Ein Cynllun Gweithredu
Ôl Troed Carbon - Adeiladau Annomestig
Adeiladau Annomestig
Adeiladau Annomestig |
2003/04 (canlyniad) |
2016/17 (canlyniad) |
2017/18 (canlyniad) |
2018/19 (canlyniad) |
2018/19 v 2017/18 Cynnydd |
2018/19 v 2017/18 % y newid |
Defnydd (kWh) | 71,127,847 | 49,217,855 | 48,446,196 | 48,272,333 | wedi gwella | -0.36% |
Allyriadau carbon (tCO2e) | 18,564 | 12,765 | 11,762 | 10,285 | wedi gwella | -12.58% |
Mae’r cyngor wedi lleihau allyriadau carbon o’i adeiladau annomestig 45% ers 2003/04 – o 18,564 tCO2e i 10,285 tCO2e. Cafwyd gostyngiad o 12.58% mewn allyriadau rhwng 2017/18 a 2018/19.
Ynni a ddefnyddiwyd gan adeiladau annomestig y cyngor yn 2018/19 a'r allriadau canlyniadol:
Gwasanaeth |
Defnydd (KWh) (4) |
Allyriadau Carbon (tCO2e) |
Trydan | 14,005,501 | 3,965 |
Nwy | 28,943,605 | 5,324 |
LPG* | 2,180,161 | 468 |
Olew | 1,589,291 | 439 |
Cerosin | 281,247 | 69 |
Biomas | 1,272,527 | 19 |
Cyfanswm | 48,272,332 | 10,284 |
*nwy petrolewm hylifedig
Adeiladau'r cyngor a'r defnydd uchaf o ynni/allyriadau carbon uchaf yn 2018/19:
Adeiladau'r |
Biomas (kWh) |
Olew (kWh) |
LPG (kWh) |
Nwy (kWh) |
Trydan (kWh) |
Cyfanswm (KWh) |
(tCO2) |
Ysgol Uwchradd WR Hwlffordd (Prendergast) |
0 | 0 | 0 | 1,455,484 | 453,824 | 1,909,308 | 382 |
Canolfan Hamdden Hwlffordd | 1,178,352 | 0 | 0 | 560,176 | 1,006,753 | 2,745,281 | 377 |
Ysgol Uwchradd WR Hwlffordd (Portfield) | 0 | 0 | 0 | 1,486,044 | 319,063 | 1,805,107 | 354 |
Ysgol Harri Tudur | 0 | 0 | 0 | 957,048 | 632,989 | 1,590,037 | 336 |
Canolfan Hamdden Aberdaugleddau | 0 | 0 | 0 | 1,482,035 | 234,978 | 1,717,013 | 332 |
Canolfan Hamdden (Abergwaun) | 0 | 0 | 0 | 1,235,896 | 368,790 | 1,604,686 | 320 |
Ysgol Aberdaugleddau | 0 | 0 | 0 | 1,120,660 | 299,199 | 1,419,860 | 282 |
Canolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod | 0 | 0 | 0 | 1,033,770 | 281,948 | 1,315,718 | 261 |
Ysgol y Preseli | 0 | 602,764 | 13,015 | 0 | 356,378 | 972,157 | 246 |
Ysgol Greenhill, Dinbych-y-pysgod | 0 | 0 | 0 | 905,657 | 313,194 | 1,218,851 | 246 |
Ysgol Bro Gwaun | 0 | 0 | 0 | 928,373 | 237,499 | 1,165,872 | 231 |
Neuadd Cyngor | 0 | 0 | 0 | 520,101 | 476,196 | 996,297 | 216 |
Cyfanswm tCO2 = 3,583
Nodiadau:
(1) 2003/04 oedd y flwyddyn y cofnododd ac adroddodd CSP am y tro cyntaf am y defnydd o ynni ac allyriadau o adeiladau annomestig i Lywodraeth Cymru, ac felly dyma'r set ddata hynaf sydd ar gael.
(2) Er i ddefnydd (mewn oriau cilowat - kWh) ostwng 0.36% yn unig yn 2018/19 (daliwyd defnydd yn gyson yn sgil ehangu arwynebedd llawr yr ystad gorfforaethol), gostyngodd allyriadau carbon (tunelli o garbon deuocsid a’i gyfatebol – tCO2e) yn gyflym 12.58% oherwydd gostyngiad yn y ffactor trosi allyriadau ar gyfer trydan. Bydd datgarboneiddio parhaus y rhwydwaith dosbarthu trydan cenedlaethol yn helpu i gyflymu'r broses o leihau allyriadau carbon o ddefnydd y cyngor o drydan. Mae'r cyngor yn cyfrannu at ddatgarboneiddio'r grid trydan bob tro y mae'n cysylltu generadur trydan adnewyddadwy (e.e. paneli solar ffotofoltäig) i'r rhwydwaith grid.
(3) Mae’r data perfformiad a ddyfynnir yn y ddogfen hon yn defnyddio, lle bo’n briodol, ffactorau trosi allyriadau’r DU a gyhoeddwyd gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS). Cyhoeddir y ffactorau hyn yn flynyddol - er enghraifft: Greenhouse Gas Reporting Conversion factors (yn agor mewn tab newydd) - ac mae'r ffactor tCO2e ar gyfer colledion trosglwyddo a dosbarthu trydan wedi'i gynnwys.
(4) Mae’r holl danwyddau a ddefnyddir ar gyfer gwresogi wedi’u cywiro’n briodol yn erbyn y tywydd gyferbyn â chyfanswm cyfartalog blynyddol diweddaraf 20 mlynedd y diwrnod gradd gwresogi ar gyfer y tymheredd sylfaenol o 15.5°C ar gyfer rhanbarth Cymru. Mae hyn yn sicrhau nad yw'r data defnydd / allyriadau ar gyfer tanwyddau a ddefnyddir ar gyfer gwresogi yn cael ei ystumio gan aeafau anarferol o oer / mwyn.
Y Prif Gamau Gweithredu - Adeiladau Annomestig Presennol
- Mae CSP yn gwario tua £3 miliwn ar drydan, nwy, nwy petrolewm hylifedig (LPG), olew a thanwyddau biomas bob blwyddyn yn ei adeiladau annomestig - ffigwr sydd wedi aros yn gyson yn wyneb marchnadoedd sy’n codi’n gyflym oherwydd gwaith effeithlonrwydd ynni a’r lleihad mewn defnydd o ganlyniad
- Mae caffael ynni wedi dod yn fwyfwy cymhleth, gyda phrisiau'n gyfnewidiol ac yn gysylltiedig â ffactorau'r DU a ffactorau byd-eang. Er mwyn lleihau risg, mae'r cyngor yn caffael ei ynni gan ddefnyddio cytundebau fframwaith Gwasanaethau Masnachol y Goron, drwy'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (yn agor mewn tab newydd) (GCC), ar gyfer y mwyafrif helaeth o gyflenwadau.
- Mae'r cyngor yn aelod o Is-grŵp Ynni’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC) Llywodraeth Cymru, yn llunio strategaeth caffael ynni GCC.
- Daw’r holl drydan sy'n cael ei gaffael drwy GCC o ffynonellau ynni adnewyddadwy, gyda thua 50% o hwn yn dod o Gymru. (Noder: Mae’r defnydd o’r trydan ‘gwyrdd’ hwn eisoes wedi’i adlewyrchu yn ffactor trosi allyriadau [sy’n lleihau] y DU ar gyfer trydan, ac o ganlyniad nid yw’r cyngor ar hyn o bryd yn gallu elwa’n uniongyrchol ar arbedion carbon o ganlyniad i’w gaffaeliad o drydan ‘gwyrdd’ gan y byddai hyn i bob pwrpas yn gyfystyr â chyfrif yr arbedion carbon ddwywaith.)
- Mae awdurdodau GCC yn rhan o'r seithfed pryniant mwyaf (ar ôl y ‘6 Mawr’) o drydan a nwy ym marchnadoedd y DU, gan fanteisio ar ddesgiau masnachu ynni proffesiynol Gwasanaethau Masnachol y Goron.
- Mae GCC wrthi'n chwilio am ffynonellau nwy carbon isel - e.e. biofethan o dreulio anaerobig - ac yn monitro'r agenda nwy hydrogen.
- Mae prynu'n digwydd o fewn ffenestr brynu o 18 mis, gyda'r nod o brynu ar isafbwyntiau yn y farchnad.
- Ers 2003, mae'r cyngor wedi gweithredu dros 300 o gynlluniau effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni mewn eiddo cyngor annomestig ar draws y sir. Gyda’i gilydd, amcangyfrifir bod y rhain yn arbed dros £700,000 a 4,000 tunnell o CO2 (tCO2) bob blwyddyn. Mae'r buddsoddiad hwn – ynghyd â rhaglenni parhaus y cyngor ar resymoli eiddo, gweithio ystwyth a chynnal a chadw – yn cynhyrchu arbedion ariannol a charbon mewn cyfnod o gynnydd ym mhrisiau cyfleustodau.
- Mae CSP ar hyn o bryd yn cymryd rhan yn rhaglen effeithlonrwydd ynni Re:fit Cymru (yn agor mewn tab newydd), a gefnogir gan Lywodraeth Cymru:
- Re:fit Cymru, Cam 1 - Cynllun gwerth £1.3 miliwn (a ariennir gan fenthyciadau di-log Salix LlC) sydd wedi gweld 50 a mwy o fesurau effeithlonrwydd ynni yn cael eu gosod ar draws 25 o safleoedd yn ystod 2019–2021, gan arbed gwerth £200,000 a 416 tunnell o CO2 yn flynyddol. Mae'r cynllun yn y cyfnod cyflawni a bydd yn cynnwys gosod goleuadau LED, uwchraddio rheolyddion, gyriannau cyflymder amrywiol, inswleiddio falfiau, gwres a phŵer cyfunedig, a phaneli solar ffotofoltäig.
- Re:fit Cymru, Cam 2 - Mae CSP ar hyn o bryd yn gweithio gyda’i ddarparwr i gyflenwi gwaith uwchraddio boeleri cyddwyso ar bum safle arall, i’w cyflawni erbyn diwedd 2020.
- Mae'r cyngor yn defnyddio cyllid cynnal a chadw ôl-groniad addysg Llywodraeth Cymru i wneud gwaith uwchraddio goleuadau LED mewn naw ysgol pellach erbyn mis Mawrth 2021.
- Mae gan CSP staff cymwysedig sy'n cynhyrchu Tystysgrifau Ynni Arddangos (DECs) yn fewnol. Mae Tystysgrifau Ynni Arddangos (DECs) yn dangos yr ynni gwirioneddol a ddefnyddir gan adeilad mewn blwyddyn o weithredu. Mae adroddiad cynghorol ar sut i leihau'r defnydd o ynni a dŵr yn cyd-fynd â'r dystysgrif. Mae perfformiad cyfartalog adeiladau corfforaethol o ran Tystysgrifau Ynni Arddangos wedi gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn i’r sgôr bresennol o 73, sy’n rhoi sgôr weithredol o ‘C’ (sgôr o 100, gyda’r sgôr ‘D’ yn gyfartaledd diofyn y DU).
Camau Gweithredu - Adeiladu o’r Newydd
- Mae gan y cyngor un o'r rhaglenni adeiladu o’r newydd mwyaf ymhlith awdurdodau lleol Cymru. Mae pob prosiect adeiladu o’r newydd mawr yn ymgorffori technolegau ynni adnewyddadwy lle bo'n briodol, gyda gosodiadau solar ffotofoltäig yn cael eu hymgorffori ym mhob un o brosiectau diweddar Moderneiddio Darpariaeth Addysg Ysgolion yr 21ain Ganrif (yn agor mewn tab newydd) ac o fewn datblygiadau tai newydd. Mae storio batris hefyd yn destun ymchwil, a chynigiwyd ei gynnwys mewn datblygiadau tai newydd (lle mae darpariaeth ar gyfer gwefru cerbydau trydan hefyd yn cael ei gwneud).
- Mae technolegau carbon isel neu sero eraill sydd wedi’u gosod a’u gwerthuso i’w cynnwys yn y dyfodol, lle bo hynny’n ymarferol, yn cynnwys y canlynol
- pympiau gwres o'r ddaear;
- pympiau gwres ffynhonnell aer (bydd prosiect adfywio Cei’r De ym Mhenfro yn defnyddio technoleg pympiau gwres ffynhonnell aer);
- boeleri biomas (wedi'u gosod yng Nghanolfan Hamdden Hwlffordd);
- systemau thermol solar.
- Yn ogystal, ac er mwyn lleihau defnydd ynni mewn adeiladau newydd, mae ymagwedd ‘gwneuthuriad yn gyntaf (yn agor mewn tab newydd)’ at effeithlonrwydd ynni hefyd yn cael ei ddatblygu ac mae ‘Passivhaus’ neu ardystiad cyfatebol yn cael ei ystyried.
(Noder: Mae'r safon Passivhaus (yn agor mewn tab newydd) yn safon ynni drylwyr ar gyfer adeiladau sy'n darparu sicrwydd ansawdd ar gyfer perfformiad ynni ac amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys dylunio adeiladau i fodloni’r safonau perfformiad gofynnol ac mae’n cynnwys y canlynol:
- lefelau uchel iawn o inswleiddio;
- ffenestri perfformiad uchel iawn gyda fframiau wedi'u hinswleiddio;
- gwneuthuriad aerglos mewn adeiladau;
- adeiladu ‘sy’n rhydd o bontydd thermol; a
- system awyru fecanyddol sy’n gallu adfer gwres yn effeithlon iawn.
Dangoswyd bod adeiladau ‘Passivhaus’ yn cyflawni gostyngiad o 75% mewn gofynion gwresogi lle o gymharu ag arfer safonol ar gyfer adeiladau newydd yn y DU.)
- Mae tîm dylunio CSP ar hyn o bryd yn gweithio gyda'r contractwr, ymgynghorwyr a Llywodraeth Cymru i sefydlu ymarferoldeb a chostau adeiladu cyfleuster newydd Ysgol Uwchradd a Neuadd Chwaraeon Hwlffordd i safon carbon sero net.
- Mae’r cyngor yn rhoi mesurau ar waith yn rheolaidd ar draws ei raglen adeiladau newydd, gan gynnwys:
- dylunio:
- i safonau cynaliadwyedd ‘Rhagorol’ BREEAM
- ar gyfer y gyfeiriadaeth orau bosibl ar gyfer ennill gwres goddefol / cysgodi / awyru
- ar gyfer defnydd isel o ynni a dŵr
- cynnwys:
- paneli solar ffotofoltäig yn safonol
- buddion cymunedol o brosiectau (defnydd lleol / cyflogaeth)
- cynlluniau rheoli gwastraff safle
- olrhain allyriadau safleoedd
- arolygon bioamrywiaeth a mesurau tirweddu i liniaru unrhyw effeithiau ar fywyd gwyllt
- nodi:
- gorchuddion llawr wedi'u hailgylchu
- tystysgrif ‘cadwyn cystodaeth’ WWF ar gyfer yr holl bren
- poteli gwydr wedi'u hailgylchu ac insiwleiddio llofftydd gyda chywarch
- agregau eildro
- blociau concrit gan gyflenwyr sydd ag ardystiad ISO 14001 system reoli amgylcheddol (EMS)
- rhywogaethau brodorol lleol o blanhigion sydd angen dŵr glaw yn unig ar gyfer pob plannu allanol
- monitro:
- ‘milltiroedd deunyddiau’ ar gyfer yr holl ddeunyddiau
- diwygiadau tebygol yn y dyfodol o BREEAM, Rhan L (Rheoliadau Adeiladu ar gyfer Effeithlonrwydd Ynni) a'r gofyniad tebygol yn y dyfodol (2021) ar gyfer adeiladau sydd bron yn niwtral o ran defnydd ynni (nZEBs)
- Mae system rheoli ynni Stark ID wedi'i chaffael er mwyn monitro defnydd ynni CSP yn well a rheoli biliau'n well (o bosibl trwy systemau di-bapur) – ac i ganiatáu mynediad ar y we i safleoedd unigol. Mae data cywir yn hanfodol ar gyfer cynllunio, monitro ac adrodd ar gynnydd tuag at fod yn garbon sero net. Yn unol â hynny, bydd technoleg ‘glyfar’ ac is-fesuryddion yn cael ei hymestyn i sicrhau bod data defnydd ynni yn cael ei gasglu'n amserol.
- Mae mesuryddion trydan bob hanner awr (HH) wedi'u cyflwyno ar gyfer pob adeilad dichonadwy, a gosodir mesuryddion nwy HH ar gyfer pob cyflenwad mwy. Mae'r data hwn yn bwydo i Stark ID.
Targed
Mae targed lleihau carbon priodol i'w ddatblygu fel rhan o'r adolygiad blynyddol o'r cynllun gweithredu
Camau i'w Cymryd
Cyf: NZC-01
- Cam Gweithredu: Cwblhau'r gwaith o gyflawni prosiectau Cam 1 a 2 Re:fit Cymru (Effeithlonrwydd Ynni) i gyflawni arbedion ynni / carbon.
- Swyddog Arweiniol: Pennaeth Seilwaith
- Erbyn Pryd: Ebrill 2021
Cyf: NZC-02
- Cam Gweithredu: Cwblhau gwaith uwchraddio goleuadau LED mewn naw ysgol bellach sydd wedi’i ariannu gan gyllid Llywodraeth Cymru i glirio’r ôl-groniad o waith cynnal a chadw ym myd addysg.
- Swyddog Arweiniol: Pennaeth Seilwaith
- Erbyn Pryd: Ebrill 2021
Cyf: NZC-03
- Cam Gweithredu: Datblygu camau pellach o brosiect Re:fit Cymru (Effeithlonrwydd Ynni), neu debyg (e.e. defnyddio cronfeydd ôl-groniad cynnal a chadw Llywodraeth Cymru ar gyfer effeithlonrwydd ynni mewn ysgolion), i gyflawni arbedion ynni / carbon cyflymach.
- Swyddog Arweiniol: Rheolwr Datblygu Cynaliadwy ac Ynni
- Erbyn Pryd: Yn parhau
Cyf: NZC-04
- Cam Gweithredu: Ymgorffori geiriad mewn briffiau dylunio adeiladau newydd i ddatgan bod Cyngor Sir Penfro yn mynnu bod adeiladau newydd yn garbon niwtral / carbon sero net wrth ddefnyddio ynni – ac yn garbon bositif yn ddelfrydol, gan eu bod yn cynhyrchu mwy o ynni nag y gallant ei ddefnyddio.
- Swyddog Arweiniol: Rheolwr Datblygu Cynaliadwy ac Ynni, yr Uwch-bensaer ac uwch-beirianwyr
- Erbyn Pryd: Yn parhau
Cyf: NZC-05
- Cam Gweithredu: Ystyried y safon ‘gwneuthuriad yn gyntaf’ neu ‘Passivhaus’, lle bo'n briodol, mewn prosiectau adeiladu o’r newydd.
- Swyddog Arweiniol: Uwch-bensaer
- Erbyn Pryd: Yn parhau
Cyf: NZC-06
- Cam Gweithredu: Adolygu a diwygio manylebau a briffiau dylunio yn barhaus i adlewyrchu technolegau newydd a chyfarpar effeithlon o ran ynni.
- Swyddog Arweiniol: Uwch-bensaer ac uwch-beirianwyr
- Erbyn Pryd: Yn parhau
Cyf: NZC-07
- Cam Gweithredu: Ymestyn technoleg ‘glyfar’ ac is-fesuryddion i sicrhau bod data defnydd ynni yn cael ei gasglu'n gywir ac yn amserol. Ystyried gwneud cais am fesuryddion dŵr clyfar.
- Swyddog Arweiniol: Amrywiol
- Erbyn Pryd: Yn parhau
Cyf: NZC-08
- Cam Gweithredu: Datblygu targed lleihau carbon priodol ar gyfer adeiladau annomestig y cyngor fel rhan o adolygiad blynyddol o'r cynllun gweithredu.
- Swyddog Arweiniol: Rheolwr Datblygu Cynaliadwy ac Ynni
- Erbyn Pryd: Ebrill 2021