Ein Cynllun Gweithredu
Ôl Troed Carbon - Goleuadau Stryd
Goleuadau Stryd
Goleuadau Stryd |
2003/04 (canlyniad) |
2016/17 (canlyniad) |
2017/18 (canlyniad) |
2018/19 (canlyniad) |
2018/19 v 2017/18 cynnydd |
2018/19 v 2017/18 % y newid |
Allyriadau carbon (tCO2e) | 2,220 | 1,345 | 1,135 | 886 | wedi gwella | -21.94% |
Defnydd (kWh) | 4,316,478 | 2,993,488 | 2,953,158 | 2,883,115 | wedi gwella | -2.37% |
Mae’r cyngor wedi lleihau allyriadau carbon o’i oleuadau stryd 60% ers 2008 – o 2,220 tCO2e i 886 tCO2e. Cafwyd gostyngiad o 21.94% mewn allyriadau rhwng 2017/18 a 2018/19.
Nodiadau:
(1) 2008 oedd y flwyddyn y cofnododd ac adroddodd CSP am y tro cyntaf am ddefnydd ynni ac allyriadau goleuadau stryd ar gyfer cynllun Ymrwymiad Lleihau Carbon y DU, ac felly dyma'r set ddata hynaf sydd ar gael.
(2) Er i ddefnydd (kWh) ostwng 2.37% yn 2018/19, gostyngodd allyriadau carbon (tCO2e) yn gyflym, sef 21.94%, oherwydd gostyngiad yn y ffactor trosi allyriadau ar gyfer trydan. Bydd datgarboneiddio parhaus y rhwydwaith dosbarthu trydan cenedlaethol yn helpu i gyflymu'r broses o leihau allyriadau carbon o ddefnydd y cyngor o drydan. Mae'r cyngor yn cyfrannu at ddatgarboneiddio'r grid trydan bob tro y mae'n cysylltu generadur trydan adnewyddadwy (e.e. paneli solar ffotofoltäig) i'r rhwydwaith grid.
(3) Mae’r data perfformiad a ddyfynnir yn y ddogfen hon yn defnyddio, lle bo’n briodol, ffactorau trosi allyriadau’r DU a gyhoeddwyd gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS). Cyhoeddir y ffactorau hyn yn flynyddol – er enghraifft:
Greenhouse Gas Reporting Conversion Factors (yn agor mewn tab newydd)
Camau Gweithredu
- Ers 2008, mae CSP wedi gwneud y penderfyniad beiddgar i drosi 12,726 o 15,747 o oleuadau stryd i weithio am ran o'r nos yn unig (h.y. mae lampau'n cael eu diffodd yn awtomatig o hanner nos i 5.30am), sydd wedi cynhyrchu arbedion blynyddol o £178,000, 1,229,000 kWh a 563 tCO2. Roedd y polisi hwn yn dilyn ymgynghoriad trwyadl ac mae wedi arwain at nifer o ganmoliaethau gan eiriolwyr bioamrywiaeth ac ‘awyr dywyll’.
- Ym mis Awst 2019, roedd cyfanswm o 3,507 o lampau stryd LED wedi'u gosod.
- Yn 2019, cytunwyd yn y cabinet i ddadgomisiynu goleuadau stryd nad ydynt bellach yn cydymffurfio os na all y cyngor eu trwsio'n economaidd – h.y. os bydd cost eu hatgyweirio yn fwy na chost lamp newydd.
- Ym mis Mawrth 2020, cytunodd CSP i gynnal prosiect goleuadau stryd a gefnogir gan fenthyciadau di-log Salix a Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys cynllun uwchraddio dwy flynedd gan ddefnyddio contractwr fframwaith cynnal a chadw goleuadau stryd y cyngor i drosi'r holl osodiadau goleuadau stryd pŵer uchel sy'n weddill i rai LED rhwng 2020 a 2023. Bydd hyn yn sicrhau bod Cyngor Sir Penfro yn gweithredu rhwydwaith goleuadau stryd y mae pob rhan ohono yn oleuadau LED. Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar amnewid yr unedau goleuo yn unig, heb ailosod colofnau. Bydd yn gweld 11,231 o oleuadau stryd pŵer uchel sy’n weddill yn cael eu huwchraddio i oleuadau LED. Bydd y prosiect yn lleihau allyriadau carbon 322 tunnell bob blwyddyn, ac yn arbed £205,000 y flwyddyn mewn costau trydan. Oherwydd hirhoedledd cynhenid technoleg LED, bydd arbediad ychwanegol sylweddol hefyd mewn costau cynnal a chadw parhaus sy'n gysylltiedig â ffitiadau presennol sy'n dirywio.
Targed
Bydd targed lleihau carbon priodol yn cael ei ddatblygu fel rhan o'r adolygiad blynyddol o'r cynllun gweithredu.
Camau i'w Cymryd
Cyf: NZC - 09
- Cam Gweithredu: Datblygu targed lleihau carbon priodol ar gyfer goleuadau stryd y cyngor fel rhan o adolygiad blynyddol y cynllun gweithredu.
- Swyddog Arweiniol: Peiriannydd Goleuadau Stryd
- Erbyn Pryd: Mawrth 2021
Cyf: NZC - 10
- Cam Gweithredu: Uwchraddio 11,231 o oleuadau stryd pŵer uchel sy'n weddill i oleuadau LED rhwng 2020 a 2022 gan ddefnyddio cyllid Salix a CSP y cytunwyd arno
- Swyddog Arweiniol: Peiriannydd Goleuadau Stryd
- Erbyn Pryd: Rhagfyr 2022
Cyf: NCZ - 11
- Cam Gweithredu: Datgomisiynu goleuadau stryd nad ydynt bellach yn cydymffurfio os na all y cyngor eu hatgyweirio'n economaidd – h.y. mae atgyweirio'n costio mwy na lamp newydd.
- Swyddog Arweiniol: Peiriannydd Goleuadau Stryd
- Erbyn Pryd: Adolygiad blynyddol cyntaf Mawrth 2021