Mae Sir Benfro yn Dysgu yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau sy'n gallu cyfrannu at eich iechyd a'ch lles.
Os ydych chi'n gobeithio ymlacio a hamddena, yn ogystal â gwella pa mor ystwyth ydych chi, rydym yn cynnig y dosbarthiadau hyn - ymarfer corff cymedrol, symud â sain, pilates, tai chi a ioga. Neu beth am roi cynnig ar rywbeth ychydig yn wahanol fel boladdawnsio?
Rydym hefyd yn cynnal cyrsiau ymarferol ar gymorth cyntaf a hylendid bwyd, y mae'r ddau ohonynt yn arwain at gymhwyster.
Yn ein Gweithdai ar Fyw mewn modd Cynaliadwy a Hamdden fe gewch ddigonedd o gyfle i drafod pethau. Maent hefyd yn ffordd wych o fwrw golwg fanylach ar y pynciau hyn er mwyn eu deall yn well.