Ein Cyrsiau
Cymwysterau
Mae ennill cymwysterau’n gallu eich helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa bresennol neu gymryd eich camau cyntaf tuag at swydd newydd neu gwrs astudio uwch.
Weithiau, mae’n gallu bod yn anodd dod o hyd i amser i ennill cymwysterau newydd, yn enwedig os ydych chi eisoes yn cydbwyso gofynion gwaith a theulu. Trwy ddarparu cyrsiau mewn lleoliadau lleol ac ar wahanol adegau yn ystod y dydd, mae Sir Benfro yn Dysgu yn gallu hwyluso pethau i chi.
Yn y DU, dyfernir cymwysterau gan amrywiaeth o wahanol sefydliadau.
Ar hyn o bryd, mae Sir Benfro yn Dysgu yn darparu cyrsiau sy’n arwain at gymwysterau a ddyfernir gan y sefydliadau canlynol:
- Agored Cymru
- Cymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (BCS)
- Y Gymdeithas Frenhinol dros Hwylio (RYA)
- Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC)
Hefyd, rydym yn cynnig cyrsiau sy’n arwain at gymwysterau Cymorth Cyntaf a Diogelwch Bwyd.
Mae Agored Cymru yn achredu cyrsiau byr, ymarferol. Mae Sir Benfro yn Dysgu yn cynnig yr achrediad hwn mewn amrywiaeth o sgiliau, fel sgiliau digidol a chyfrifiadurol, rhifedd, llythrennedd, cyfathrebu a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL).
Cymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (BCS)
Cafodd Tystysgrif Ryngwladol Llythrennedd Digidol (ICDL) yn gymhwyster cyflogaeth uchel iawn ei barch. Mae Sir Benfro yn Dysgu yn cynnig Dyfarniad ICDL lefel 1, Dyfarniad ICDL lefel 2 ac ICDL Uwch.
Unedau unigol ICDL lefel 1 – Prosesu geiriau, taenlenni a chyflwyno.
Dyfarniad ICDL lefel 1 – Mae’n eich addysgu sut i reoli’r peryglon sy’n gysylltiedig â defnyddio cyfrifiaduron, fel sbam a dwyn hunaniaeth, sut i drefnu’ch cyfrifiadur a sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd ac e-bost.
Mae Dyfarniad ICDL lefel 2 yn datblygu eich sgiliau yn 3 o’r unedau canlynol – prosesu geiriau, taenlenni, cyflwyniadau neu gronfeydd data.
Y Gymdeithas Frenhinol dros Hwylio (RYA)
Ar hyn o bryd, mae Sir Benfro yn Dysgu yn cynnig cymwysterau Capten Dydd ar y Lan yr RYA a Chapten Arfordirol/Iotfeistr Pell o’r Lan yr RYA mewn rhai canolfannau.
Canolfan Hyfforddi Gydnabyddedig:
Canolfan Dysgu Cymunedol Abergwaun, Ysgol Bro Gwaun, Abergwaun SA65 9DT
Mae yna hefyd ddwy ganolfan loeren:
Canolfan Dysgu Cymunedol Doc Penfro, Sgwâr Albion, Doc Penfro SA72 6XF a Chanolfan Dysgu Cymunedol Dinbych-y-pysgod, Greenhill Avenue, Dinbych-y-pysgod SA70 7LB
Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (WJEC)
Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd (TGAU)
Os na lwyddoch i ennill y rhain, neu os hoffech gael gwell graddau, rydym yn cynnig cyfle i chi astudio Saesneg a Mathemateg.
Hefyd, rydym yn cynnig cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ar wahanol lefelau mewn Cymhwyso Rhif ac mewn Cyfathrebu.
Cymraeg
Mae llawer o bobl sy’n dysgu Cymraeg yn sylweddoli bod ennill cymhwyster yn ffordd dda o wella eu rhagolygon swyddi neu fonitro eu cynnydd.
Mae CBAC yn cynnig cymwysterau ar bedair lefel i oedolion sy’n dysgu Cymraeg, yn y gyfres "Defnyddio'r Gymraeg". Y lefelau yw Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch.