Ein Cyrsiau
Ein Cyrsiau
Ein nod yw darparu ystod eang o gyrsiau sy'n addas i'n holl gwsmeriaid – trigolion a busnesau Sir Benfro. Os ydych am ddatblygu sgiliau a diddordebau newydd, gweithio tuag at gymhwyster, neu wella eich rhagolygon gyrfa, mae ein cyrsiau'n darparu'r cyfle lleol delfrydol.
Yn ogystal â chael eu cynnal mewn llawer o leoliadau gwahanol ledled y Sir, mae rhai o gyrsiau Dysgu Sir Benfro hefyd yn cael eu darparu ar-lein, gan ei gwneud yn haws nag erioed dod o hyd i amser addas i chi. Rydym hefyd yn gallu darparu hyfforddiant pwrpasol i fusnesau; boed hynny ar gyfer unigolyn neu sefydliad cyfan, gallwn deilwra'r hyfforddiant i ddiwallu anghenion penodol.
Cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg
Er mwyn iddi fod yn ariannol hyfyw inni gynnal cyrsiau, rydym angen nifer isaf o bobl i gymryd rhan. Ein nod yw darparu cyrsiau’n ddwyieithog lle bynnag y bo modd. Wrth ichi holi ynghylch ymgymryd â chwrs, byddwn yn gofyn ichi a hoffech chi ddilyn y cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Byddwn yn darparu cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig pan mae niferoedd yn cyrraedd y lefel isaf.