Ein Cyrsiau
Sgiliau a Gweithgareddau Eraill
Sgiliau creadigol a pherfformio
Os ydych chi erioed wedi breuddwydio am allu dawnsio, canu offeryn cerdd, ysgrifennu llyfr neu beintio llun . . .
Neu efallai eich bod yn dymuno mynd i'r afael â'ch camera digidol a newid maint neu ailgaboli eich ffotograffau . . .
Neu efallai eich bod yn dyheu am fod yn greadigol mewn ffyrdd eraill; gwneud eich gemwaith, cardiau cyfarch neu'ch cerameg eich hun. . .
Neu efallai taw'r unig beth yr ydych yn ei ddymuno yw joio eich hun a chwrdd â phobl newydd . . .
Ni waeth beth yw'ch diddordeb penodol, mae gan Sir Benfro yn Dysgu ddosbarthiadau bach, cyfeillgar ym maes sgiliau creadigol a pherfformio. Gallant fod yn fodd i hybu hunanhyder yn eich dewis faes a'ch helpu i wireddu eich breuddwydion!
Mae'r cyrsiau'n addas ar gyfer dechreuwyr pur, yn ogystal â'r bobl hynny sy'n dymuno meithrin ac ymarfer eu sgiliau.
Diddordebau cyffredinol
Byddwn yn ceisio darparu amrywiaeth eang o gyrsiau sy'n addas ar gyfer pawb - trigolion a busnesau Sir Benfro. Ni waeth beth yr ydych am ei wneud - meithrin sgiliau a diddordebau newydd, dilyn cwrs er mwyn ennill cymhwyster neu hybu eich gobeithion gyrfaol, mae ein cyrsiau'n rhoi'r cyfle perffaith ichi.
Mae'r adran hon yn ymdrin ag amrywiaeth eang o gyrsiau sy'n darparu ar gyfer pobl sydd am feithrin sgiliau mewn hobïau a difyrion poblogaidd, yn ogystal ag un neu ddau o ddiddordebau arbenigol.
Ymysg ein cyrsiau ymarferol mae yn ogystal â sgiliau mordwyo - y gellir eu hastudio hyd at lefel cymhwyster y RYA.
Ar ben hynny bydd cyrsiau ar ffotograffiaeth draddodiadol (ar gyfer ffotograffiaeth ddigidol a llawdrin delweddau, chwiliwch o dan TG/Cyfriadura), barddoniaeth a hanes.
Mae gyda ni ddewis o gyrsiau hanes, fel hanes lleol, hanes cenedlaethol a'r cwrs mwy ymarferol sy'n olrhain hanes eich teulu - ar gyfer y bobl hynny sy'n dymuno cael gwybod y gwir am eu gwreiddiau.
Ieithoedd modern
Mae dysgu iaith newydd yn gallu bod yn fater hwyliog a gwerth chweil. Efallai eich bod yn bwriadu mynd dramor ar wyliau neu gymryd y camau cyntaf tuag at fywyd newydd mewn gwlad dramor. Ni waeth beth yw'ch rhesymau, mae gan Sir Benfro yn Dysgu amrywiaeth aruthrol o gyrsiau iaith sy'n addas ar gyfer pawb - o'r dechreuwr pur hyd at y dysgwr uwchraddol.
Pa ieithoedd allaf i eu dysgu?
Ar hyn o bryd mae cyrsiau ar gael yn yr ieithoedd hyn:
- Almaeneg
- Eidaleg
- Ffrangeg
- Groeg
- Rwseg
- Sbaeneg
Sut fyddaf i'n gwybod pa lefel y bydd arnaf ei hangen?
Cyrsiau gwyliau: Bwriad y cyrsiau hyn yw rhoi sgiliau hanfodion iaith i chi er mwyn ichi allu mwynhau a manteisio i'r eithaf ar eich gwyliau mewn gwlad dramor. Byddwch yn dod i ddeall, mewn modd ymarferol, beth yw hanfodion yr iaith a byddwch yn deall sut i gyfathrebu'n llwyddiannus.
Blwyddyn 1: Nod y cwrs hwn yw eich rhoi ar ben y ffordd, mewn modd syml, ynghylch beth yw strwythur yr iaith a'ch galluogi i ddefnyddio'r iaith yn effeithiol mewn nifer o sefyllfaoedd bob dydd. Mae'r cwrs hwn yn addas i bobl nad ydynt yn gwybod fawr ddim am yr iaith.
Blwyddyn 2: Bwriad y cwrs hwn yw meithrin yr hyn a wyddoch am yr iaith. Bydd yn cynorthwyo pobl i ymdrin, yn hyderus, ag amrywiaeth o sefyllfaoedd ac i sgwrsio am wahanol bynciau, yn cynnwys y gorffennol a'r dyfodol. Dylai'r myfyrwyr fod wedi dilyn cwrs rhagarweiniol neu dylent feddu ar beth profiad o astudio/siarad yr iaith.
Blwyddyn 3: Cwrs canolradd yw hwn ac fe gaiff ei anelu at y bobl hynny sydd â gwybodaeth sylfaenol, gadarn o'r iaith. Bydd yn eich cynorthwyo i feithrin y sgiliau cyfathrebu gan ddefnyddio amrywiaeth o amserau'r ferf, gramadeg a geirfa. Dylai'r myfyrwyr fod wedi cwblhau cwrs rhagarweiniol neu dylent feddu ar 1-2 flynedd o brofiad o astudio'r iaith.
Blwyddyn 4: Bydd y cwrs hwn yn eich cynorthwyo i feithrin rhagor ar eich sgiliau iaith, trwy gyfrwng astudio uwch ramadeg, testun a recordiadau cyfoes, ac agweddau eraill ar ddiwylliant cyfoes. Bydd y dosbarthiadau'n rhoi'r cyfle ichi ddod yn fwy rhugl a deall yr iaith yn well, a hyn i gyd mewn awyrgylch agored a chyfeillgar. Dylai'r myfyrwyr fod wedi astudio'r iaith ers o leiaf 2-3 blynedd.
Blwyddyn 5: Cwrs lefel uwch yw hwn sydd wedi'i anelu at y bobl hynny sydd wedi astudio'r iaith ers 3-4 blynedd ac sy'n dymuno ymarfer eu sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu yn yr iaith ar lefel uwch.
Pa gymwysterau sydd ar gael?
Er bod rhai o'r dosbarthiadau'n cael eu hachredu, nid yw pob un ohonynt yn arwain at gymhwyster ffurfiol. Fodd bynnag, fe gewch adborth yn rheolaidd gan eich tiwtor ynghylch y cynnydd yr ydych yn ei wneud ac fe gewch gynllun dysgu unigol i gofnodi eich nodau a'ch llwyddiannau personol.
Am faint mae'r cwrs yn para?
Bydd y cyrsiau'n cael eu cynnal am rhwng un awr a dwy awr yr wythnos, a hynny dros dri thymor o 10 wythnos yr un. Fel rheol caiff cyrsiau gwyliau eu cynnal dros gyfnod o un neu ddau dymor yn unig.