Cymraeg

Mae pobl eisiau dysgu Cymraeg am wahanol resymau, ond dod yn rhugl yn yr iaith yw dymuniad y rhan fwyaf.  Os byddwch chi'n penderfynu dysgu Cymraeg fe allech chi fod yn un o'r cannoedd o bobl sy'n llwyddo i ddod yn siaradwyr Cymraeg rhugl bob blwyddyn.

Mae dysgu Cymraeg yn llawer o hwyl a gall unrhyw un sydd am fod yn ddysgwr, ond sydd efallai'n pryderu am ymdopi â gramadeg, fod yn sicr bod y pwyslais heddiw yn bendant iawn ar Gymraeg llafar ac ar ddefnyddio'r iaith o'r cychwyn cyntaf.

Os ydych chi angen mwy o wybodaeth, mae popeth ar gael ar Dysgu Cymraeg Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) neu gellir cysylltu gyda ni ar 01437 770180 am gyngor.

Cyn i chi chwilio am gwrs, mae dau beth pwysig y dylech eu hystyried: dewis y lefel iawn a'r cyflymder iawn.

Dewis y lefel iawn

Mae pob cwrs erbyn hyn wedi ei enwi yn unol â'r fframwaith dilyniant cenedlaethol ar gyfer Cymraeg i Oedolion, sy'n cynnwys 5 lefel:

  • Mynediad - cyrsiau i ddechreuwyr. Mae'r pwyslais ar siarad Cymraeg - mae trafod manylion personol a digwyddiadau yn y gorffennol ymysg y pynciau o dan sylw.
  • Sylfaen - datblygu eich sgiliau siarad. Mae teulu, gwaith a diddordebau ymysg y pynciau o dan sylw.
  • Canolradd - mae'r pwyslais yn dal i fod ar siarad, ond gan gyflwyno ychydig mwy o ysgrifennu, darllen a gwrando.  Fe ddylech fedru cynnal sgwrs yn weddol rwydd ynglŷn â phynciau pob dydd erbyn diwedd y lefel hon.
  • Uwch - gyda'r pwyslais yn dal i fod ar sgiliau siarad, fe gewch hefyd eich cyflwyno'n raddol i radio, teledu a phapurau newydd Cymraeg.  Mae'r cyrsiau hyn yn gymorth hefyd i chi ysgrifennu'n fedrus.
  • Hyfedredd  - cyrsiau ar gyfer pobl sy'n siarad Cymraeg yn rhugl (iaith gyntaf neu ail iaith) sy'n dymuno cryfhau eu gafael ar yr iaith.

Dewis y Cyflymder Iawn

Y ffordd orau i ddysgu iaith yw trochi eich hun ynddi, felly fe ddylech chi ystyried dewis y cwrs mwyaf dwys y gallwch chi roi eich amser iddo.  

Fel un sy'n dechrau o'r newydd, fe gewch ddewis gweithio gan symud ymlaen yn hamddenol ar gyrsiau sy'n cwrdd unwaith yr wythnos, neu'n fwy dwys gyda dau ddosbarth yr wythnos. 

Mae'r cyrsiau sy'n cwrdd unwaith yr wythnos fel arfer yn ymdrin ag un o'r lefelau uchod tros ddwy flynedd (tair blynedd ar gyfer y lefel Uwch) ac mae'r cyrsiau mwy dwys yn ymdrin ag un lefel y flwyddyn.  Mae'r ddau lwybr fel arfer yn cyfuno wrth i chi fynd ymlaen i'r lefelau uwch.  

Cymraeg Gwaith

Os ydych yn gweithio yng Nghymru, bydd y gallu i siarad Cymraeg yn rhoi mantais bendant i chi a gallai arwain at ddyrchafiad neu swydd well.   

Mae rhagor a rhagor o gyflogwyr yn ystyried yr iaith Gymraeg yn sgil y mae ei hangen yn y gweithle, yn enwedig o fewn y sector cyhoeddus lle mae gofyn a galw am wasanaeth dwyieithog.  

Pob blwyddyn mae ugeiniau o bobl yn mynychu dosbarthiadau Cymraeg i wella rhagolygon eu gyrfa, a dyma pam:

  • Mae'n fwy tebygol y bydd gweithwyr gyda sgiliau dwyieithog yn ennill rhwng 8 a 10% yn rhagor na'r rhai heb sgiliau dwyieithog
  • Mae sgiliau iaith Gymraeg yn gaffaeliad pwysig ym mhob sefydliad yn y sector cyhoeddus
  • Gyda nifer y siaradwyr Cymraeg yn dal i gynyddu, bydd y galw am wasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn cynyddu hefyd  

Os dych chi’n gweithio i Gyngor Sir Penfro, cysylltwch â Cath Holgate am ragor o wybodaeth am y dosbarthiadau/lefelau sydd ar gael yn y gweithle – cath.holgate@pembrokeshire.gov.uk 

Cymraeg yn y Cartref

Gyda rhagor a rhagor o blant yn elwa ar fanteision addysg ddwyieithog a dysgu Cymraeg yn yr ysgol, mae llawer o rieni ac aelodau eraill o'r teulu eisiau bod yn rhan o'r holl beth.  Mae llawer o'n cyrsiau wedi eu trefnu ar gyfer amserau a lleoliadau sy'n hwylus i rieni ac rydym hefyd yn cynnig cyrsiau penodol sy'n fodd i chi ddysgu rhywfaint o Gymraeg y gallwch ei defnyddio gyda'r plant.

Dilyniant - Arholiadau

Mae llawer o ddysgwyr yn darganfod bod ennill cymhwyster yn ffordd dda o gofnodi eu cynnydd ac yn gymhelliant i adolygu!

Mae CBAC yn cynnig cymhwyster ar bedair lefel i oedolion sy'n dysgu Cymraeg yng nghyfres arholiadau Defnyddio'r Gymraeg.  Y lefelau yw: Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch.

Cyrsiau Dydd

Unwaith y bydd eich cwrs wedi dechrau, gallwch hefyd roi hwb i'ch rhaglen ddysgu drwy fynychu cyrsiau undydd Sadwrn Siarad a chyrsiau bloc, megis cyrsiau yn ystod y Pasg a'r Haf. Fel arfer, cânt eu cynnal yn ein Canolfannau Dysgu Cymunedol.

Darperir hyfforddiant ar bob lefel ac mae nifer yr oriau cyswllt yn cyfateb i o leiaf ddau ddosbarth nos.

ID: 1938, adolygwyd 14/07/2023