Sbardun+
Prosiect gan Dysgu Sir Benfro yw Sbardun+ sy’n cynnal ystod eang o gyrsiau hwyliog, am ddim a chyffrous i oedolion a theuluoedd i ddatblygu sgiliau mathemateg a rhifedd mewn 12 o ysgolion cynradd partner yn Sir Benfro.
Pam ymuno â Sbardun+?
Trwy ymuno ag un o’n cyrsiau gallwch chi a’ch teulu gael hwyl, dysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd, a symud ymlaen.
Pa fathau o gyrsiau allwch chi eu gwneud?
Mae cyrsiau Sbardun+ wedi’u cynllunio i oedolion a theuluoedd gael hwyl wrth ddysgu a datblygu sgiliau newydd a hanfodol sy’n ategu pedwar diben craidd y Cwricwlwm newydd i Gymru.
Er bod y rhaglen a gynigir gan y prosiect yn amrywiol ac yn cysylltu â phob maes dysgu a phrofiad, mae sgiliau mathemateg a rhifedd wedi’u gwreiddio’n greadigol yn ein holl weithgareddau mewn ffordd ymarferol ac ystyrlon.
Ble gallaf weld yr amserlenni presennol?
Mae pob ysgol bartner yn rhannu gwybodaeth am ba weithdai sy’n cael eu cynnal yn eu hysgolion trwy eu apiau eu hunain fel ClassDojo, Seesaw a ParentMail. Fodd bynnag, os ydych chi am weld yr amserlenni Sbardun+ ar gyfer pob maes yn fras, ewch i’r Padlet Sbardun+ (yn agor mewn tab newydd)
Pwy all gymryd rhan?
Mae cyrsiau Sbardun+ yn agored i oedolion sydd â phlentyn yn eu teulu sy’n mynychu un o’n 12 ysgol bartner ac sy’n teimlo y byddant yn elwa o gymryd rhan yn ein cyrsiau.
Pryd mae gweithgareddau Sbardun+ yn cael eu cynnal?
Mae Sbardun+ yn cynnal rhaglen wahanol o weithgareddau bob ochr i bob hanner tymor. Mae ein sesiynau bore a phrynhawn wedi’u hamseru’n berffaith i gyd-fynd â’r diwrnod ysgol yn ystod y tymor yn unig.
Ble mae ein gweithgareddau yn digwydd?
Mae cyrsiau Sbardun+ yn cael eu cynnal yn ystafelloedd cymunedol pob ysgol gynradd bartner.
A oes help ar gael gyda gofal plant?
Yn amodol ar y galw ac argaeledd, gall Sbardun+ ariannu lleoliadau crèche am ddim mewn lleoliadau gofal plant cofrestredig i blant cyn oed ysgol.
Sut gallwch chi gymryd rhan?
Mae’n hawdd cymryd rhan. Gallwch glicio ar y ddolen cadw lle y mae ysgolion yn ei rhannu ynghyd â’n taflenni yn eu apiau ysgol fel ClassDojo. Fel arall, gallwch anfon neges destun, ffonio neu anfon neges e-bost at y cynghorydd Sbardun+ sy’n gyfrifol am ddarparu Sbardun+ yn eich ysgol bartner.
Sut mae ein cyrsiau yn cael eu hariannu?
Mae cyrsiau Sbardun+ yn cael eu hariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU
I drafod sut y gallech weithio gyda phrosiect Sbardun+, cysylltwch â:
Laura Phillips, Cydlynydd Sbardun+
Ffôn: 07500 918 050
E-bost: laura.phillips@pembrokeshire.gov.uk