau lawer i’r dyfodol, ac mae wedi bod yn bryderus ers tro ynghylch risgiau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd a charbon i bortffolios buddsoddi sylfaenol cronfeydd aelodau. Mae'n defnyddio'r dull o ymgysylltu'n weithredol ac yn gynhyrchiol â chwmnïau yn y sector drwy ei gyfranogiad yn Fforwm Cronfeydd Pensiwn yr Awdurdodau Lleol (yn agor mewn tab newydd) (LAPFF). Mae LAPFF o'r farn y dylai cwmnïau adrodd ar eu dull gweithredu at reoli carbon yng nghyd-destun sut y maent yn ystyried newid hinsawdd yn eu strategaeth fusnes. Wrth ymgysylltu, mae'r fforwm yn annog cwmnïau i alinio eu modelau busnes â'r senario 2°C er mwyn gwthio am drawsnewidiad trefnus i economi carbon isel. Mae LAPFF yn aelod o Rwydwaith Buddsoddwyr Ceres ar Risg Hinsoddol a Chynaliadwyedd (yn agor mewn tab newydd), mae’n cymryd rhan ym menter Climate Action 100+ (yn agor mewn tab newydd), ac mae mewn partneriaeth â Climate Majority Project (yn agor mewn tab newydd).
- Hefyd, trwy reolwyr buddsoddi'r gronfa, mae LAPFF yn pleidleisio ar benderfyniadau mewn cyfarfodydd cyffredinol blynyddol byd-eang, gan geisio tryloywder a datgelu risgiau hinsoddol a gosod targedau lleihau allyriadau. Yn y modd hwn, caiff barn y gronfa ei chyfleu'n uniongyrchol i fyrddau unigol.
- Mae gan Gronfa Bensiwn Dyfed lefel gynyddol o fuddsoddiad mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel drwy gronfeydd cyfun. Mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn cyfleoedd buddsoddi a ddaw yn sgil dyfodol carbon isel sy'n cynyddu arallgyfeirio asedau ac yn darparu enillion hirdymor. Bydd y gronfa'n parhau i wneud buddsoddiadau o'r fath lle mae'r proffil risg/enillion yn cyd-fynd â'i strategaeth fuddsoddi. Mae ganddi hefyd fuddsoddiadau yng Nghronfa Incwm Amgen Strategol BlackRock UK (yn agor mewn tab newydd), y mae rhai o’i strategaethau craidd yn y sector ynni adnewyddadwy a nifer o sectorau gwahanol sy’n cael effaith uniongyrchol ar gymunedau lleol – gan gynnwys gofal iechyd a thai cymdeithasol. Yn ystod 2019/20, bydd y Pwyllgor Pensiwn hefyd yn ystyried buddsoddi mewn cronfeydd tracio carbon isel eraill.
- Mae gan y gronfa Ddatganiad Strategaeth Fuddsoddi (yn agor mewn tab newydd) gynhwysfawr, sy’n cael ei adolygu ar hyn o bryd.
- Mae CSP yn croesawu'r llythyr agored diweddar oddi wrth (yn agor mewn tab newydd) Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, ac ymgysylltiad ag eraill ynghylch gwaredu.
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
- Mae'r cyngor yn parhau i gyflwyno arfer da TGCh i helpu i leihau allyriadau carbon, gan gynnwys y canlynol:
- lleihau'r defnydd o ynni yn ei ganolfannau data ac ar draws ei rwydwaith trwy ddefnyddio caledwedd rithwir a’i rhesymoli a mabwysiadu gweinyddwyr a seilwaith TGCh sy’n effeithlon o ran ynni;
- hwyluso gostyngiad mewn teithiau staff trwy weithredu arferion gweithio ystwyth ar draws yr awdurdod, gan gynnwys defnyddio gliniaduron a chyfarfodydd a galwadau fideogynadledda ar-lein (Skype for Business, MS Teams, ac ati);
- lleihau argraffu ar draws yr awdurdod trwy hwyluso mabwysiadu gweithio yn ddi-bapur trwy ddefnyddio technoleg yn well; a
- defnyddio systemau rheoli a weinyddir yn ganolog i sicrhau bod pob math o ddyfeisiau fel gliniaduron a chyfrifiaduron personol yn cael eu diffodd dros nos a phan nad ydynt yn cael eu defnyddio yn ystod y dydd.
Argyfyngau Sifil Posibl a Chynllunio at Argyfyngau
- Nod rôl argyfyngau sifil a chynllunio at argyfyngau CSP yw helpu i liniaru effeithiau newid hinsawdd drwy ysgrifennu a phrofi cynlluniau wrth gefn ar gyfer y risgiau amrywiol dan sylw. Mae'r risgiau hyn yn cynnwys y canlynol:
- digwyddiadau tywydd mwy eithafol yn achosi llifogydd afonol difrifol, fel Storm Callum yn 2018;
- lefel y môr yn codi yn achosi cynnydd mewn llifogydd arfordirol; a
- hafau poethach a sychach yn achosi prinder dŵr, cynnydd mewn ‘tanau gwyllt’, ac effeithiau ar iechyd y boblogaeth (yn enwedig yr henoed).
- Mae ‘Adroddiad Tystiolaeth Asesiad Risg Newid Hinsawdd y DU 2017 – Crynodeb i Gymru (yn agor mewn tab newydd)' yn crynhoi'r dystiolaeth sy'n benodol i Gymru sydd wedi'i chynnwys yn ‘Adroddiad Tystiolaeth Asesiad Risg Newid Hinsawdd y DU (yn agor mewn tab newydd)’.
- Mae'r cyngor yn aelod o Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed–Powys (yn agor mewn tab newydd), y mae ei aelodau'n cynnwys y gwasanaethau brys, cyrff iechyd, awdurdodau lleol eraill, asiantaethau'r llywodraeth a chwmnïau cyfleustodau. Mae aelodau Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed–Powys yn cydweithio i sicrhau bod trefniadau ar waith i helpu i liniaru effeithiau unrhyw argyfyngau, gan gynnwys y rhai a achosir gan newid hinsawdd. Mae rôl CSP yn ystod argyfyngau yn cynnwys darparu cymorth i’r gwasanaethau brys, rhoi cymorth a gofal i’r gymuned leol ac ehangach, a chydlynu’r ymateb gan sefydliadau heblaw’r gwasanaethau brys. Wrth i amser fynd yn ei flaen, ac wrth i'r pwyslais newid i adferiad, mae'r cyngor yn cymryd rôl arweiniol wrth adsefydlu'r gymuned ac adfer yr amgylchedd. Mae'r Fforwm Lleol Cymru Gydnerth yn cynhyrchu Cofrestr Risgiau Cymunedol Dyfed–Powys, y gellir ei gweld yn adran ‘lawrlwythiadau’ gwefan y Fforwm Lleol Cymru Gydnerth.
Rôl Ynni Adnewyddadwy, Hydrogen a Newidiadau Mawr i Seilwaith yn y Dyfodol
Wrth argymell camau y gall CSP eu cymryd i ddatgarboneiddio, mae'n rhaid cydnabod bod economeg, gwleidyddiaeth a pholisi, a gweithredu poblogaidd weithiau'n achosi newidiadau deinamig mawr i ‘fusnes fel arfer’ yn y dyfodol. At hynny, maent yn gwneud hynny ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang, a all arwain at ddatgarboneiddio sefydliadol a rhanbarthol ‘yn ddiofyn’.
Enghraifft o hyn yw’r ymchwydd a fu unwaith yn amhosibl meddwl amdano yng nghapasiti cynhyrchu trydan adnewyddadwy yng Nghymru, yn y DU ac yn fyd-eang, o bron ddim ddeng mlynedd yn ôl hyd at bwynt, ym mis Ionawr i fis Mawrth 2020, pan gyrhaeddodd cynhyrchiant trydan adnewyddadwy y lefelau uchaf erioed – i fyny 30% o gymharu â Chwarter 1 2019, i 40.8 o oriau terawat (TWh). Roedd hyn yn gyfran o 47.0% o gynhyrchu trydan, y gwerth chwarterol uchaf yng nghyfres ddata gyhoeddedig Llywodraeth y DU (yn agor mewn tab newydd). Yn y chwarter hwn hefyd y gwelwyd y gyfran isaf o gynhyrchu yn dod o danwydd ffosil, sef 35.4%. Dyma'r tro cyntaf i'r gyfran o danwydd ffosil ostwng o dan 40% o'r cyfanswm cynhyrchu, gan barhau â'r duedd barhaus i ffwrdd o ffynonellau o'r fath. Cyfanswm cynhyrchu tanwyddau ffosil yn Chwarter 1 2020 oedd 30.8 TWh, sef y gwerth isaf ar gyfer unrhyw Chwarter 1 a’r gwerth chwarterol ail isaf yn y gyfres ddata gyhoeddedig.
Siart 1. Cyfrannau cynhyrchu trydan
Arweiniodd y cofnod uchaf erioed hwn o gynhyrchu trydan o ffynonellau adnewyddadwy hefyd at gynnydd yn y gyfran o gynhyrchu o ffynonellau carbon isel, hyd at lefel uchaf erioed o 62.1%. Roedd hyn er bod cynhyrchiant niwclear wedi gostwng 5.8% o gymharu â Chwarter 1 2019 i 13.1 TWh.
Siart 2. Cyfran cynhyrchu trydan carbon isel
Er bod trydan wedi datgarboneiddio'n gyflym, ac yn parhau i wneud hynny, mae prosesau diwydiannol, gwresogi a thrafnidiaeth wedi bod yn faterion anoddach i fynd i'r afael â hwy. Fel rhan o’r ymrwymiad i’r DU gyrraedd statws carbon sero net erbyn 2050, mae Llywodraeth y DU yn mynd ati’n weithredol i gyflwyno mwy o ynni adnewyddadwy. Mae hefyd yn ymchwilio i rôl hydrogen, sydd â’r potensial i ddarparu datgarboneiddio ‘system ynni gyfan’ oherwydd gall weithredu fel ateb di-allyriadau fel nwy uniongyrchol ar gyfer prosesau diwydiannol, gwresogi, dŵr poeth a choginio; fel ffynhonnell tanwydd ar gyfer cynhyrchu trydan; fel cyfrwng storio mewn batris, a all helpu i gydbwyso'r grid; ac fel tanwydd trafnidiaeth.
Mae adroddiad diweddar APPG on Hydrogen (yn agor mewn tab newydd) yn nodi: ‘Credwn mai hydrogen yw'r ateb i ddatgarboneiddio mewn diwydiant, pŵer, gwres a thrafnidiaeth. Mae ganddo’r potensial i greu a chynnal cannoedd o filoedd o swyddi o ansawdd uchel ar draws y wlad, a chynorthwyo gyda chynlluniau “ffyniant bro” y llywodraeth’. Mae hefyd yn nodi: ‘Bydd hydrogen yn chwarae rhan allweddol wrth lunio ein heconomi yn y dyfodol a'n gallu i gyrraedd ein targedau sero net – yr unig gwestiwn sydd ar ôl yw pryd.’
Mae gan hydrogen a thrydan adnewyddadwy synergeddau ardderchog, yn yr ystyr y gall trydan adnewyddadwy yrru electrolysis i gynhyrchu hydrogen. Mae adroddiad Offshore Wind and Hydrogen: Solving the Integration Challenge (yn agor mewn tab newydd) yn archwilio'r potensial i hydrogen chwarae rhan allweddol wrth ddarparu'r hyblygrwydd a'r cydbwysedd ynni tymor byr a thymor hir sydd eu hangen i integreiddio canrannau uchel o wynt ar y môr i system ynni'r DU a chyflawni targedau newid hinsawdd sero net Prydain. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod gan y DU y lefel gywir o botensial o ran capasiti gwynt ar y môr – a sylfaen ddiwydiannol gref, ynghyd ag ymchwil academaidd sy’n arwain y byd – i ddatblygu diwydiant hydrogen ‘gwyrdd’ cynaliadwy, cost isel – un sy’n cynhyrchu hydrogen gwyrdd heb allyriadau CO2 o electroleiddio dŵr. Mae Sir Benfro mewn sefyllfa anhygoel o dda i fod ar flaen y gad yn y sector ynni adnewyddadwy a hydrogen hwn, gyda photensial enfawr ar gyfer cynhyrchu ynni gwynt arnofiol ar y môr yn y Môr Celtaidd, sylfaen ddiwydiannol gref, a seilwaith ynni presennol sy’n arwain y byd o amgylch Dyfrffordd Aberdaugleddau.
Mae Cymdeithas Rhwydweithiau Ynni a Navigant wedi cynhyrchu adroddiad, Llwybrau tuag at Sero Net: Datgarboneiddio'r Rhwydweithiau Nwy ym Mhrydain Fawr (yn agor mewn tab newydd), sy’n dod i’r casgliad mai cyfuniad cytbwys o nwyon a thrydan carbon isel yw’r ffordd orau o ddatgarboneiddio system ynni’r DU a chyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050.
Ar 25 Mehefin 2020, lluniodd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd adroddiad i Senedd y DU sy’n asesu’r cynnydd o ran lleihau allyriadau’r DU dros y flwyddyn ddiwethaf. Eleni, mae’r adroddiad yn cynnwys cyngor newydd i Lywodraeth y DU ar sicrhau adferiad gwyrdd a gwydn yn dilyn pandemig COVID-19. Mae’n amlygu pum blaenoriaeth fuddsoddi glir ar gyfer y misoedd i ddod:
- Ôl-osod carbon isel ac adeiladau sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
- Plannu coed, adfer mawndiroedd a seilwaith gwyrdd.
- Rhaid cryfhau rhwydweithiau ynni.
- Seilwaith i'w gwneud hi'n hawdd i bobl gerdded, beicio a gweithio o bell.
- Symud tuag at economi gylchol.
Mae’r adroddiad hefyd yn dod o hyd i gyfleoedd i gefnogi’r cyfnod pontio a’r adferiad drwy fuddsoddi yng ngweithlu’r DU, ac mewn ymddygiadau carbon is ac arloesi. Mae meysydd gwaith allweddol yn cynnwys y canlynol:
- rhaglenni ailsgilio ac ailhyfforddi;
- arwain symudiad tuag at ymddygiad cadarnhaol;
- cyllid gwyddoniaeth ac arloesi wedi'i dargedu.