Ein Cyrsiau
Sgiliau Digidol
Ni waeth a ydych chi’n chwilio am waith neu hamdden, mae gyda ni’r cwrs cyfrifiadurol iawn ar eich cyfer chi.
Mae Cyrsiau Lefel Ragarweiniol fel y Llythrennedd digidol - Camau cyntaf yn berffaith i’r dechreuwr pur neu beth am ichi roi cynnig ar ein cyrsiau meithrin sgiliau os ydych chi’n dymuno datblygu rhagor ar eich sgiliau.
Llythrennedd Digidol - Rhagor o sgiliau - Galluogi dysgwyr i weithio a chyfathrebu ar-lein mewn modd diogel a chyfrifol gydag ymwybyddiaeth o’u hôl-troed digidol personol. Rhyngweithio’n ddiogel ar-lein, dysgu sut i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a defnyddio diogelwch cyffredinol i ddiogelu eich dyfeisiau digidol a’ch gwybodaeth.
Bydd nifer fawr o’n cyrsiau, gan gynnwys cwrs sgiliau Microsoft Office ac ICDL yn arwain at gymhwyster ITQ. Mae ITQ yn ddull hyblyg o ennill sgiliau cyfrifiadurol newydd a chael cymhwyster gwerthfawr ar yr un pryd, ni waeth beth yw’ch rheswm dros wneud hynny - gwella eich gobeithion gyrfaol neu eich cynorthwyo i deimlo’n fwy hyderus pan fyddwch chi’n defnyddio cyfrifiadur yn eich amser hamdden.
Os gwyddoch chi rywfaint am TG yn barod, yna peidiwch â becso. Byddwn yn cymryd i ystyriaeth unrhyw gymwysterau cydnabyddedig yr ydych wedi eu hennill eisoes er mwyn sicrhau nad oes rhaid ichi drin a thrafod pynciau yr ydych yn eu deall yn barod.
Dim amser am gwrs hir? Beth am roi cynnig ar un o’n gweithdai blasu hanner diwrnod?
Heb weld eich dewis gwrs chi? Yna mae croeso ichi ffonio TG Gymunedol ar 01437 770130 neu anfon e-bost at communityit.learning@pembrokeshire.gov.uk er mwyn ichi gael trafod eich anghenion â’n tîm cyfeillgar.