Ein Cynllun Gweithredu

Cynllun gweithredu carbon sero net 2020

Sylwch fod y cynllun hwn wedi’i greu yn 2020 ac yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd.

Cefndir

Ym mis Hydref 2018, gwnaeth y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (yn agor mewn tab newydd) (IPCC) gyhoeddi adroddiad arbennig ar effeithiau cynhesu o 1.5°C yn fyd-eang. Canfu’r IPCC y byddai gan fyd 1.5°C risgiau sylweddol is yn ymwneud â’r hinsawdd ar gyfer systemau naturiol a dynol na byd 2°C, ac y byddai angen i allyriadau carbon byd-eang gyrraedd sero net tua 2050 er mwyn peidio â mynd y tu hwnt i effeithiau newid hinsawdd 1.5°C neu ond yn cael ychydig o effeithiau ychwanegol. Y tu ôl i'r adroddiad hwn, mae corff enfawr o ymchwil a dadansoddi gwyddonol gyda chytundeb bron yn unfrydol ymhlith cymuned wyddonol y byd.

Bu adroddiadau cyson gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) ac uwchgynadleddau Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd. Maent yn denu cyhoeddusrwydd a sylw gan y cyfryngau ar y pryd, ond araf fu gweithredu gan arweinwyr y byd i weithio tuag at y cynlluniau y cytunwyd arnynt yn y cyfarfodydd hyn.

Adroddiad Arbennig yr IPCC ym mis Hydref 2018 oedd y cryfaf eto - gan ddweud i bob pwrpas mai dim ond 12 mlynedd oedd gan y byd i fynd i'r afael â'r mater hwn neu y byddai ein hecosystem yn dioddef difrod anadferadwy.

Mae hyn wedi arwain at sylweddoli bod amser yn mynd yn brin yn gyflym, ac wedi arwain at ddatgan argyfwng hinsawdd yn ystod 2019 gan lawer o sefydliadau, gan gynnwys Cyngor Sir Penfro a thros 280 o awdurdodau lleol eraill yn y DU. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU hefyd wedi datgan argyfwng hinsawdd.

Rhwng 1 a 12 Tachwedd 2021, cynhaliodd y DU 26ain Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) yn Glasgow.

 

Hysbysiad o Gynnig a’r Dirwedd Polisi

Hysbysiad o Gynnig

Cafodd cyfarfod Cyngor Sir Penfro (Cyngor Llawn 9 Mai 2019) yr Hysbysiad o Gynnig a ganlyn, a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Joshua Beynon:

Mae Cyngor Sir Penfro yn penderfynu gwneud y canlynol:

  1. Datgan argyfwng hinsawdd;
  2. Ymrwymo i wneud Cyngor Sir Penfro yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030;
  3. Datblygu cynllun clir ar gyfer trywydd tuag at fod yn carbon sero net o fewn 12 mis a fydd yn cael ei adrodd yn ôl wedyn i'r cyngor;
  4. Galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu’r cymorth ac adnoddau angenrheidiol i alluogi gostyngiadau carbon effeithiol;
  5. Gweithio gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a phartneriaid Bargen Ddinesig Bae Abertawe i ddatblygu cyfleoedd cyffrous i arbed carbon;
  6. Cydweithredu ag arbenigwyr o'r sector preifat a'r trydydd sector i ddatblygu atebion arloesol i ddod yn carbon sero net.

Cytunodd y cyngor llawn ar bwyntiau 1 a 4 o’r cynnig, a gofynnodd i’r cynnig gael ei gyfeirio at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol i ystyried pwyntiau 2, 3, 5 a 6.

 

Cyfarfu’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar 6 Mehefin 2019 (Trosolwg a Chraffu Corfforaethol 6 Mehefin 2019) a phenderfynwyd:

(a) Bod y pwyllgor wedi nodi’r cynnydd a’r camau a gymerwyd eisoes i gyflenwi cynaliadwyedd ac i leihau carbon, sy’n cyfrannu at Gyngor Sir Penfro yn dod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030. Hefyd bod y pwyllgor yn cefnogi parhad a datblygiad dulliau o'r fath, a thechnegau newydd, i gyflawni'r ymrwymiad, yn amodol ar ddatblygu cynllun gweithredu.

(b) Bod y pwyllgor wedi nodi’r cynnydd o ran datblygu dulliau ar gyfer trywydd tuag at fod yn garbon sero net, a bydd yn cael adroddiad ymhellach ar gynllun gweithredu manylach o fewn 12 mis.

(c) Bod y pwyllgor wedi nodi’r gwaith sy’n cael ei wneud gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a phartneriaid Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a’r cydweithio ag arbenigwyr o’r sector preifat a’r trydydd sector. Hefyd i dderbyn diweddariad pellach ar gynnydd y dulliau hyn o fewn 12 mis.

(d) Bod y pwyllgor yn argymell i'r cyngor y dylid sefydlu gweithgor cyngor cyfan, i gynnwys tystiolaeth gan arbenigwyr o'r sector preifat, y trydydd sector ac unigolion perthnasol, i ddatblygu cynllun gweithredu, amserlenni ac argymhellion i gefnogi'r awdurdod i anelu at fod yn sefydliad carbon sero net erbyn 2030.

 

Aeth penderfyniadau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yn ôl i’r cyngor llawn i’w cymeradwyo – ac ar 18 Gorffennaf 2019 (Cyngor Llawn 18 Gorffennaf 2019) penderfynwyd yn unfrydol:

 

(a) Bod gweithgor y cyngor â saith aelod â chydbwysedd gwleidyddol yn cael ei sefydlu i ystyried tystiolaeth gan arbenigwyr o’r sector preifat, y trydydd sector ac unigolion perthnasol, i ddatblygu cynllun gweithredu, amserlenni ac argymhellion i gefnogi’r awdurdod i anelu at ddod yn sefydliad carbon sero net erbyn 2030.

(b)(i) Y dylid nodi'r cynnydd a'r camau gweithredu a gymerwyd eisoes wrth gyflawni lleihau allyriadau carbon a chynaliadwyedd sy'n cyfrannu at Gyngor Sir Penfro yn dod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030 ac y dylid cefnogi parhad a datblygiad dulliau o'r fath a thechnegau newydd, i gwrdd â'r ymrwymiad, yn amodol ar ddatblygu cynllun gweithredu.

(b)(ii) Y dylid nodi’r cynnydd a wnaed ar ddatblygu dulliau ar gyfer trywydd tuag at fod yn carbon sero net ac y dylid cael adroddiad pellach ar gynllun gweithredu manylach o fewn 12 mis.

(b)(iii) Y dylid nodi'r gwaith sy'n cael ei wneud gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a phartneriaid Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a'r cydweithio gydag arbenigwyr o'r sector preifat a'r trydydd sector, ac y dylid cael diweddariad pellach ar gynnydd y dulliau hyn o fewn 12 mis.

(b)(iv) Bod y cyngor yn cysylltu'n ffurfiol â Llywodraeth Cymru i fynegi ei ddiddordeb mewn dod yn ‘fabwysiadwr cynnar’. Bydd hyn yn galluogi'r cyngor sir i sicrhau dealltwriaeth gynnar o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu  Methodoleg Genedlaethol ar gyfer Adrodd am Nwyon Tŷ Gwydr a Chyfrifo Ôl Troed, a llunio’r gwaith hwn o bosibl, er mwyn i gyrff cyhoeddus yng Nghymru gyrraedd y targed carbon sero net erbyn 2030, ond dylai’r broses fod yn amodol ar wneud dadansoddiad cost a budd.

(b)(v) Y dylid penodi'r cynghorwyr Neil Prior a Jon Harvey yn aelodau digyswllt i'r gweithgor.

 

Cyfarfu ‘Gweithgor Sero Net 2030’, fel y’i gelwir bellach, am y tro cyntaf ar 20 Medi 2019 ac mae wedi cyfarfod yn chwarterol ers hynny (gydag ymyrraeth oherwydd COVID-19). Sefydlwyd is-grwpiau ar gyfer y meysydd canlynol: Caffael, Ynni / Adeiladau / Tai, Defnydd Tir / Asedau / Datblygu, Fflyd / Trafnidiaeth / Symudedd / Teithio Llesol ac Ymddygiadau.

 

Mae'r is-grwpiau wedi cyfarfod bob chwarter rhwng y cyfarfodydd grŵp llawn. Mae’r cynllun gweithredu arfaethedig hwn yn nodi’r argymhellion i gefnogi’r awdurdod i anelu at ddod yn sefydliad carbon sero net erbyn 2030.

         

Y Dirwedd Polisi

Mae’r dirwedd polisi ynghylch datgarboneiddio yn esblygu’n gyson, ond mae polisïau diweddar perthnasol wedi’u nodi yma:

Targed Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030.

Mae Rhan II o Ddeddf yr Amgylchedd LlC yn pennu gostyngiad o 80% mewn allyriadau net Cymru gyfan erbyn 2050 yn erbyn llinell sylfaen 1990 [nid oedd CSP yn bodoli ym 1990 a dechreuodd gofnodi data allyriadau yn 2003/04, felly 2003/04 yw unig flwyddyn llinell sylfaen hyfyw i CSP].

Mae targed LlC i 70% o drydan a ddefnyddir yng Nghymru ddod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030 [darparwyd cyfwerth â 50% o ddefnydd trydan Cymru o ffynonellau adnewyddadwy yn 2018 o gymharu â 48% yn 2017 a 43% yn 2016].

Mae targed LlC i 1 gigawat (GW) o gapasiti trydan adnewyddadwy yng Nghymru fod mewn perchnogaeth leol erbyn 2030 ac i bob prosiect newydd gael elfen o berchnogaeth leol erbyn 2020. [Mae Cymru eisoes 77% tuag at gael 1 GW o gapasiti ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth leol, gyda chyfanswm capasiti gosodedig prosiectau trydan dan berchnogaeth leol hyd at ddiwedd 2018 o bron i 778 megawat (MW)].

Ym mis Mawrth 2019, cyhoeddodd LlC Cymru 'Ffyniant i bawb: Cymru Carbon Isel’ - sef cynllun trawslywodraethol i dorri allyriadau a chyfrannu at y frwydr fyd-eang yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.

Ym mis Mai 2019, argymhellodd Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd (UKCCC) y dylid deddfu ar gyfer gostyngiad o 100% ‘cyn gynted â phosibl’ mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr, gan annog y llywodraeth i osod targed allyriadau CO2 sero net erbyn 2050.

Ym mis Mehefin 2019, datganodd Llywodraeth Cymru y byddai Cymru’n derbyn argymhelliad y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd (CCC) ar gyfer gostyngiad o 95% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr (yn benodol i Gymru) erbyn 2050 a mynd gam ymhellach gydag uchelgais o gyrraedd sero net.

Ym mis Mai 2019, yn dilyn yr arweiniad a osodwyd gan lywodraethau Cymru a’r Alban, datganwyd gan y Tŷ’r Cyffredin bod argyfwng hinsawdd.

ID: 11701, adolygwyd 09/08/2024