Ein Cynllun Gweithredu

Gweithio gyda Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro / Partneriaid Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 (yn agor mewn tab newydd) wedi sefydlu bwrdd statudol, a elwir yn Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Mae pob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gasgliad o gyrff cyhoeddus sy’n cydweithio i wella llesiant ei sir. Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro ar hyn o bryd yn cynnal Asesiad Newid Hinsawdd a Risg Amgylcheddol ar gyfer Sir Benfro, trwy weithgor o'r enw hwnnw, er mwyn datblygu camau gweithredu clir a diffiniedig y gellir eu cymryd gan unigolion, cymunedau a sefydliadau.

Mae rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cynnwys 11 prosiect ar draws pedair thema allweddol:

(1) Cyflymu Economaidd;

(2) Gwyddor Bywyd a Llesiant;

(3) Ynni;

(4) Gweithgynhyrchu Clyfar.

Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau Ardal Forol Doc Penfro (yn agor mewn tab newydd)  a Chartrefi yn Orsafoedd Pŵer (yn agor mewn tab newydd).

Cyngor Sir Penfro yw'r awdurdod arweiniol ar gyfer prosiect Ardal Forol Doc Penfro. Y nod yw cefnogi’r clwstwr peirianneg forol bresennol yn Noc Penfro er mwyn elwa ar gyfleoedd mewnfuddsoddi a ddenir i’r ardal oherwydd ei lleoliad, ei gwybodaeth a’i harbenigedd, ei chadwyn gyflenwi, a’i chysylltedd heb ei hail. Mae Ardal Forol Doc Penfro yn cynnig y cyfle i Sir Benfro greu’r cyfuniad cywir o asedau daearol a morol i ddod yn arweinydd y DU yn y farchnad fyd-eang sy’n datblygu mewn ynni adnewyddadwy morol, gan gynnwys ffermydd gwynt ar y môr. Gall Ardal Forol Doc Penfro hefyd ddatgloi cefnogaeth bosibl ar gyfer datgarboneiddio yn y dyfodol, gydag Offshore Renewable Energy Catapult (yn agor mewn tab newydd) sy’n gweithredu ledled y DU, bellach wedi'i sefydlu yn y sir ac yn mynd ati i hyrwyddo'r ardal drwy Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Gall y prosiect hefyd wneud hynny drwy gynnal gorsaf cynhyrchu ynni adnewyddadwy fwyaf Dinas-ranbarth Bae Abertawe ym Mharth Arddangos Sir Benfro.

Nod y rhaglen Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer ranbarthol yw cydgysylltu’r gwaith o ddarparu cartrefi clyfar, carbon isel ac effeithlon o ran ynni drwy annog y defnydd o dechnolegau domestig yn y maes hwn. Mae'r rhaglen yn bwriadu cydlynu mabwysiadu technolegau cartrefi yn orsafoedd pŵer ar gyfer datblygiadau adeiladu newydd ac ôl-osod ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, gan brofi'r cysyniad yn y sector cyhoeddus cyn ei gyflwyno yn y sector preifat.

 

Camau i'w Cymryd

Cyf: NZC - 25

  • Cam Gweithredu: Gweithio gyda Gweithgor Newid Hinsawdd a Risg Amgylcheddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro i gynnal Asesiad Newid Hinsawdd a Risg Amgylcheddol ar gyfer Sir Benfro
  • Swyddog Arweiniol: Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaethau
  • Erbyn Pryd: Yn parhau

 

 

Cyf: NZC - 26

  • Cam Gweithredu: Gweithio gyda phartneriaid Dinas-ranbarth Bae Abertawe i gyflawni prosiectau Ardal Forol Doc Penfro a Chartrefi yn Orsafoedd Pŵer.
  • Swyddog Arweiniol: Pennaeth Adfywio
  • Erbyn Pryd: Yn parhau
ID: 11714, adolygwyd 23/07/2024