Ein Cynllun Gweithredu

Awdurdod Lleol Carbon Sero Net erbyn 2030

Dull Amlinellol

Pan fydd cyngor yn pasio unrhyw gynnig, mae’n adlewyrchu’r pwysigrwydd y mae’r sefydliad yn ei roi ar y mater ac mae’n arwydd o’i fwriad i fynd i’r afael ag ef. Felly, os bydd cyngor yn pasio cynnig argyfwng hinsawdd, gellir dweud yr un peth am yr agenda hon. Mae’r defnydd o’r term ‘argyfwng’ yn arwyddocaol ac, yn ôl diffiniad, nid yw hwn yn gynnig arferol. Os yw hynny'n wir, yna ni ddylai'r camau y mae cyngor yn eu cymryd fod yn normal ychwaith.

Mae Cyngor Sir Penfro yn aelod o’r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus (APSE) (yn agor mewn tab newydd) ac yn 2019 ymunodd ag APSE Energy (yn agor mewn tab newydd) - cydweithrediad rhwng dros 100 o awdurdodau lleol y DU sy’n gweithio tuag at ddod ag ynni o dan berchnogaeth gyhoeddus. Sefydlwyd APSE Energy i helpu cefnogi awdurdodau lleol i wneud y gorau o'u hasedau ym maes ynni a'u helpu i gymryd rôl arweiniol ynddo. Mae cyhoeddiad APSE Energy Local Authority Climate Emergency Declarations: Strategic and practical considerations for climate emergency declarations, targets and action plans (Mehefin 2019) wedi llywio dull gweithredu'r cyngor. Mae hyn yn cydnabod, er bod datganiad argyfwng yn haeddu ymateb priodol, na all awdurdod lleol gefnu ar bopeth arall er mwyn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd gan fod dyletswyddau a chyfrifoldebau cyfreithiol eraill i’w cyflawni yn ogystal â'r blaenoriaethau a nodwyd yn lleol y mae wedi ymrwymo i fynd i’r afael â hwy.

Mae dull pragmatig, felly, yn cael ei fabwysiadu ar gyfer y llwybr tuag at CSP yn dod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030. Mae hyn yn canolbwyntio i ddechrau ar yr allyriadau carbon sy'n cael eu mesur ar hyn o bryd gan y cyngor; fodd bynnag, cydnabyddir bod angen i’r dull hwn fod yn ddigon hyblyg i ddarparu ar gyfer amgylchiadau sy’n newid – gan gynnwys y gofynion adrodd sydd eto i’w cyflwyno gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i huchelgais am sector cyhoeddus sy’n garbon niwtral erbyn 2030 (yn agor mewn tab newydd). Ni fwriedir i’r ffocws cychwynnol hwn gyfyngu ar neu atal camau gweithredu ehangach posibl eraill i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, a nodir rhai o’r rhain yn Atodiad 3.

Dros nifer o flynyddoedd, mae CSP wedi mabwysiadu rhaglenni rhagweithiol i leihau ei allyriadau carbon, ac yn flaenorol mae wedi adrodd ar berfformiad yn ei adroddiadau blynyddol. Cynigir bod yr allyriadau hyn yr adroddir arnynt yn y lle cyntaf yn ffurfio cwmpas ymrwymiad y cyngor i ddod yn garbon sero net erbyn 2030. Daw’r allyriadau carbon hyn o'r canlynol:

(a)    adeiladau annomestig;

(b)    goleuadau stryd;

(c)    milltiroedd fflyd;

(d)    milltiroedd busnes.

Er bod y cyngor wedi ymrwymo i leihau ei ôl troed carbon yn sylweddol, mae hefyd yn cydnabod, pa mor effeithlon bynnag y daw ei wasanaethau o ran ynni / carbon, ei bod yn anochel y bydd ganddo ôl troed carbon gweddilliol o hyd. Mae'r sefyllfa hon yn cael ei chydnabod gan y term ‘net’ yn yr hafaliad carbon sero net, gan ei fod yn galluogi gwneud iawn am yr ôl troed carbon gweddilliol hwn drwy gynhyrchu ynni adnewyddadwy a/neu drwy gyfrannu at niwtraleiddio carbon (megis drwy blannu coed). Gellir crynhoi hyn fel a ganlyn:

Ôl Troed Carbon - Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy Cyfranu at Niwtraleiddio Carbon = Carbon Sero Net

ID: 11704, adolygwyd 23/07/2024