Ein Cynllun Gweithredu

Ol Troed Carbon - Milltiroedd Fflyd

Milltiroedd Fflyd

Milltiroedd Fflyd

2016/17 (canlyniad)

2017/18 (canlyniad)

2018/19 (canlyniad)

2018/19 v 2017/18 cynnydd

2018/19 v 2017/18 % y newid

Allyriadau carbon (tCO2e) 3,734 3,714 3,848 wedi lleihau +4.71%

Milltiroedd 3,255,494 3,307,554 3,463,415 wedi lleihau +3.60%

 

Mae’r cyngor wedi gweld cynnydd o 3.60% mewn allyriadau carbon o’i gerbydau fflyd o 2017/18 i 2018/19 – o 3,714 tCO2e i 3,848 tCO2e. Gall ffactorau allyriadau carbon amrywio bob blwyddyn – felly, allyriadau is yn 2017/18 v. 2016/17 er bod milltiroedd yn uwch.

 

Camau Gweithredu

Cyflwr / oedran y fflyd
  • Ers haf 2020, mae CSP yn gweithredu fflyd o tua 450 o gerbydau a dros 1,100 o eitemau o beiriannau.  Mae gan y fflyd oedran cyfartalog o bum mlynedd – yr hynaf yw Land Rover 20 mlwydd oed, a'r cerbyd ieuengaf yw tryc codi 3.5 tunnell un mis oed.
  • Mae gan CSP bolisi adnewyddu cerbydau pob saith mlynedd. Wrth adnewyddu, creffir ar swyddogaethau a defnydd y cerbyd a, lle bo'n briodol, mae cerbydau llai sy'n fwy effeithlon ac yn rhatach yn cael eu caffael. Er enghraifft, lle defnyddiwyd cerbydau 3.5 tunnell yn y gorffennol, mae'r rhain bellach yn cael eu lleihau i ddwy dunnell neu lai os yn bosibl.
  • Polisi teiars y cyngor yw gosod teiars brand premiwm, i leihau llygredd trwy well traul a gwrthsefyll rholio.
  • Ar gyfartaledd, mae CSP yn adnewyddu 40 o gerbydau bob blwyddyn, gwerth tuag £1.5 miliwn. Mae angen newid canran o'r cerbydau hyn gyda cherbydau allyriadau isel iawn (ULEVs) bob blwyddyn i leihau allyriadau CO2 y fflyd yn gyffredinol.
Allyriadau / tanwydd
  • Mae gwerthoedd allyriadau peiriant diesel yn cael eu mesur gan ddefnyddio safonau allyriadau Ewropeaidd – yn amrywio o Euro 1, a gyflwynwyd ym 1992, i'r Euro 6d mwyaf cyfredol (a gyflwynwyd ym mis Medi 2019). Mae injans cerbydau fflyd CSP yn amrywio o Euro 2, a gyflwynwyd ym 1997, i Euro 6d. Mae 31 o gerbydau Euro 6d yn y fflyd ar hyn o bryd, sy'n golygu mai'r cerbydau hyn yw'r cerbydau diesel mwyaf effeithiol o ran allyriadau sydd gan y cyngor. Wrth i gerbydau gael eu hamnewid, cânt eu hadnewyddu i'r safon allyriadau isaf posib.
  • Y llynedd, gwariwyd £1.4 miliwn ar danwydd – gan gynhyrchu 3,848 tunnell o CO2.
Olrhain / cyfyngwyr
  • Er mwyn gwneud y defnydd gorau o gerbydau fflyd, mae 80% o gerbydau fflyd CSP wedi'u gosod â thelemateg (systemau olrhain). Mae'r system delemateg bresennol wedi bod ar waith ers 2010, ac mae'n darparu adroddiadau rheolaidd; mae system newydd yn cael ei chaffael ar hyn o bryd. Byddai archwilio'r systemau telemateg yn helpu i nodi cerbydau a allai fod yn addas ar gyfer amnewidiadau allyriadau isel iawn. Gall systemau adrodd newydd, cyfredol ddarparu dadansoddiad manylach ar allyriadau CO2, a chefnogi’r gwaith o leihau allyriadau yn y fflyd gyfan.
  • Mae cerbydau wedi'u pennu â chyfyngwyr cyflymder, sy'n cyfyngu'r cyflymder i 62mya – a, lle bo'n briodol, cyfyngwyr cyflymu injan.
Pŵer batri
  • Mae tri cherbyd trydan batri (BEV) yn y fflyd: dau gar ac un fan.
  • Mae offer llaw sy'n cael eu pweru gan betrol bellach yn cael eu newid i rai sy'n cael eu pweru gan fatri. Mae manteision y rhain yn cynnwys allyriadau is, llai o sŵn, a llai o ddirgrynu dwylo a breichiau.  Mae cerbydau sydd newydd eu caffael wedi'u pennu â chyfleusterau gwefru batris, ac mae cerbydau hŷn ar y fflyd yn cael eu hôl-osod â gwrthdroyddion i wefru offer llaw sy'n gweithio â batri.
  • Mae ysgubwyr diesel sy’n cael eu gweithredu gan rywun yn cerdded y tu ôl iddynt yn cael eu newid gan rai sy'n cael eu pweru gan fatri. Mae manteision ysgubwyr batri yn cynnwys costau oes gyfan is; lleihau llygredd sŵn, gan alluogi Adran Cynnal a Chadw CSP i ysgubo o 6am ymlaen mewn ardaloedd adeiledig; allyriadau is; a llai o ddirgrynu dwylo a breichiau.
Bysiau
  • Mae bysiau bellach wedi'u parcio yn y lleoliadau gorau posibl; yn hanesyddol, cludwyd hwy adref a dechreuwyd o gartref. Mae cerbydau – os yw’n briodol ac yn fwy effeithlon – yn cael eu parcio yn Thornton.
Faniau
  • Cofnodwyd bod gan faniau bach sy’n gerbydau trydan batri (BEV) ac a oedd yn geir yn wreiddiol amrediad o hyd at 240 milltir, a gallent fod yn ddewis amgen posibl i'r faniau bach tanwydd diesel presennol sydd yn y fflyd. Byddai angen gosod seilwaith gwefru ym mhob depo ac o bosibl safleoedd strategol eraill ar draws y sir.
  • Dylai CSP ystyried gosod pwyntiau gwefru cartref, gan fod canran uchel o’i gerbydau fflyd sy’n faniau yn cael eu gyrru adref ar ddiwedd y diwrnod gwaith. Byddai angen cynnwys mesuryddion clyfar yma, gan gyfeirio'r holl gostau gwefru yn ôl i'r awdurdod.
  • Cafwyd adborth cadarnhaol gan swyddogion am y faniau BEV arddangos, a gafodd eu treialu am gyfnod o bedair wythnos yn 2019. Y pris fframwaith cyfartalog ar gyfer y cerbydau hyn yw £21,000, o gymharu â phris amcangyfrifedig o £11,000 ar gyfer model diesel cyfatebol.
  • Mae faniau paneli BEV mwy ar gael hefyd, ac mae ganddynt amrediad o hyd at 225 milltir fesul pob gwefru a phrif lwyth o bron i ddwy dunnell. Mae ymchwil yn awgrymu y gall rhai faniau gael gwefriad gwerth 60 milltir mewn 30 munud. Mae cost y cerbydau hyn yn dal yn gymharol uchel; ar hyn o bryd, maent yn manwerthu am tua £75,000 cyn gostyngiadau fframwaith, o gymharu â chost o £16,000 ar gyfer cerbyd diesel cyfatebol.
  • Gellid ystyried cerbydau trydan hybrid (PHEVs) fel dewis ‘ateb cyflym’ ar gyfer y faniau panel mwy ar y fflyd. Dywedir bod gan faniau PHEV amrediad 35 milltir cyn newid i betrol/diesel. Eu prif anfantais yw y gallai gwefru gael ei esgeuluso, gan olygu bod y cerbyd yn rhedeg yn barhaus ar betrol/diesel. Gyda rheolaeth gaeth, byddai faniau PHEV yn arwain at lai o allyriadau yn gyffredinol o gymharu â cherbydau diesel. Ar hyn o bryd, mae PHEVs yn gwerthu am tua £30,000, cyn gostyngiadau fframwaith, o gymharu â £14,000 ar gyfer cerbyd diesel cyfatebol.
Cerbydau nwyddau trwm (HGVs)
  • Mae adnewyddu fflyd HGV y cyngor gyda thanwydd o fath arall yn fwy problematig oherwydd demograffeg, seilwaith a chost:
    • Mae tryciau cerbyd trydan batri (BEV) yn cael eu cyflwyno i'r farchnad, gyda gwneuthurwr blaenllaw yn lansio cerbyd casglu sbwriel 26 tunnell yn ddiweddar gydag amrediad o 60 milltir a gwefriad wyth awr sydd wedi'i gyfyngu i raddiant o 1:20 ar y mwyaf am bris o £400,000. Yn ddiweddar, prynodd CSP dri o'r tryciau hyn ar ffurf amrywiad diesel am £160,000 yr un.
    • Mae hydrogen neu nwy aer cywasgedig (CNC) yn opsiwn posibl arall, ond nid oes seilwaith lleol ar gael eto i hwyluso eu defnydd. Mae cyfle yma i CSP weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu seilwaith hydrogen / CNG yn Sir Benfro.
  • Yn dilyn adnewyddu ei fflyd sbwriel yn ddiweddar, mae 49% o fflyd HGV CSP yn gweithredu ar beiriannau Euro 6d, sydd i gyd o dan 12 mis oed. Wrth eu hamnewid mewn saith mlynedd, bydd technoleg a seilwaith lleol wedi datblygu'n sylweddol, gan agor llwybrau pellach o ran opsiynau tanwydd amgen.
Lorïau graeanu
  • Ers 2012, mae'r cyngor wedi caffael cyrff graeanu dur gwrthstaen. Er eu bod, ar gyfartaledd, £10,000 yn ddrytach na chyrff dur meddal cyfatebol, mae eu gwarant rhydu corfforol 25 mlynedd yn caniatáu i’r corff gael ei ailosod ar siasi newydd o leiaf ddwywaith – gan arbed CO2 yn y broses gynhyrchu a gwireddu gostyngiad yn y gost oes gyfan.
  • Mae fflyd siasi bwrpasol a phresennol CSP o bedwar cerbyd graeanu tua 15 oed. Cyrff graeanu sefydlog yw'r cerbydau hyn, yn hytrach na chyrff graeanu sydd wedi cael eu gollwng i dryciau tipio yn ystod misoedd y gaeaf. Byddent yn cael eu dosbarthu fel ‘peiriannau budr’ (Euro 3) yn ôl safonau heddiw, ond gan eu bod yn teithio milltiroedd cymharol isel a bod ganddynt gost uchel (£100,000 y siasi), cânt eu cadw ar y fflyd am oes estynedig.  Mae hwn yn gyfaddawd i CSP – gall cerbydau naill ai newid bob saith mlynedd i gadw i fyny â thechnoleg injan am £100,000 y siasi neu gellir ymestyn eu hoes.
Cerbydau allyriadau isel iawn (ULEVs)
  • Amcan datganedig Llywodraeth Cymru yw i holl drafnidiaeth ffordd y sector cyhoeddus drosglwyddo i gerbydau allyriadau isel iawn (ULEV) erbyn 2030.
  • Gallai CSP ystyried opsiynau ULEV amgen, neu osod lefelau allyriadau ar gyfer ceir brif swyddogion ar brydles.
  • Er mwyn atgyweirio a chynnal a chadw y cerbydau allyriadau isel iawn, byddai angen uwchsgilio'r gweithlu. Byddai angen gwneud hyn cyn ac yn ystod cyflwyno cerbydau ULEV.
  • Mae'r cyngor wedi ymgysylltu (Mai 2020) â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o’r fflyd a thrafnidiaeth busnes er mwyn canfod yr achos busnes ac amgylcheddol dros newid i gerbydau allyriadau isel iawn. Nod Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yw helpu sefydliadau i gyflawni amcan datganedig LlC o newid holl drafnidiaeth ffyrdd y sector cyhoeddus i gerbydau allyriadau isel iawn erbyn 2030 ac i gefnogi'r symudiad i sero net.
Ffynonellau eraill
  • Mae CSP wedi gosod system cynaeafu dŵr glaw yn ei olchwr cerbydau awtomataidd yn Nepo Thornton sy'n ailgylchu dŵr glaw sydd wedi'i ddal o do'r gweithdy cerbydau.
  • Mae goleuadau LED wedi'u gosod yn y gweithdy cerbydau.
  • Mae’r cyngor yn gosod peiriant ail-lenwi cerbydau hydrogen ym Marina Aberdaugleddau o dan brosiect Aberdaugleddau: Teyrnas Ynni (MH:EK), lle bwriedir i ddau gerbyd trydan celloedd tanwydd hydrogen (HFCEV) Riversimple – y Rasa – gael eu defnyddio gan CSP a staff Porthladd Aberdaugleddau ar gyfer teithiau busnes. Nod y prosiect yw casglu data i gefnogi'r achos busnes, a dangos defnyddioldeb a'r galw am gerbydau HFCEV.

 

Targed

Bydd targed lleihau carbon priodol yn cael ei ddatblygu fel rhan o'r adolygiad blynyddol o'r cynllun gweithredu.

Camau i'w Cymryd
Cyf: NZC - 12
  • Cam Gweithredu: Cynnal adolygiad i nodi'r cerbydau tanwydd mwyaf priodol ar gyfer pob un o wasanaethau'r cyngor ac i nodi cyfleoedd ar gyfer cyflwyno cerbydau allyriadau isel iawn (ULEVs).
  • Swyddog Arweiniol: Pennaeth Seilwaith a Rheolwr Fflyd
  • Erbyn Pryd: Mawrth 2021

 

Cyf: NZC - 13
  • Cam Gweithredu: Caffael system adrodd telemateg newydd, gyfredol a’i chraffu i ddarparu dadansoddiad manylach ar allyriadau CO2;  nodi cyfleoedd i gefnogi’r gwaith o leihau allyriadau yn y fflyd gyfan.
  • Swyddog Arweiniol: Pennaeth Seilwaith a Rheolwr Fflyd
  • Erbyn Pryd: Mawrth 2021

 

Cyf: NZC - 14
  • Cam Gweithredu: Datblygu targed lleihau carbon priodol ar gyfer milltiroedd fflyd y cyngor fel rhan o adolygiad blynyddol o'r cynllun gweithredu.
  • Swyddog Arweiniol: Pennaeth Seilwaith a Rheolwr Fflyd
  • Erbyn Pryd: Mawrth 2021
ID: 11710, adolygwyd 23/07/2024