Ein Cynllun Gweithredu

Atodiad 5: Rhestr Termau

Unedau mesur

Mae ôl troed carbon yn cael ei fesur mewn tunellau o garbon deuocsid a’i gyfatebol (tCO2e). Mae carbon deuocsid a’i gyfatebol (CO2e) yn caniatáu i’r gwahanol nwyon tŷ gwydr gael eu cymharu ar sail tebyg am debyg o gymharu ag un uned o CO2. Mae CO2e yn cael ei gyfrifo drwy luosi allyriadau pob un o’r chwe nwy tŷ gwydr â’i botensial cynhesu byd-eang dros 100 mlynedd.

Mae ôl troed carbon yn ystyried pob un o chwe nwy tŷ gwydr Protocol Kyoto: carbon deuocsid (CO2), methan (CH4), ocsid nitrus (N2O), hydrofflworocarbonau (HFCs), perfflworocarbonau (PFCs) a sylffwr hecsafflworid (SF6).

Ffynhonnell – Carbon Trust (yn agor mewn tab newydd)

 

Cilowat

(kW) yn 1,000 wat, sy'n fesur o bŵer. Felly, er enghraifft, gellid galw cawod drydan 10,000 wat hefyd yn gawod 10 cilowat.

 

Megawat

(MW) yn 1,000 cilowat, sy'n fesur o bŵer. Mae gigawat (GW) yn 1,000 megawat, ac mae terawat (TW) yn 1,000 gigawat.

 

Awr cilowat

(kWh) yn fesur o ynni – yn benodol, yn fesur o faint o ynni sy'n cael ei ddefnyddio. Nid yw'n golygu nifer y cilowatau a ddefnyddir yr awr. Yn syml, mae’n uned fesur sy’n cyfateb i faint o ynni y byddech chi’n ei ddefnyddio i gadw teclyn 1,000 wat i redeg am awr – er enghraifft:

  • Byddai un bwlb golau 100 wat yn cymryd deg awr i gronni 1 kWh o egni.
  • Byddai un peiriant 2,000 wat yn defnyddio 1 kWh mewn dim ond hanner awr.
  • Gallai un eitem 50 wat aros ymlaen am 20 awr cyn iddi ddefnyddio 1 kWh.

Ffynhonnell – Ovo Energy (yn agor mewn tab newydd)

 

Awr megawat

(MWh) yn 1,000 kWh.

 

Esboniadau

Gall fod yn anodd deall terminoleg sy’n ymwneud â newid hinsawdd – yn enwedig i’r rhai sydd ddim mewn cysylltiad â’r pwnc yn aml. Isod mae esboniadau ar gyfer rhai termau a ddefnyddir yn gyffredin:

 

Cyfrifyddu Carbon

mae cyfrifyddu carbon yn cwmpasu ystod eang o arferion amrywiol, ac yn golygu gwahanol bethau i wahanol grwpiau o bobl. Fodd bynnag, yn gyffredinol gellir ei rannu'n ddau gategori:

  • cyfrifyddu carbon ffisegol, sy'n meintioli symiau ffisegol o allyriadau nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer;
  • cyfrifyddu carbon ariannol, sy'n rhoi gwerth ariannol ar y farchnad i garbon.

Gellir defnyddio cyfrifyddu carbon ffisegol i helpu cwmnïau a gwledydd i gyfrifo faint o garbon y maent yn ei ollwng i'r atmosffer; gelwir y canlyniad yn ‘rhestr nwyon tŷ gwydr’. Unwaith y mae faint o garbon sy'n cael ei allyrru wedi cael ei sefydlu, gellir gosod targedau lleihau. Mae'r dull hwn hefyd yn bwysig i helpu neilltuo cyfrifoldeb i wahanol bartïon am eu hallyriadau carbon cysylltiedig.

Mae cyfrifyddu carbon yn darparu’r offer nid yn unig i feintioli a mesur allyriadau carbon ond hefyd i helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am strategaethau lliniaru, trwy ofyn cwestiynau megis:

  • Faint o garbon sy'n cael ei allyrru?
  • Pwy sy'n gyfrifol am yr allyriadau hyn?
  • Pa ddulliau y dylem ni eu defnyddio i gyflawni'r gostyngiadau carbon mwyaf?
  • A oes strategaethau neu bolisïau sy'n ymddangos yn ‘wyrdd’ ond sydd mewn gwirionedd yn cynyddu ein hallyriadau carbon?

Gall cyfrifyddu carbon helpu i ateb yr holl gwestiynau hyn, ond gall fod yn broses gymhleth.

Ffynhonnell – Cyfrifyddu carbon (yn agor mewn tab newydd)

 

Carbon Sero Net 

mae'n amlwg o'r wyddoniaeth bod swm y CO2 yn yr atmosffer sy'n deillio o weithgarwch dynol i raddau helaeth yn pennu graddau cynhesu byd-eang. Mae hyn yn golygu, er mwyn atal newid trychinebus yn yr hinsawdd, mae angen lleihau allyriadau CO2 i sero. Arweiniodd y wyddoniaeth at lywodraethau ledled y byd yn penderfynu, yng Nghytundeb Paris (yn agor mewn tab newydd), i sicrhau cydbwysedd rhwng allyriadau a chael gwared ar nwyon tŷ gwydr. Mae ‘sero net’ yn cyfeirio at sicrhau cydbwysedd cyffredinol rhwng allyriadau a gynhyrchir ac allyriadau a dynnir o'r atmosffer. Os dychmygwn twb ymdrochi gyda'r tapiau wedi'u troi ymlaen, gall y dull o gyflawni cydbwysedd o'r fath olygu naill ai troi'r tapiau i lawr neu ddraenio'r un faint o ddŵr i lawr y twll plwg. Mae'r dull blaenorol yn cyfateb i leihau allyriadau carbon; mae'r olaf yn cyfateb i dynnu allyriadau o'r atmosffer, gan gynnwys darparu mannau storio ar gyfer yr allyriadau megis ‘dalfeydd carbon’ – h.y. unrhyw beth sy'n amsugno mwy o garbon nag y mae'n ei ryddhau fel carbon deuocsid. (Mae coedwigoedd Ewropeaidd ar hyn o bryd yn ddalfa carbon net, gan eu bod yn cymryd mwy o garbon nag y maent yn ei ollwng.)

Ffynhonnell – Carbon Sero Net (yn agor mewn tab newydd) 

 

Carbon Niwtral 

mae niwtraliaeth carbon yn golygu cyflawni sero net ar gyfer allyriadau anthropogenig blynyddol (a achosir gan ddyn neu o dan ddylanwad dyn) o CO2 erbyn dyddiad penodol. Yn ôl diffiniad, mae niwtraliaeth carbon yn gofyn am wneud iawn ar gyfer pob tunnell o CO2 anthropogenig sy’n cael ei hallyrru trwy dynnu swm cyfatebol o CO2 (e.e. trwy niwtraleiddio carbon).

Ffynhonnell – Carbon Niwtral (yn agor mewn tab newydd)

  • Mae'r cyngor wedi ymrwymo i ddod yn awdurdod lleol ‘carbon sero net’ ac mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais am sector cyhoeddus ‘carbon niwtral’ yng Nghymru. O fewn cyfyngiadau'r ddogfen hon, mae'r ddau derm hyn yn gyfnewidiol.

 

Cyfrannu at Niwtraleiddio Carbon 

yn syml, mae niwtraleiddio carbon yn cyfeirio at sicrhau credydau carbon sy’n cyfateb i’ch effaith carbon. Mae hyn yn golygu gwneud iawn am bob tunnell o CO2 sy’n cael ei hallyrru drwy sicrhau bod un dunnell yn llai yn yr atmosffer. Oherwydd bod un uned o CO2 yn cael yr un effaith ar yr hinsawdd lle bynnag y caiff ei hallyrru, mae'r budd yr un fath lle bynnag y caiff ei lleihau neu ei hosgoi. Gallai achosion dilys o leihau carbon gynnwys diogelu fforestydd glaw yn Sierra Leone neu, o bosibl, plannu coed yn lleol yma yn Sir Benfro.

Ffynhonnell – Cyfrannu at Niwtraleiddo Carbon (yn agor mewn tab newydd)

 

ID: 11729, adolygwyd 25/07/2024